Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR UN GWAHANOL Ydynt, maent wedi cyrraedd eleni eto. Yn eu tymor? Go brin! hynny yw, os nad ydyw dyn wedi deddfu mai canol mis Awst ydyw eu hiawn bryd! Dyma iawn bryd y mwyar duon wrth gwrs ond nid felly eleni. Rhyw ffrwyth bach tila, crebachlyd oedd i'w weld yn y gwrychoedd gan fwyaf, ffrwyth wedi ei amddifadu o'r haul. Felly hefyd y cnau! Nid oedd digon o wres i chwyddo'r ffrwyth yn y plisgyn. Ond os na ddaeth haf'86 â ffrwyth i'r gwrychoedd na haul i'r wybren, fe gawsom ni gardiau Nadolig i'n sirioli ym mis Awst. I'n sirioli? Tybed! Wel, 'roedd yr ymwelwyr yn eu prynu wrth y dwsinau neu'n hytrach wrth y degau. Dichon fod rhaid i'r cardiau hyd yn oed symud hefo'r oes. Wrth gwrs mae rhai ohonom yn ddigon darbodus i anwybyddu gwanc y siopwyr, yn ddigon call i rwygo'r amlenni a ddaw drwy'r drws heb drafferthu i ddarllen yr anogaeth i gefnogi achosion da trwy archebu car- diau rhag blaen. Rhowch eich rheswm ar waith, meddai'r doethion, pa synnwyr sydd mewn gwastraffu arian ar gar- diau a fydd angen stampiau arnynt i'w hanfon, stampiau sydd yn aur yng nghoffrau llywodraeth filitaraidd Lloegr? Anfon arian yn uniongyrchol at achosion da a dyna ben arni. Dyna'r ateb! A pha ateb sydd yna i'r ateb hwnnw? Ond wedi cilio oddi wrth y fath ddoethineb, rhyw fudr gyfiawnhau ein hunain y byddwn ni'r meidrolion trwy resymu yn ein ffordd fach bitw ein hunain fod rhaid cofio hen ffrindiau y byddwn, yn hollol ddigydwybod, yn eu han- wybyddu am y gweddill o'r flwyddyn. Digon teg! Digon gwir! Ond, o leiaf, rydym yn ailgylymu'r llinynnau unwaith yn y flwyddyn, rydym ni'n anfon newyddion teuluol dethol, rydym ni'n tanio matsien i ailgynnau fflam ym marwydos ambell hen dân. Ac heb orfanylu, pwy all ddadlau nad ydyw'r fath resymeg yn dal dwr? Wedi'r cwbl, y neges sydd yn bwysig hyd yn oed os bydd brys arnom nes gorfod dibynnu ar y neges brin- tiedig. Pwy sydd yn sylwi ar y llun wedi'r cwbwl? O'r naill flwyddyn i'r llall, yr un ydyw'r celyn, yr un ydyw'r cinio a'r un rhai ydyw'r lluniau ar y cardiau yr un golomen hawddgar yn cario'i deilen fregus, yr un camelod amyneddgar yn car- io'r doethion lliwgar a'r un seren ddisglair yn wincio ar y bugeiliaid gwyliadwrus. Ac felly'r baban! Mor annwyl y naill flwyddyn ar ôl y llall er bydd pawb bron yn ei roi o'r naill du gynted ag y bydd yr arwerthiannau ym mis Ionawr wedi dechrau. Er hynny, mae'r baban yn dal mor berffaith â baban y Nadolig cyntaf hwnnw, y Nadolig cyntaf erioed. Ond y llynedd, fe ddaeth cerdyn gwahanol i'n tŷ ni. Nid fy mod i wedi sylwi ei fod yn wahanol ar yr olwg frysiog gyntaf wrth i mi ei sodro yng nghanol y lleill ar y dresel. Wir, ni chafodd y llun arno ddim mwy o'm sylw na'r