Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

[X]@(105)[M Prifathro Emeritws Dafydd G. Davies Gol: Gair am eich teulu a ch cefndir i ddechrau. D.G.D: 'Roedd mam yn hanu o Gaernarfon, yn aelod gyda'r Eglwys Bresbyteraidd a nhad yn dod o Flaenwaun yn yr hen Sir Benfro. 'Roedd nhad, y Parchedig J. Clement Davies, yn weinidog gyda'r Bedyddwyr ym Mhenuel, Tyddyn Siôn, yng ngwlad Lleyn pan y'm ganed i, yn unig blentyn iddynt. Gol:Â Chastell Newydd Emlyn ry'n ni'n cysylltu enw'r Parchedig J. Clement Davies. Mae'n rhaid eich bod chi wedi symudyno o'r Gogleddyn ifanc? D.G.D: Do, cefais fy addysg gynnar yn Ysgol Castell Newydd Emlyn cyn symud ymlaen i Ysgol Sirol Aberteifi. Gol: Oes gennych chi atgofion hapus am yr ysgol yn Aberteifi? D.G.D: Hapus dros ben. 'Roedd y Prifathro, Mr. Tom Evans yn ddisgyblwr manwl, ond yn un hefyd a ymddiriedai awdurdod i ddisgyblion hynaf yr ysgol. Fel un a gafodd y fraint o fod yn Brif-Ddisgybl yr ysgol am ddwy flynedd fe fu'r cyfle a gefais i arfer ychydig o arweinyddiaeth o dan ei fugeiliaeth ofalus efyn gymorth mawr imi yn fy ymwneud â dynion a merched yn nes ymlaen. Mae atgofion da gennyf am athrawon megis Mr. W. R. Jones, Miss Mona Hughes a Miss Gwennant Davies. Yn yr ysgol y cyneuwyd fy niddor- deb mewn hanes a chefais gyfle i ddechrau dysgu Groegyno. Yr unig gwyn sydd gennyf, yn erbyn y drefn addysgol yr adeg honno, yn fwy nac yn erbyn yr ysgol, yw'r modd y bu'n rhaid dewis rhwng Cymraeg a Ffrangeg fel pynciau. Dewis creulon oedd hwnnw, a gwelais gannoedd o eisiau'r Ffrangeg yn nes ymlaen. Gol: I'r Coleg ym Mangor aèihoch chi wedyn, neu i'r Colegau yn hytrach, sefColegy Brifysgol a Cholegy Bedyddwyr. Fedrwch chi ddweud ychydig am eich cyfnod yno? D.G.D: Fe fûm i ym Mangor am gyfnod o naw mlynedd i gyd gan imi wneud gradd mewn Economeg i ddechrau, gradd mewn Groeg ac yna'r B.D. Cyfnod y rhyfel oedd hi gyda'i gyfnewidiadau a'i anawsterau. Morgan J. Rees oedd Athro yr Adran Economeg yn y Brifysgol, darlithydd byw, ac yr oedd yr Athro D. James Jones yn yr Adran Athroniaeth, gyda'i ber- sonoliaeth urddasol, yn ddarlithydd gwych hefyd. Yr Athro Groeg oedd R. E. Wicherley, gŵr yr oedd hi'n fwynhad bod yn ei gwmni. Wrth droi i wneud B.D., J. Williams Hughes oedd Prifathro Coleg y Bedyddwyr ac yntau hefyd oedd yn darlithio ar Roeg y Testament Newydd. Roedd gennym ni fel Bedyddwyr barch mawr hefyd i'r ddau ddarlithydd yng Ngholeg Bala-Bangor, Gwilym Bowyer gyda'i dreiddgarwch a'i ynni a Pennar Davies a oedd ac sydd eto yn gyfuniad, perffaith o dynerwch a chadernid. Ond y profiad mwyaf cyfareddol a gefais ym Mangor oedd dilyn cwrs R. T. Jenkins ar Gristnogaeth Gynnar yng Nghymru a Gâl. Gol: Fe fuoch chi'n Llywydd Undeb Myfyrwyr y Brifysgol on'd do? D.G.D: Yn ystod sesiwn 1945-46 y bu hynny, a dyna brofiad gwerthfawr eto mewn ymwneud â phobl, a chan fod y Coleg yn gymharol fychan ar y pryd cefais gyfle drwy'r swydd i fod ar delerau personol â'r rhan fwyaf o'r Athrawon ac aelodau'r staff. Gol: Cael eich ordeinio'n weinidog gan Enwad y Bedyddwyr wedyn? D.G.D: Na, fe dreuliais gyfnod yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen wedyn yn gwneud gwaith ymchwil ar agweddau ar Broffwydoliaeth Gristnogol gan dalu sylw arbennig i'r Cyfnod Patristaidd o dan gyfarwyddyd Claude Jenkins, gẁr hynod o wybodus. Ac er na fu imi ddwyn y gwaith i ben fel y dymunwn bu'r profiad a gefais yno yn gymorth mawr imi fedru siarad â myfyrwyr yn nes ymlaen a'u bugeilio'n briodol. Arferwn fynd i gyfarfodydd yr Oxford Union hefyd lle'r oedd Robin Day a Jeremy Thorpe yn oleuadau llachar ar y pryd.