Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EfDHÛMF WSÜIM DATHLU Bu 1988 yn flwyddyn hynod am ei dathliadau i ni yng Nghymru, a chafodd bron i bob un o'r dathliadau hynny sylw ar dudalennau CRISTION. Yn ychwanegol at y dathliad mawr, sef dathlu pedwarcanmlwyddiant cyhoeddi cyfieithiad Cymraeg William Morgan o'r Beibl yn 1588, gyda'i gyfar- fodydd niferus ar hyd a lled y wlad, ei stampiau post lliwgar, ei fedalau aur ac arian a'i blatiau coffadwriaethol, gellir sôn am ddathliadau wyth gan mlynedd taith Gerallt Gymro, tri chan mlynedd marw Stephen Hughes, Apostol Sir Gaerfyrddin, can mlynedd marw Henry Richard, Apostol Heddwch (gweler tud. 12), a hanner can mlynedd sefydlu'r Deml Heddwch yng Nghaerdydd. Ni bu'r Chwyldro gwleidyddol cymharol dawel a gafwyd yn Lloegr yn 1688 heb ei effaith ar grefyddwyr Cymru. Yn y flwyddyn honno hefyd y bu farw John Bunyan, y tincer o Bedford ac awdur adnabyddus 'Taith y Pererin', llyfr a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Stephen Hughes ac eraill, eto yn y flwyddyn 1688. Bu'r Eglwys Fethodistaidd yn dathlu daucan- mlwyddiant a hanner tröedigaeth John Wesley yn ogystal â daucanmlwyddiant marwolaeth ei frawd Charles. Mae'r flwyddyn hon yn un arbennig iawn i'r Eglwys Uniongred yn Rwsia gan mai yn y flwyddyn 988 y sefydlwyd yr Eglwys yn y wlad honno, a hithau felly yn dathlu milfed blwyddyn ei chorffori eleni (gweler tudalennau 4 6). Cafodd yr Eglwys honno ddigonedd o gyfle yn ystod y deng mlynedd a thrigain diwethaf hyn i arfer yr ysbryd hunan aberthol hwnnw a nodweddai ei dau ferthyr cyntaf Boris a Gleb. Ond tybed nad yw parhad a gwytnwch yr Eglwys Uniongred yn Rwsia, a'r eglwysi eraill sydd yno, yn cyhoeddi'r neges ryfedd fod erledigaeth yn ffeindiach gelyn i Gristionogaeth nad ydyw materoliaeth, achos allan o erledigaeth fe fegir rhud- din ymgysegriad, tra nad yw materoliaeth yn esgor ar ddim yn y maes ysbrydol heblaw difrawder. Y DEML HEDDWCH Un dathliad na ddylasem ei ang- hofio yw dathlu hanner canmlwydd- iant agor y Deml Heddwch yng Nghaerdydd. Agorwyd y Deml Heddwch ac Iechyd ar Dachwedd 23, 1938, a chyflwynir darlith ar y dyddiad hwnnw eleni gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Mr. Peter Walker, i nodi'r achlysur. Chwaraeodd yr eglwysi Cristionogol, ynghyd â'r pwyslais ar heddychiaeth yr Efengyl, ran yn y gwaith o sefydlu'r Deml Heddwch ac Iechyd, ac y mae'n werth sylwi fod y pwyslais ar iechyd, yn arbennig y frwydr yn erbyn rhaib y diciae, yn rhan hanfodol o'r weledigaeth wreiddiol. Bu cefnogaeth teulu Dafisiaid Llandinam yn hanfodol i lwyddiant gwaith y ganolfan o'r dechrau cyntaf. Credai'r Arglwydd Davies cyntaf o Landinam, sef wyr i David Davies y diwydiannwr mawr, yn yr angen am Heddlu Rhyngwladol i warchod heddwch byd. A phan ddaeth Mudiad y Cenhedloedd Unedig i fod. mabwysiadodd y ganolfan yng Nghaer- dydd egwyddorion sylfaenol ei siarter ynghyd â hybu ei weithgareddau a hynny drwy Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig yng Nghymru o dan lywyddiaeth Syr Alun Talfan Davies. Erbyn hyn y mae'r