Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DDALEN DDIWINYDDOL Calfin a'r Beibl Yr Esboniwr Beiblaidd Yn y blynyddoedd rhwng 1539 a'i farwolaeth ym 1564 cyflwynodd Calfin esboniad ar bob llyfr o'r Testament Newydd, ac eithrio yr ail a'r trydydd o lythyrau Ioan a hefyd Llyfr y Datguddiad. At hynny cyhoeddodd esboniadau ar Lyfr Genesis, ac o'r gweddill o'r Pentateuch, Joshua, y Salmau, Eseia, Eseciel 1-20, Daniel, Jeremeia, Galarnad Jeremeia, a'r proffwydi llai. Yng nghyfres Cymdeithas Cyfieithiadau Calfin ceir 30 cyfrol o'i esboniadau ar lyfrau'r Hen Destament, a 15 ar lyfrau'r Testament Newydd. Tra bu yng Ngenefa pregethodd tua 2000 o bregethau. Ym mis Tachwedd 1615 rhoddwyd 48 cyfrol ohonynt i'w cadw yn llyfrgell y ddinas, ond cyn diwedd y ganrif ddilynol yr oedd naw o'r cyfrolau ar goll, ac, ym 1805, gwerthwyd y cyfan oedd yn weddill, yn ôl eu pwysau, i lyfrwerthwyr lleol. Y rheswm a roddid oedd eu bod yn mynd â gormod o Ie. Pan ystyriwn fod Calfin, yn ychwanegol at ei waith esboniadol, wrthi'n gyson yn adolygu ei Institutio, yn bugeilio'i braidd, yn dadlau'n barhaus â'i wrthwynebwyr, a hefyd iddo gael ei flino gan afiechyd a thlodi, ni allwn ond rhyfeddu at faint ei gynnyrch. Awdurdod y Gair Fel Luther, a'r Diwygwyr eraill, mynnai Calfin mai'r ysgrythur yw unig safon ffydd a chrefydd. Gellir yn deg gymhwyso ato yn ei berthynas â'r Beibl y geiriau a lefarodd Luther o flaen ei erlidwyr, 'Yma y safaf, ni allaf wneud fel arall'. Cyfeirir yn aml at ei ymlyniad wrth yr Ysgrythur fel ei gyffes (frsolascriptura, h.y., awdurdod unigrywyr Ysgrythur. Sylfaen yr awdurdod hwnnw yw bod Duw yn siarad trwy'r Beibl ac ohono. Dyma'r egwyddor, meddai, sy'n gwahaniaethu'n crefydd ni oddi wrth bob crefydd arall. Gwyddom fod Duw wedi siarad â ni, ac yr ydym yn argyhoeddedig nad llefaru eu meddyliau eu hunain a wnaeth y proffwydi ond cyhoeddi'r hyn a dderbyniasant — 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd'. Mae'n bwysig nodi, yn y cyswllt hwn, na lynai Calfin wrth gred yn ysbrydoliaeth lythrennol neu fecanyddol o'r Beibl. Ni chredai, er enghraifft, mai'r apostol Pedr oedd awdur ail lythyr Pedr, nac ychwaith mai Paul oedd awdur y llythyr at yr Hebreaid. Yr oedd ganddo amheuon ynglyn ag awduraeth epistol Iago, ac ynglyn â threfn amseryddol yr efengylau cyfolwg. Eto derbyniai'r casgliad cyfan o lyfrau'r Beibl fel creadigaeth Duw. Iddo ef yr oedd yr Ysgrythurau yn un: nid geiriau Duw (yerba Dei) mohonynt ond gair Duw (yerbum Dei). Yn yr Ysgrythur, felly, y mae darganfod gwir ystyr yr Ysgrythur. Ond ni allwn ddarganfod yr ystyr hwnnw onid agorir ein llygaid iddo gan yr Ysbryd Glân. Ni all y Gair dreiddio i'n calonnau oni fydd yr Ysbryd Glân, ein hathro mewnol, eisoes wedi treiddio iddynt. Golyga hyn nad i unrhyw ddatganiad o eiddo'r Eglwys, nac ychwaith i unrhyw ddadleuon rhesymegol y mae priodoli awdurdod yr Ysgrythur; y mae'r Ysgrythur yn ei gwireddu ei hun trwy dys- tiolaeth fewnol yr