Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

eu naddu, "Here lies the remains of Mrs. Penelope Fielding Coke, wife of the Rev. Thomas Coke She departed this life on the 25th. January 1811 nearly forty-nine Also of Mrs. Ann Coke, second wife of the Rev. Dr. Coke, daughter of Joseph Loxdale, Esq., died on the 5th. day of December 1812. in the 57th. year of her age Yn ymyl mae carreg arall yn y llawr ac enw Bartholomew Coke arni, "apothecary and com- mon councilman of the Borough, who died 7th. May 1775, also his wife Anne, who died 17th. May 1783". Yn Aberhonddu hefyd, y bwriadodd Thomas Coke i'w weddill- ion yntau gael eu daearu ond nid felly y bu. Bu farw 3 Mai 1814, ar fwrdd y llong "Cabalva", ar ei ffordd i Ceylon. Am bump o'r gloch. yn hwyr yr un diwrnod, gollyngwyd corff Thomas Coke, mewn arch o bren ffawydd, i'r môr a oedd, erbyn hynny, wedi tawelu ar ôl dyddiau o stormydd blin. A'r Cymry Os carodd Thomas Coke Gymru, ei wlad, carodd Gymry, ei bobl, hefyd. a bu iddo, o drefniad neu drwy gyd- ddigwyddiad, berthynas ag amryw o Gymry, neu rai o dras Gymreig. Clywed Thomas Coke yn pregethu yn hen Neuadd Dref Aberhonddu "bregeth genhadol" fu'r cyfrwng i argyhoeddi John Hughes ac ef, ar y pryd, heb adael ysgol. A ymunodd John Hughes a'r Wesleaid ar ôl hynny. tybed? Bu pregethu yn Gymraeg, ac yn Saesneg, yn y capel yn Little Free Street. A phan ddaeth yr amser, ym 1800. a Thomas Coke o dan deimlad, yn pledio â'r Gynhadledd i anfon cenhadon i bregethu'r Efengyl letach, yn Gymraeg. ymhlith ei "kinsmen, the Welsh of North Wales", John Hughes, ar berswâd Thomas Coke, a anfonwyd, hefo Owen Davies, i ddechrau'r genhadaeth. 'Doedd gan Owen Davies fawr o grap ar yr iaith ond gan John Hughes 'roedd "understanding of the Welsh language". Cyhoeddodd Coke A Commentary of the Holy Bible ac ni fu'n hir cyn chwilio am rywun a fuasai'n paratoi talfyriad o'r esboniad, yn Gymraeg, oherwydd iddo deimlo i'r byw dros y Cymry, "the Welch" meddai. "have very few well-written books in their language" ac, "it becomes to me a call of duty" (h.y., i drosi'r esboniad) "which I dare not resist". Thomas Roberts o Gorwen, un o'r pregethwyr teithiol cyntaf, a gafodd i gyfieithu'r adran ar yr Hen Destament, a John Hughes yr adran ar y Testament Newydd. Ei Sêl Genhadol Ymwelodd Thomas Coke â Wesleaid, Saeson a Chymry, yn Llaneurgain, Caergybi. Wrecsam. Llanrwst, Dinbych, Tre- ffynnon a'r Wyddgrug yng Ngogledd Cymru. Nid anghofiodd Ddeheudir Cymru chwaith. Ac ar ei deithiau. daeth i adnabod Cymry o iaith, rhai nad oeddent Wesleaid, un oedd Griffith Owen, gwr duwiol, a Chalfin o Gaergybi. Thomas Coke a fu'n gyfrifol am ddechrau y gwaith cenhadol yn Iwerddon, ac wrth deithio yno, drwy Gymru, ym 1799, yr argyhoeddwyd ef o'r angen am genhadu yng Nghymru, gan ystyried mai un oedd yr angen. ymhlith y Gwyddelod yn Iwerddon. ag ydoedd ymhlith y Cymry yng Nghymru. Estyniad o'r genhadaeth yng Nghymru oedd y cenhadu a ddechreuwyd yn Llundain, a Thomas Coke fu'n gyfrifol am hwnnw. Gorffennaf 1808, penodwyd Edward Jones yn genhadwr yno. Ymhen y tlwyddyn, barnodd y pwyllgor cenhadol "that the Welsh Mission in London ought to be dis- continued, because the success, or even the probability of success, bears no proportion to the Expence". Gwrthwyn- ebodd y Doctor y cynnig a mynnu fod "a Welsh-speaking preacher" yn cenhadu ymhlith "my poor country men in London". Ac felly y bu am rai blynyddoedd wedyn. Gogledd a Deheudir Cymru, a Llundain, lle bynnag yr oedd Cymry, ymdeimlodd Thomas Coke â'r rheidrwydd i genhadu yn eu plith. Ef oedd sylfaenydd y Genhadaeth Dramor a llawn mor bwysig iddo oedd y gwaith cenhadol yng Nghymru. Gwnaeth fwy i Gymru. ac i Wesleaid o Gymry, nag a wnaeth Wesley a'r rheswm am hynny, gallwn dybio, oedd y ffaith fod gwaed ei hynafiaid o Gymry yn llifo yn ei wythiennau a'r angerdd am achub eneidiau yn llenwi ei galon.