Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mae'n sicr, oedd dweud mai rhagweld dyfodiad Crist yr oedd y proffwyd; ond nid camgymeriad fyddai dweud mai Crist oedd yn cyflawni'n llawn holl addewidion Duw i'w bobl. Yr oedd i Ddafydd, a'r disgwyl am weld Duw yn cadw'i gyfamod, Ie pwysig yn ffydd Israel; ac yr oedd yn iawn i'r Eglwys gydio yn hynny a dweud i deyrnas Dafydd ddiflannu, ond i Dduwgadw'i gyfamod a chyflawni ei addewid yn Iesu o Nasareth. Cydio ym mhennau llinyn 'efengyl' yr hen gyfamod y mae 'efengyl' y cyfamod newydd. Wrth gwrs, fe gyflawnwyd yr addewidion mewn ffordd gwbl annisgwyl ac unigryw. Ond nid oes ddeall ar y cyflawni heb fynd yn ôl at yr addewidion ac at y cwlwm o syniadau oedd yng nghyffes ffydd yr Iddew, oherwydd fel etifeddion y ffydd honno y meddyliai'r Cristnogion cynnar amdanynt eu hunain ac felly y bu iddynt eu cyflwyno eu hunain i'r byd. Yr hyn a ddywedent yn syml oedd fod Duw'n waredigaeth a'r symud mawr o'r Aifft i Ganaan, a'r Duw a welent yn yr holl symudiadau eraill a gysylltwyd yn eu cyffes ffydd â'r dig- wyddiad hwn, wedi dod a gweithredu yn yr un modd eto a dwyn y cyfan i uchafbwynt yn Iesu. Cydiwyd mewn elfennau o'r hen er mwyn ceisio deall ac egluro'r newydd, ac fe ddywedwyd mai'r un Duw ydoedd ac mai'r un gwaith ydoedd yn sylfaenol, ond ei fod mewn dwy ran, yr hen gyfamod a'r cyfamod newydd. Diolchwn i'r Dr. Gwilym H. Jones am ei gyfres erthyglau athrylithgar ar "Israel a'i Ffydd" gydol y flwyddyn yn CRIS- TION a llongyfarchwn ef yn gynnes ar ennill gradd Doethur mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru i ychwanegu at ei gyflawniadau academaidd eraill. WIGWAM '86 Gwenan Creunant Ychydig atgofion sydd gen i yma am y pen- wythnos braf yna gawsom ni nôl yng nghanol mis Gorffennaf eleni! Gwn ei bod hi'n anodd credu'r peth, ond 'doedd dim sôn am wynt na mwd yn unman, a dim rhaid wrth "wellingtons" o gwbl ar fferm Tŷ Du yn y Parc! Oedd, mi 'roedd hi'n benwythnos braf, ac nid yn unig am fod yna haul yn gwenu, ond am fod yna griw mor amrywiol wedi dod at ei gilydd i fwynhau gŵyl Gristnogol gyfoes "Wigwam '86". Dechreuodd y ceir a'r bysiau gyrraedd yn gynnar ar y 'pnawn Gwener, ac erbyn saith o'r gloch y noson honno, 'roedd y Dr. Gwilym H. Jones. Llun: Radio Times. "wigwamau" o bob lliw yn ddiogel ar eu traed, a'u trigolion yn barod am noson lawen a thwmpath dawns. Noson ddigon anffurfiol fu hon, yn gymysgfa o'r digri a'r difri, ond yn gyfle gwych bawb ddod nabod ei gilydd a chadw'n gynnes yr un pryd! Rhaid oedd codi'n gynnar ar y bore Sadwrn os am wneud defnydd llawn o'r diwrnod. 'Roedd arlwy digon diddorol ac amrywiol wedi'i drefnu ar gyfer pawb oedd yno, o seminarau weithdai i gemau gwirion. Un o'r problemau a'm hwynebai i, wrth gwrs, oedd gorfod dewis a dethol, a thrwy wneud hynny, fethu nifer o sgyrsiau buddiol a bendithiol. Un o'r seminarau a fwynheais fwyaf oedd un yn trafod Addoliad, dan arweiniad y Parch. Gwilym Ceiriog Evans. 'Roedd yn hyfryd ei glywed yn sôn am ddulliau newydd o addoli sy'n dechrau cael eu defnyddio yng Nghymru, ac am y rhyddid ddylai fod yn ein hoedfaon i'r Ysbryd Glân arwain a gweithio yn ein mysg. Ond trwy'r cyfan, pwysleisiwyd mai hanfod pob addoliad yw rhoi mawl Dduw, ac mai di-werth yw pob ffresni a newydd- deb os nad yw'r awydd didwyll yn ein calon i fawrygu a gogoneddu Ei enw Ef. Seminar ddiddorol arall oedd yr un yn dwyn y teitl "Y Cristion Halen neu Bupur?" a'r Prifathro Tudur Jones yn agor y drafodaeth. Yn annisgwyl iawn nifer ohonom, mynnai'r siaradwr y dylem i gyd fod yn halen a phupur, yn rym i buro a glanhau ein cymdeithas a'n byd, ond hefyd yn fodd i brocio ac ysgwyd yr holl ddifaterwch o'n cwmpas. Mae'r seminarau i gyd yn werth eu clywed dro ar ôl tro, ac os hoffech gael gafael arnynt, maent gyd wedi'u tapio gan y Parch. Geraint Tudur, Caerdydd. Un o'r datblygiadau a'm cysurodd i fwyaf yn "Wigwam '86" oedd gweld trawsdoriad oedran y bobl a fynychodd yr Wyl. Hyfryd oedd gweld y babanod, y plant, yr ieuenctid a'r hyn yn crwydro o gwmpas y cae ac yn cymysgu a chymdeithasu mor hawdd. 'Roedd meithrinfa a gweithgareddau plant wedi'u trefnu i roi rhywfaint o ryddid i rieni fynychu seminarau a thrafodaethau a diddorol oedd gweld yr aduno wedyn a phawb â'i stori. Teimlwn fod yma Deulu yng ngwir ystyr y gair. Hoffwn sôn yn fyr am uchafbwynt yr ŵyl, sef yr addoliad yn y beudy ar y bore Su1 0 dan arweiniad y Parch. Tim Morgan a Chanu'n Llon. Oedfa dra gwahanol i'r un a arferai'r rhan fwyaf ohonom ei chael mae'n debyg dros ddwy awr, a neb am adael wedyn!! Cyfnod o addoliad gwirioneddol oedd y bore hwn i mi, a chyfle i bawb gyf- rannu a rhoi eu hunain o'r newydd i'r Arglwydd lesu Grist. Teimlem i gyd fod Duw yno yn bresennol, a bod Ei Ysbryd Glân Ef ar waith yn ein plith. Ni allem ddymuno mwy.