Ysbryd Glân. Beth yw'r dystiolaeth fewnol hon? Pwysleisia Calfin nad math arbennig o brofiad neu ryw ddatguddiad personol ydyw ond, yn hytrach, gwaith yr Ysbryd Glân yn agor ein llygaid dall, ac y gwelwn y gwirionedd. Rhan gyntaf gweinidogaeth yr Ysbryd Glân inni yw gwireddiad; ei hail ran yw dehongliad. Ei Egwyddorion Esboniadol Nododd Hans-Joachim Kraus, mewn erthygl dreiddgar o'i eiddo, nifer o egwyddorion sy'n nodweddu gwaith esboniadol Calfin. Yn gyntaf yr hyn a eilw Calfin yn perspicua brevitas, h.y., eglurder a chynildeb. Paham? Oherwydd, meddai, nodwedd- ir y Beibl gan eglurder a chynildeb. Os ymdengys yr Ysgrythur yn ddirgelwch i ni, y mae hynny i'w briodoli i'r llen sydd dros ein meddyliau ni ac nid i len dros yr Ysgrythur. A chan fod yr Ysgrythur yn eglur dylem ymdrechu i wneud ein hesboniadaeth ar yr Ysgrythur yn eglur. Rhan o gyfrinach Calfin fel esboniwr yw ei arddull syml, uniongyrchol a diriaethol, a'i ddefnydd o gyffelyb- iaethau deallol a thrawiadol. Ysgrifennai ar gyfer y werin bobl ac nid ar gyfer yr academyddion a'r elite diwinyddol. Gwyddys hefyd y byddai Luther wrth baratoi ei gyfieithad o'r Beibl i Almaeneg yn holi'r fam yn ei chartref a'r plant ar yr heol er mwyn deall eu hiaith a'u hymadrodd. Mewn llythyr a ysgrifennodd at y Cardinal Sadolet, holodd Calfin, 'a ydwyt yn cofio pa fath amser oedd hi pan ymddangosodd y Diwygwyr, a pha fath o athrawiaeth a ddysgid yn yr ysgolion i ymgeiswyr am y weinidogaeth? Gwyddost nad oedd namyn soffyddiaeth, ac mor gymhleth fel y gellir disgrifio diwinydd- iaeth sgolasticaidd fel rhyw fath o ddewiniaeth gyfrin. Po fwyaf y llwyddai un i wneud ei bwnc yn ddyryswch llwyr, mwyaf i gyd oedd ei glod fel ysgolhaig'. Diwinydd ymarferol ac nid diwinydd dyfaliadol, oedd Calfin. Yn ei Ragymad- rodd i'w esboniad ar y Salmau y mae'n fawr ei ganmoliaeth o Bucer, ond mewn man arall, ei Ragymadrodd i'w esboniad ar Rhufeiniaid, dywed fod ei weithiau yn rhy fariwl i apelio at bobl brysur, yn rhy ddwfn i apelio at bobl syml, ac oherwydd ffrwythlondeb ei feddwl ni wyr pa bryd i dewi. Methiant Farel fel pregethwr, yn ôl Calfin, oedd meithder ac anallu i grynhoi ei feddyliau mewn brawddegau byr, cartefol. Ar gyfer ei ddarllenwyr yr ysgrifennir llyfr ac nid ar gyfer ei esbonwyr, ond nid oes neb yn debycach o anghofio hynny na'r esboniwr. Afraid dweud, efallai nad yw'r eglurder y ceisiai Calfin amdano yn cyfiawnhau unrhyw or-syml- eiddio. Yna, jw ail, dyletswydd yr esboniwr wrth astudio adran o'r ysgrythur yw darganfod bwriad neu amcan ei hysgrifennwr. Golyga hyn fod rhaid ystyried nid yn unig y cefndir daear- yddol, hanesyddol a sefydliadol, ond hefyd yr iaith a'r idiom a ddefnyddir i gyfleu'r amcan, neu'r bwriad, hwnnw. Gan mai tuedd geiriau, yn nhreigl amser, yw newid eu hystyr y mae'n ofynnol eu deall yn yr ystyr y defnyddiwyd hwy gan yr awdur. Wrth esbonio, byddai meddwl Calfin ar yr Hebraeg neu'r Groeg gwreiddiol ac nid ar gyfieithiadau ohonynt.