Deml Heddwch yn ganolfan Gymreig i astudiaethau rhyngwladol ynghyd â bod yn fan cyfar- fod i gynadleddau ac yn gartref i drafodaethau rhwng y gwahanol gymdeithasau a sefydliadau oddi fewn i'n gwlad sy'n mynegi diddordeb mewn gwledydd eraill a'u pobl. O dan ofal Cyfarwyddwr y ganolfan, Mr. W.R. Davies, fe weinyddir gwaith y mudiadau canlynol o'r Deml Heddwch: Cyngor Addysg Cymru mewn Dinasyddiaeth Byd; Y Gwasanaeth Ieuenctid Rhyngwladol, sy'n trefnu bod cant o wirfoddolwyr ifainc o wledydd eraill yn dod bob blwyddyn i Gymru i weithio ar bros- iectau cymdeithasol; a'r Ymgyrch Rhyddid rhag Newyn. Mae nifer o Gristnogion ffyddlon fel y Dr. Alun Oldfield Davies, y Dr. Glyn O. Phillips a Mr. Robert Davies yn gefnogol iawn i'r gwaith gwirfoddol a gyflawnir yma. Mae'n dda bod awdurdodau lleol Cymru yn cefnogi gwaith y ffenest agored a rydd y Deml Heddwch ar y byd, ac fe fyddai'n beth da i'r eglwysi eu cysylltu eu hunain mewn modd mwy uniongyrchol â gwaith y Deml Heddwch ac Iechyd yn mlwyddyn ei Jiwbili fel hyn. YR YMGNAWDOLIAD Yn ei erthygl 'Cofio Ugain Mlynedd yn 01' (gweler tud. 13), mae Michael Walker, o staff Coleg y Bedyddwyr yng Nghaerdydd, yn ein hatgoffa am gyfraniadau arbennig Martin Luther King, Karl Barth a Thomas Merton, tri Christion a fu farw yn 1968. Bu cofio eleni hefyd am chwarter canrif cyhoeddi 'Honest to God', llyfr dadleugar John Robinson, Esgob Woolwich. A ninnau'n nesáu at Wyl y Nadolig mae'n werth inni atgoffa'n gilydd o'r sylw canlynol a welir ar dudalen 97: 'I wonder whether Christ- ian Prayer, prayer in the light of the In- carnation is not to be defined in terms of penetration through the world to God, rather than of withdrawal from the world to God'. Tra oedd John Robinson yn wr a roddodd sioc drydanol i Gristionogion nôl yn y chwe degau, synnwn i ddim nad yw hi'n gywirach i'w disgrifio hi fel y math o sioc a geir wrth geisio trwsio goleuadau'r goeden Nadolig yn hytrach na'r sioc a gafodd y bugeiliaid ar y maes uwchlaw Bethlehem. Yn sicr, y mae a wnelo'r Efengyl â'r byd, ond nid mater o fynd drwy'r byd at Dduw mohoni yn gymaint â mynd gyda'r Crist, sy'n dod oddi wrth Dduw, drwy'r byd. Dyna neges fawr yr Ymgnawdoliad a dyna oleuni'r Nadolig. Yr ymateb Cristnogol mwyaf sylfaenol tuag at wyrth yr Ymgnawdoliad yw rhyfedd- dod. Felly y canodd Pantycelyn: "Ymhlith holl ryfeddodau'r nef, Hwn yw y mwyaf un." Ond wedi rhyfeddu, ac wrth ddal i ryf eddu, mae gofyn i Gristionogion ystyried patrwm gweithredol y bywyd ymgnawdoledig ac ymateb trwy ras i'r alwad ddwyfol gyfoes i barhau effeithiau'r ymgnawdoliad yn y byd cyfoes. Fe ddywedir wrthym, o bryd i'w gilydd fod glynu'n ddi-wyro wrth ffaith yr Ymgnawdoliad yn medru bod yn dramgwydd i'r drafodaeth ddiwinyddol werthfawr sy'n datblygu rhwng gwahanol grefyddau'r byd. Ond wedi'r dweud i gyd y mae Efengyl sy'n cynnig rhagor i blant dynion nac ymwrthod â'r materol a chef nu arno, ond sy'n cynnig y posibilrwydd parhaol o buro'r materol a'i wneud yn gyfrwng mynegiant ewyllys y Duw byw yn drysor uwchlaw gwerth ac yn obaith na ellir cefnu arno.