cardiau Robin goch boliog, y cardiau cathod bodlon yn swatio o flaen tân fflamiau, y cardiau'r plant bach henffasiwn yn chwarae peli eira, y cardiau gydag eglwysi ar y gorwel a'r sêr uwchben, rh ai Marged Pritchard o'r eglwysi gyda ffyddloniaid yn ymlwybro tuag atynt drwy'r eira ac yn gadael ôl eu traed o'r tu ôl iddynt a'r olion rheiny'n aros hyd dragwyddoldeb y cerdyn. Ond Hetta a dynnodd fy sylw at y cerdyn gwahanol. Roedd hi wedi sefyll o flaen y dresel i fwrw golwg llygaid barcud dros y cardiau. Yn sydyn, dyma hi'n gafael ynddo, yn ffyrnig feirniadol. "Dydi'r llun yma ddim yn iawn", dyfarnodd. Gafaelais innau ynddo i'w amddiffyn. Wrth syllu arno, gwelwn eglwys yn olau yn y cefndir gydag anialwch mawr gwyn yn ymestyn o'i blaen-eira, siwr iawn, hyd yn oed os nad oedd ôl traed arno. O fewn rhyw fodfedd i waelod y cerdyn, roedd yna ffens eiddil yr olwg, rhyw weiren o ffens ond heb fod yn weiren bigog chwaith achos roedd crwt bach yn eis- tedd arni â'i wyneb tua'r eglwys. Eisteddai cath lwyd yn gefnsyth wrth ei ochr ar y ffens. Arni hefyd, yn llawn doethineb ond ychydig ar wahân, roedd robin bach busneslyd. Ffromais braidd. Roedd o'n gerdyn ddigon da fyth. Yn symol ddidaro, dywedais: "Wela i ddim o'i le arno!" "Dim ôl traed yn unlle, nagoes?" Ei osod yn ei ôl yn dringar ar ganol y silff a wnes i a gwrthod dadlau. Roedd o oddi wrth hen ffrind annwyl i mi a pha 'run bynnag, gan nad oedd Hetta byth yn tywyllu lle o addoliad, nid oeddwn am roi boddhad iddi trwy ddweud fod cawod fach o eira yn eithaf rheswm gan lawer beidio â men- tro i na chapel nac eglwys. Beth bynnag am hynny, y Sut ar ôl y Nadolig, fe gawsom ni gnwd o eira ac fe roedd yna rywfaint o ôl troedio arno hyd yn oed cyn oedfa'r bore ac roedd o wedi colli dipyn o'i sglein erbyn oedfa'r nos. Roedd hi'n wasanaeth cymun arnom ni ac awyrgylch go arbennig y tu mewn i'r capel. Yn sydyn, dyma gnoc feddal ar y ffenest ond chymerodd neb fawr o sylw, dyma un arall galetach ac un arall daer i'w dilyn. Ni chyffrôdd yr un enaid a chafodd y ffenest lonydd. Wrth i ni fynd allan, daliai'r plant i chwarae peli eira ond yn y pellter bellach. Blino cael eu hanwybyddu wnaethon nhw neu cilio rhag cael llond ceg gan un o'r. Na! Ddywedai ddim un o'r saint! Edrychais ar ôl eu traed ar yr eira gwyn. Yr un olwg yn union oedd ar ôl ein traed ninnau ychydig yn fwy efallai. Wedi cyrraedd adref, sylwais unwaith yn rhagor ar y cer- dyn. Daliai'r crwtyn i eistedd, daliai i syllu ar yr eglwys ond 'doedd dim ôl traed ar yr eira. Clywais eiriau Hetta'n fy nghlustiau. "Dydi'r llun yma ddim yn iawn!" Y tro yma, cytuno a wnes i ond heb ddweud yr un gair yn uchel. Tybed a fydd yna ôl traed ar yr eira o gwmpas yr eglwys ar y cardiau eleni? Gobeithio wir!