Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HEN GYFAMOD ISRAEL A'I FFYDD Teyrnas Dafydd Dr. Gwilym H. Jones Fel y gwelwyd yn barod, yr oedd dau gyfamod pwysig wedi eu gosod yn sylfeini i ffydd Israel cyfamod Duw ag Israel, a oedd wedi ei gysylltu â'r waredigaeth o'r Aifft, a'i gyfamod ag Abram, a oedd yn baratoad mewn addewid ar gyfer yr hyn oedd i ddilyn. Ar ôl yr ymsefydlu yng Nghanaan a gosod trefn ar fywyd yno, daeth cyfamod arall i chwarae rhan oll- bwysig yn eu ffydd, sef cyfamod Duw â Dafydd ac â'i frenhiniaeth. Trwy'r proffwyd Nathan y gwnaed hwn, ac fe gynnwys addewidion i ddisgynyddion Dafydd a fydd yn ei ddilyn ar yr orsedd: "A phan gyflawnir dy ddyddiau di mi a godaf dy had di ar dy ôl a mi a gadarnhaf ei frenhiniaeth ef minnau a gadarnhaf orseddfainc ei frenhiniaeth ef byth. Myfi a fyddaf iddo efyn dad, ac yntau fydd i mi yn fab fy nhrugaredd nid ymedy ag ef A'th dy di a sicrheir. a'th frenhiniaeth. yn dragywydd o'th flaen di: dy orseddfainc a sicrheir byth" (2 Sam.7:12-16). Ceir awgrym cynnil yma o'r disgwyliadau a fydd oddi wrth y frenhiniaeth ac o gosb Duw os na fyddai'r brenhinoedd yn ymateb yn deilwng a chywir: "Os trosedda efe, mi a'i ceryd- daf â gwialen ddynol, ac â dyrnodiau meibion dynion" (adn. 14). Ond ery cosbi dros dro, nid oes unrhyw amheuaeth na fyddai trugaredd Duw'n parhau. Yn y tyndra rhwng y ddwy elfen yma y cyflwynir hanes Israel trwy gyfnod y frenhiniaeth. Pwysleisia'r cyflwyniad o hanes y brenhinoedd mai gwneud drwg yr oeddent i gyd: gyda chysondeb di-dor bron y dyfarniad arnynt oedd, "ond (efe) a wnaeth ddrygioni yng ngŵydd yr ARGLWYDD canys efe a rodiodd yn holl ffordd Jeroboam mab Nebat, ac yn ei bechod ef, trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu". Y ddau eithriad oedd Heseceia (i raddau). a Joseia. Felly. yng ngeiriau proffwydoliaeth Nathan, 'troseddwyr' oedd y brenhinoedd i gyd yng ngolwg Duw. Dengys yr hanes yn gyson fel yr oedd Duw'n eu ceryddu "â gwialen ddynol" trwy anfon gelynion i'w herbyn: yn y ffordd hon y meddyliodd am symudiadau cenhedloedd a'u byddinoedd yn erbyn Israel. boed yn Syria. yr Aifft. Asyria neu Fabilon. Gallai Eseia felly ddisgrifio Asyria fel gwialen llid Duw, a'r ffon yn llaw Asyria fel ei ddigofaint ef (Es. 10:5), a'r un modd yr Ail-Eseia sôn am Dduw yn digio wrth ei bobl ac yn eu rhoi yn llaw Babilon (Es.47:5-7). Dyma'r ffordd yr oeddent yn dehongli hanes. oherwydd yr hyn a welent trwy'r daith i gyd oedd 'trosedd' a 'chosb'. Ond y rhyfeddod oedd i'r frenhiniaeth barhau ac i orseddfainc Dafydd aros mor ddi-ysgog er gwaetha'r helyn- tion: y rheswm oedd fod Duw yn cadw'r addewid i Ddafydd. a bod ei drugaredd ef heb ymadael oddi wrth y frenhin- iaeth. Oherwydd eu sicrwydd o'r addewid i Ddafydd. yr oedd proffwydi Israel yn medru gobeithio yng nghanol dyddiau anodd ac argyfyngus. Pan oedd ambell i frenin yn fwy aneff- eithiol na'i gilydd. a'i 'drosedd' yn fawr yng ngolwg y rhai