Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MILFLWYDDIANT YR EGLWYS RWSIEG YR HYBARCH ABAD, Y TAD DEINIOL Y mae eleni'n flwyddyn bwysig ac arwyddocaol iawn yn y byd Cristionogol. Yma yng Nghymru, wrth gwrs, yr ydym yn dathlu pedwarcanmlwyddiant un o'r digwyddiadau mwyaf allweddol yn ein hanes, sef cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan. Mae'n amhosibl asesu'n dyled fel cenedl i'r Esgob Morgan dyled grefyddol, ysbrydol, ieithyddol, ddiwylliannol. Y mae gennym destun gorfoledd arall hefyd yma yng Nghymru, sef cael cyfieithiad newydd o'r Ysgrythurau Sanctaidd i'r Gymraeg. Ni wyddom eto os y bydd y cyfieithiad hwn mor allweddol yn hanes diwylliant a chyflwr ysbrydol ein cenedl ag y bu cyfieithiad Morgan. Mae'r amgylchiadau'n sicr yn wahanol iawn. Yn anad dim, y prif wahaniaeth rhwng oes Morgan a'r presennol, efallai, yw'r ffaith fod seciwlariaeth wedi cael gafael ar Gymru fel ar y rhan fwyaf o wledydd Ewrob, ac anodd bellach fyddai galw ein gwlad yn un Gristionogol. Gellid rhoi dadan- soddiad cymdeithasegol o'r dirywiad crefyddol: ond y mae hynny'n destun erthygl arall. Yn un o wledydd eraill Ewrob eleni, mae digwyddiadau pwysig yn hanes yr Eglwys Gristionogol yn cael eu dathlu. Yr wyf yn cyfeirio, wrth gwrs, at Filflwyddiant yr Eglwys Uniongred Rwsiaidd; ac er i'r Eglwys Rwsiaidd ymddangos yn bell i ffwrdd, a hyd yn oed yn ddieithr i rai, y mae'r cyd- ddathlu eleni yn rhoi cyfle inni gael cipolwg ar fywyd yr Eglwys Uniongred Rwsiaidd, nid yn unig ar ei hanes a'i thraddodiad ysbrydol a chyfriniol cyfoethog ond hefyd ar ei phresennol cyffrous llawn gobaith yn y dyddiau hyn o wanwyn Glasnost a Pherestroïca, ar ôl gaeaf caled a llwm. Cysylltiadau Ond efallai fod yr Eglwys yn llai estronol nag y tybiem ar yr olwg gyntaf. Nid pwysigrwydd crefyddol 1988 yn hanes Rwsia a Chymru yw'r unig gysylltiad crefyddol rhwng y ddwy wlad. Y mae oddeutu 3000 o aelodau'r Eglwys Uniongred yn byw yma yn ein plith yng Nghymru; Groegiaid yn byw yng Nghaerdydd yw'r rhan fwyaf ohonynt. Ond ceir hefyd Gymry, a rhai yn Gymry Cymraeg. Un Eglwys Uniongred Rwsiaidd sydd yng Nghymru, a honno yng nghanol y fro Gymraeg, ym Mlaenau Ffestiniog; cymuned fechan gyda chyfartaledd uchel o'r gynulleidfa yn Gymry Cymraeg. Mae'r gwasanaethau yn ddwyieithog — weithiau'n bedairieithog! (Hen Slafoneg Eglwysig a Groeg yn ogystal â Chymraeg a Saesneg!), ac yr ydym yn cael y pleser o groesawu nifer gynyddol o Gymry sy'n awyddus i weld Eglwys Uniongred, cyfrannu o'r gwasanaethau ac aros i sgwrsio. Yr ydym mewn cysylltiad cyson â'r Fam Eglwys yn Rwsia, sy'n fawr ei gofal drosom ac yn ymddiddori yn niwyllant Cymru, ac yn arbennig yn ein llu Saint a oedd yn byw yn y cyfnod pan oedd yr Eglwys yn un drwy'r byd. Y mae hyn yn gysylltiad ysbrydol arall rhyngom ni a'r Eglwys yn Rwsia. Er mai mil oed yw'r eglwys yn Rwsia, y mae hi'n rhan o'r Eglwys Uniongred fydeang sy'n olrhain ei hanes yn ôl yn ddi-dor i'r Oes Apostolaidd — Eglwys felly oedd yn cyd-ddyddio â'r Eglwys Geltaidd oedd yma yng Ngymru cyn i Gymru fynd o dan awdurdod Caergaint a Rhufain. Yn wir, y mae nifer o draddodiadau'n cysylltu'r Eglwys Geltaidd â'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol. Dywedir, er enghraifft i Ddewi Sant gael ei gysegru'n esgob gan Batriarch Caersalem. Dylid hefyd ddarllen astudiaethau'r diweddar Athro E.G. Bowen ar y Saint Celtaidd a'u cysylltiad posibl â'r Dwyrain Canol; a rhaid cydnabod fod cyfundrefn fynachaidd y Celtiaid yn debycach o lawer i'r gyfundrefn oedd yn bodoli yn y Dwyrain Canol (gwledydd yr Eglwys Uniongred) nag ar y cyfandir lle'r oedd yr Eglwys Orllewinol wedi ymwreiddio. Y mae'r saint Celtaidd yn cael eu cydnabod gan yr Eglwys Rwsiaidd, a chafodd awdur yr erthygl hon y fraint llynedd, tra yn Rwsia, o gyflwyno eicon (darlun sanctaidd) o un o Saint Cymru i'r Sancteiddiaf Batriarch Pimen, — pennaeth yr Eglwys Uniongred Rwsiaidd; yr eicon cyntaf o un o Saint Cymru i gyrraedd Rwsia.