Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ychydig o atgofion am "Wigwam" sydd gen i yma. fe allwn draethu eto am y ddrama "Mentro Wnawn" a berfformiwyd gan griw Cicpen, am y gweithdai arbrofol, ac am y cyngerdd gwerth chweil a gafwyd ar y nos Sadwm gyda grwpiau gwerin o wahanol rannau o Gymru yn cymryd rhan. Ond gwell tewi am y tro. Ni allaf ond diolch o waelod calon i bawb a helpodd i drefnu'r Wyl, i bawb a gyfrannodd tuag ati mewn unrhyw fodd, ac i bawb a fentrodd yno i'n plith! Os y bu i chi golli'r cyfle eleni, peidiwch â phoeni'n ormodol, mae trefniadau "Wigwam '87" eisoes ar y gweill. Fe'ch gwelwn yno! Casi Tomos Bu "Wigwam '86" yn benwythnos o rannu profiadau. Drwy gyfrwng seminarau a sgyr- siau cawsom rannu profiadau beunyddiol, y chwerw a'r melys, a ddaw i ran rhai Cristnogion yn yr wythdegau. Ymhlith y pro- fiadau cawsom olwg ar "y ferch yn yr 6AI$jýAIR STIGMATA creithiau'r gweithiwr Ffurf luosog y gair Groeg STIGMA yw STIGMATA. Mabwysiadodd y Saeson y ddau air eithr rhoddwyd iddynt ystyron a phwyslais gwahanol. "Gwarthnod" yw STIGMA i'r Sais tra bod y gair STIGMATA wedi cael ei arfer er yr ail ganrif ar bymtheg am nodau cyfriniol ar gorff rhai o'r saint yn cyfateb i archollion yr lesu. Mewn rhai acho- sion yr oedd y nodau hyn yn weladwy ac yn cyfateb yn union i'r clwyfau a ddioddefodd y Gwaredwr adeg ei groeshoelio; ond mewn achosion eraill y perchennog yn unig a wyddai am y boen a'r artaith a ddeuai wrth gyd-dioddef â Christ. Honna Paul ei fod yntau yn dwyn STIGMATA lesu Grist yn ei gorff (Galatiaid 6.17) ond prin mai nodau cyfriniol oedd ganddo mewn golwg er mai "nodau" yw trosiad 1588, Briscoe, William Edwards, Cyfieithiad Prifysgol Cymru a'r Beibl Cym- raeg Newydd gan ddilyn "nodae" Sales- bury. Mewn nodyn gwaelod-y-ddalen y eglwys" nid fel cwestiwn diwinyddol dam- caniaethol yn unig ond fel cwestiwn ymar- ferol. Cawsom hefyd olwg gyfoes ar sut y mae Duw yn arwain Cristnogion heddiw i fentro dros y môr i efengylu neu i roi gorau i swydd er mwyn gweini ar anffodusion y Gymru gyfoes. Wrth gwrs, nid yw'r llwybrau arbennig yma ar gyfer pawb ohonom, ond fe'n heriwyd yn "Wigwam '86" i ofyn i ni ein hunain o ddifrif a ydym yn dweud "Gwneler Dy ewyllys" ac ar yr un pryd "Na Arglwydd, nid Fi, rydwi'n iawn lle 'rydw i". Profiad arall a ranwyd gan fynychwyr "Wigwam '86" oedd yr addoliad. Dipyn o sioc i rai mae'n siwr oedd cael eu hunain ynghanol torf lawen yn moli Duw ar gan mewn beudy ar y bore Sul i gyfeiliant offerynnau trydanol cyfoes. Gobeithio, fodd bynnag, nad trydan Manweb ond y trydan arall hwnnw a deimlwyd yn ein plith y bore hwnnw fydd yn aros yn y cof yn brofiad ysbrydol real ac adeiladol i bawb a fu yno. Wrth i'r rhan fwyaf ohonom ruthro o'r naill babell i'r llall yn ystod y dydd Sadwrn rhag colli gair o ryw seminar neu weithdy, braf oedd gweld rhai yn cymryd y cyfle eistedd ar y glaswellt a mwynhau sgwrs gyda hen gyfeillion a chwrdd ag ambell un newydd. Mae cael cymdeithas â'n gilydd yn rhan bwysig o Wigwam dod â phobl at ei gilydd, tynnu pobl i'r cylch fel y mae William Edwards yn cynnig "Iosgnodau" gan ychwanegu ei bod yn arferiad yn Rhufain losgi nodau ar gorff caethwas i ddweud i bwy y perthynai. Dyma hefyd ergyd cyfieithiad