a gyflwynai Air Duw, a phan oedd dyrnod y gosb o'r herwydd yn un galed a garw. yr oeddent yn credu y gallai Duw godi brenin rhagorach o linach Dafydd a rhoi cychwyn newydd i'w bobl. Gellir nodi tair enghraifft o lyfr Eseia. Perthyn y gyntaf gyfnod argyfyngus y bygythiad o du Syria ac Effraim; yr oedd y brenin Ahas yn gwrthod cyngor y proffwyd i gadw'n niwtral ac am fynnu anfon am gymorth Asyria. Neges y proffwyd oedd y byddai gwraig ifanc feichiog ar y pryd (ei wraig ei hun, o bosibl) yn galw ei phlentyn yn 'Immanuel' (Duw gyda ni) i gofio am y waredigaeth o law Syria ac Effraim ac y byddai'r perygl wedi hen fynd heibio erbyn i'r plentyn fedru gwrthod y drwg a dewis y da (Es.7: 14- 15). Cadarnheir felly mai dros dro y pery'r ddyrnod ddynol, gan y bydd Duw yn gwaredu ac yn gofalu am orsedd tŷ Dafydd. Bu'r ddyrnod gan Asyria yn nyddiau Eseia yn un drom a chreulon, a gwnaeth yr Ymerodraeth dair talaith iddi ei hun yng ngogledd Israel, sef Dor ("ffordd y môr"), Gilead ("tu hwnt i'r Iorddonen") a Megido ("Galilea'r cenhed- loedd"). Ond gyda diflaniad Ahas, a fu'n gyfrifol am ymyriad Asyria, a gorseddu Heseceia'n olynydd iddo, byddai dyddiau disgleiriach yn dilyn (gw. Es.9:2): "Canys bachgen a aned i ni. mab a roddwyd i ni; a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef. a gelwir ei enw ef: Rhyfeddol Gynghorwr, y Duw Cadarn, Tad Tragwyddoldeb, Tywysog Tangnefedd" (adn.6). Gyda dyfodiad brenin newydd, a gobaith am newid polisi a dilyn llwybr cymeradwy gan Dduw, byddai gorsedd Dafydd dan fendith unwaith eto, a'r hen addewid yn cael ei gwireddu: "Ar helaethrwydd ei lywodraeth a'i dangnefedd ni bydd diwedd, ar orseddfa Dafydd, ac er ei frenhiniaeth ef (adn.7). Cedwir y cyfamod a wnaed â Dafydd, ac nid yw trugaredd Duw wedi troi oddi wrth ei frenhiniaeth. Ond daeth trychineb i ran gorsedd Dafydd a'i frenhiniaeth yn y diwedd; a gadawyd hi fel hen foncyff (Es.l 1:1). Ond yr oedd hyder Israel yn addewid Duw i Ddafydd yn ddigon di-gryn i beri iddynt obeithio yr adferid y deyrnas ato, y codid brenin newydd o'r hen linach, ac y byddai hwnnw'n un wrth fodd Duw: "Yna y daw allan wialen o gyff Jesse; A Blaguryn a dyf o'i wraidd ef." Gyda'r blynyddoedd sylweddolwyd nad oedd hyn yn digwydd. ac felly gwthiwyd y disgwyl ymhellach ymlaen i'r dyfodol ac âi'r darlun o'r Eneiniog (y 'meseia') a ddisgwylid yn fwy a mwy delfrydol. Ond am frenin ar orsedd Dafydd yr oedd y bobl yn gobeithio. Yn ddiweddarach, wrth gwrs. cydiodd yr Eglwys Gristnogol yn yr elfen hon o ffydd Israel oedd yn canolbwyn- tioarycyfamodâ Dafydd. Gwelodd yr Eglwys fod Duw wedi gweithredu. a bod Iesu o Nasareth yn crynhoi ynddo'i hun lawer o elfennau oedd yn hen ddarlun i'r gorffennol. Felly tynnodd yr Eglwys yr hyn oedd gan y proffwydi i'w ddweud o'i gysylltiadau hanesyddol. a haeru mai am Iesu yr oeddent yn sôn; dehonglwyd y cyfan fel proffwydoliaethau am Iesu. ac fe'i cyflwynwyd fel "Iesu fab Dafydd". Camgymeriad.