Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae'r Parchedig Gwilym Morris, Caerffili, awdur y gyfrol 'Yr Enfys yn y Glaw', yn adnabyddus fel bardd ac ysgrifwr nodedig. Dyma Emyn arbennig o'i law sy'n olrhain llwybr Ffydd ynghanol cystudd. Emyn Cysegru'r Capel Newydd 1986 Bendigwn d'Enw, Arglwydd da, am ffordd afjydd Y rhai a fynnodd Fethel yma cyn ein dydd,- Dy blant, ar bwys dy air, ar daith yn deisyf gwlad, A addunedodd yma i Ti yn Nhŷ eu Tad. Carasom ni'r eilunod hunan, fwy na mwy, Yn awr, yn fawr ein hedifeirwch, claddwn hwy, Gan gyfamodi wrth allor Bethel newydd oes A 'n ffydd o hyd ym mythol solas gras y Groes. Dy iachawdwriaeth 'fyddo 'n haul y demel hon Lle plygodd crefft er mwyn y Crist, mewn aberth llon: Yn gartref moliant melys bydded iddo Ef, I ninnau, bererinion, boed yn borth y Nef Dafydd Owen. Rhag imi golli blas ar hen fwynderau, Swn awel pan nad yw ond si, Cwmni'r ychydig o 'gyffelyb feddwl' O, Arglwydd, gwared fi. Rhag imi weld y mur heb weld yr Orsedd, Ac ofni her caeëdig ddôr, A derbyn Rheswm oer yn lle gweddïo, O, achub fi, fy Iôr. Rhag digalonni yn y boen arteithiol, A'r cwpan chwerw wrth fy min, A rhag im golli ffydd wrth flasu'r gwaddod, Rho imi Ddwyfol win. Rhag colli'r ffordd yng nghanol berw'r draffordd, A gwrthod Nerthoedd Byd a ddaw, A chefnu'n ffrom ar gwmni'r pererinion, O Dduw, rho im Dy law. A rhag imi gan amled y cystuddiau. Ddiffygio'n llwyr heb nerth i'w dwyn, Rho weld yr enfys drwy'r cawodydd trymaf, A rho Oleuni mwyn. Gwilym Morris, Caerffìli. Yn oes cau capeli, profiad cymharol ddieithr yw clywed am gapel yn cael ei agor. Ar Nos lau Mehefin 19, Cysegrwyd ac Agorwyd Capel Annibynnol Bethel yr Wyddgrug o dan weinidogaeth y Parchedig G. Graham Floyd. Cyfansoddwyd Tôn briodol yn dwyn yr enw 'BETHEL NEWYDD' gan Mr. J. Ceurwyn Evans, i nodi'r achlysur, a dyma eiriau'r Emyn a ysgrifennwyd gan y Prifardd Dafydd Owen i ddathlu'r Agoriad. Rhag imi golli