Testament Newydd Diwygiedig John Ogwen Jones (1882): "Canys dwyn yr wyf fi wedi eu llosgi ar fy nghorff nodau yr lesu". Os gwir y dehongliad hwn, ffordd arall ydyw i'r Apos- tol ddweud ei fod yn gaethwas lesu Grist (cymh. Phil.1.1.). Dehongliad arall a geir wrth droi at y ferf sy'n gorwedd y tu ôl STIGMA STIGMATA. Ystyr STIZO (y gair sy'n wrei- ddyn i'r ferf Saesneg "to stick") yw "pricio neu bigo gydag erfyn miniog, llym"; neu, os mynnir arfer gair o'r Geiriadur Cymraeg Cyfoes, "tatwo"! Yng ngoleuni hyn mynegodd rhai esbonwyr mai adlais sydd gan Paul o arfer rhai o gyltiau crefyddol yr hen fyd i arddel eu crefydd drwy osod tatŵ ar eu cyrff. Mynnodd eraill fod Paul yn gwybod am arfer ddiweddaraf milwyr Rhu- fain o dorri ffurf dalfyredig o enw'r Ymherodr ar eu dwylo. Fod bynnag, dichon mai'r cyfieithiad gorau o STIGMATA yw "creithiau" (a welir yn Oraclau Bywiol (1842) ac esboniad Maurice Loader, Yr Epistol at y Galatiaid). Diau fod y driniaeth a gafodd Paul yn Lystra (Actau 14.19) wedi gadael creithiau ar ei gorff a thros y blynyddoedd ychwanegwyd at y creithiau hyn (2 Cor.11.23-30). Prawf o'i deyrngarwch, ei ddyfalbarhad, ei gwnaethpwyd ar y nos Wener yn y twmpath dawns. Dydy profiad yn ei hanfod ddim yn beth statig ac yn sicr mae hyn yn wir am brofiad y Cristion. Mae dysgu a datblygu yn bwysig yn hanes pob un ohonom. Ni fynnwn weld "Wigwam" chwaith yn aros yn ei hunfan, yn troi yn rhyw fath o sefydliad digyfnewid. Rhaid bod yn barod i addasu a datblygu a bod yn effro i'r hyn y mae Duw am i ni wneud yng Nghymru'r wythdegau a'r naw- degau. Mae hyn mor wir am "Wigwam" ag y mae amdanom ni bob un. I'r rhai na chawsant gyfle i glywed y seminarau maent ar gael ar dâp oddi wrth gwmni "Llygad y Ffynnon", 39 Dorchester Avenue, Caerdydd CF3 7BS am £ 2.25 yr un. CASETIAU WIGWAM '86 1. R. Tudur Jones: Y Cristion-Halen neu Bupur? 2. Gwilym Ceiriog: Addoliad. 3. Ruth Morgan: Cristnogaeth a Gwyddoniaeth. 4. Enid Morgan: Y Ferch yn yr Eglwys. 5. D. Wynford Jones: lachâd Mewnol. 6. Bobi Jones: Cenedlaetholdeb. ddycnwch a'i "ddal-i-fyndrwydd" oedd y creithiau, er gwaethaf y gwrthwynebiad a'r anawsterau a'r rhwystrau. Fel creithiau glas y glöwr roeddent ar y naill law yn hys- bysebu ei alwedigaeth ond ar y llaw arall yn stigma yng ngolwg rhai. D. Hugh Matthews Golygyddol: parhad. "Daw'r gair eciwmenaidd o'r gair Groeg OIKOS = Ty. Ystyr economi yw rhedeg y ty, ystyr ecoleg yw edrych ar ôl bywyd y ty, ac ystyr eciwmeniaeth yw gofalu am undod yty." (Trefnydd Eglwysig o India'r Gorllewin). Ond pwysicach na'r dywediadau cofiadwy oedd y gymdeithas a gawsom gyda'n gilydd mewn addoliad a myfyrdod, nes inni cyn ymadael a'n gilydd deimlo ein bod ni'n aeddfedu yng nghwmni'n gilydd i ddirnad cenhadaeth fel ffordd o fyw lle mae'r Cristion yn effro i gyfeiliorni apêl eilunod dengar ein cymdeithas ar y naill law ac i'r alwad fyw fel gwas dioddefus ynghanol pobl anghenus ar y llall. Nid gyrfa yw cenhadu ond gofal, nid traethu dogmau crefyddol ond plannu economi Teyrnasiad Duw yn ein cymdeithas. Nid adeiladu strwythur gwleidyddol ond gweithredu yng ngrym yr Ysbryd i drawsnewid cymdeithas. Nid cynrychiolydd swyddogol yw'r cenhadwr ond darn o lo yn llosgi a dyna ni yn ôl gyda Thomas Coke.