Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr oedd y Gair yng nghraidd y gwynt, yn rym cyn rhwymo'r dechreuwynt; Gair oedd a'i gyrrai i'w hynt a Gair a bennai ei gerrynt. A'r cerrynt oedd Ilwybr y Cariad a roed i droi am y cread yn gylchlwybr, IIwybr y penllâd, yn gyforiog o fwriad. Sef bwriad diymwad Duw i lunio y blaned unigryw hon yn oriel y rhelyw, yna ei rhoi i'r ddynol ryw. ADDASIAD O IFORI EIDALAIDD XVI GANRIF (Amgueddfa Genedlaethol Cymru) Y GAIR YN Y GWYNT gan T. Arfon Williams Y ddynolryw unigryw a wnaeth Ef, hefyd, yn ôl arfaeth y Gair, heb ei chadw'n gaeth iddi, nac i'w harglwyddiaeth. Arglwyddiaeth bariaeth o'i bodd ddewisodd hi, a'i hysu gafodd ganddi, eithr hyhi ni throdd; Gair ei Thad, fe'i gwrthododd. Er gwrthod Ei awdurdod Ef, y Gair a'i gwared o'i dioddef, er hyn oll, daw'r Gair o'r nef ddihalog ati'n ddolef. Ei ddolef Ef, yr Un o Fair a anwyd, a honno'n cyniwair yn wastad a dilestair yn y gwynt sy'n dwyn y Gair. llun: Seiriol Davies