Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYLANWAD Y SER O.E. ROBERTS Tybed sawl un o dderbynwyr Cristion sy'n darllen eu ffawd yn ôl y sêr? Mae miloedd o bobl yn credu'r hyn a ar- faetha'r sêr ar eu cyfer yn ôl eu sêr-ddewin arbennig, y "proffwydoliaethau" yn dibynnu ac yn gwahaniaethu ar y papur newydd neu'r cylchgrawn a ddarllenant, a IIawer o bobl wedyn yn edrych beth sydd ar eu cyfer fel tipyn o hwyl ddiniwed, medda nhw. Ond pam eu darllen o gwbl? Seryddiaeth yw gwyddor astudio symudiadau'r cyrff nefol. Sêr-ddewiniaeth (astroleg) yw credu bod dylanwad planedau a sêr ar bron bob agwedd o fywyd dyn, hyn yn dibynnu nid yn unig ar berthynas y planedau â'i gilydd ond eu IIe yn y ffurfafen mewn cysylltiad â dwsin o gytser sy'n ymdebygu i ffurf ddychmygol rhyw anifail neu'i gilydd, cranc neu lew ac yn y blaen. Er i 6,000 o sêr fod yn weladwy â'r llygad noeth yn unig ychydig sy'n ffurfio patrwm, ac felly sut y mae gan y dewisiedig ddeu- ddeg cytser yn unig ddylanwad ar bobl y Ddaear? Deil yr astrolegwyr i gredu fel y Babiloniaid gynt mai gwastad yw'r Ddaear, bob pob seren a phlaned mewn hanner powlen o ffurfafen, mai'r ddaear yw canol- bwynt y bydysawd. Nid oedd ond pum planed yn weladwy ac ychwanegwyd yr Haul a'r Lloer fel "planedau", i wneud y rhif yn saith, y ffigur cyfrin hwnnw a oedd mor bwysig ers talwm. Ond mewn cyfnod cymharol ddiweddar, gyda datblygiad y telisgop, darganfuwyd tair planed arall, Wranws, Neifion a Phlwto, heb gyfrif y mân blanedau rhwng Mawrth a lau. A dyna brofi i'r sêr ddewiniaid wneud eu syms am ganrifoedd heb ystyried "dylanwad" ychwanegol y rheini. Erbyn y bymthegfed ganrif croesodd morwyr Ewrop y cyhydedd a chanfod mai prin iawn oedd y cytser gogleddol sydd i'w gweld yn Awstralia dyweder, a dyna wegian seiliau astroleg. Credai pobl am ganrifoedd mai dylan- wadau'r planedau a chomedau oedd yn gyfrifol am heintiau ar y Ddaear hefyd. Credai Dafydd Nanmor mai "Gweithred y blaned yw y bla" ac Evan Lloyd Jeffrey mai "Y cornwyd aflawen a gododd yn Llun- den/rhyw blaned o'r wybren fu'r achos". Dyna goel Eidalwyr gynt hefyd, a dyna darddiad y gair influenza. Anfonodd Edmwnd Prys gywydd i Sion Tudur yn gofyn am fenthyg llyfr ar sêr-ddewiniaeth a dyna John Harris a'i fab yn hysbysebu y gallent ragfynegi bywyd dyn ar ôl yr "hyn a gasglwyd o ddylanwad yr Haul a'r Lleuad a Chylchdro'r Planedau ar adeg Genedigaeth". Roedd Morgan Llwyd yn bur amheus o waith Copernicws yn dangos mai'r Haul oedd canolbwynt ein cysawd heulog ni a'r planedau yn troi o'i gwmpas: "Rhai a ddywedant fod y ddayar/Yn troi beynydd yn olwyngar./Eraill mai'r Haul sydd redegog,/A'r ddaearen yn ddiysgog." Yn ôl astrolegwyr, dylanwad da sydd gan yr Haul; Gwener ac lau a pherthynas â chariad, Mercher â masnach, Mawrth â rhyfel, Sadwrn â rhyw drychineb a'r Lleuad yn gysylltiedig â melancoli. Soniwn ni am ddyn "lloerig", a'r Saeson am bobl jovial, mercurial a saturnine. Ond ysgrifennodd Morgan Llwyd gerdd hir, Gwyddor Uchod, yn dweud mai "Dynion pruddion yw plant Saturn Plant y Lleuad Digllon ydynt Neu rai meddwaidd segur ddiog", ac nid oedd ganddo fawr o feddwl o'r rhai a anwyd dan ddylanwad Mercher, "Lladron neu farsiandwyr" ydynt, na Gwener, "segurllyd a diofal/Mewn tafarnau aflan gwamal", nag lau, "Tafod teg: ymddygiad gweddol". Ni thalai i sêr-ddewin yr un papur newydd fod mor onest â hynna! Nid pawb o'r Oesoedd Canol oedd yn credu mewn astroleg ychwaith. Collodd Tomos o Acwin, yr athronydd enwog o'r Eidal, ei ffydd pan sylweddolodd i dir- feddiannwr cyfoethog a thlotyn gael eu geni yn yr un lle a'r un amser yn union. Un doeth iawn oedd rhyw seryddwr mawr o'r unfed ganrif ar bymtheg a dynnodd horoscop Brenin Denmarc gan hysbysu hwnnw y gallasai Duw ymyrryd a newid pethau! Gwener yw'r blaned agosaf atom, yn 40 miliwn cilomedr i ffwrdd. Nid yw'r Haul ond 150 miliwn cilomedr (93 miliwn o filltiroedd) oddi wrthym, ond mae 38 miliwn miliwn i'r sêr agosaf. Ffon fesur y seryddwr yw'r pellter y treiddia goleuni mewn blwyddyn, sef naw a hanner miliwn miliwn cilomedr, ac yng nghytser Orion, er enghraifft y mae'r seren agosaf atom yn 303 blwyddyn goleuni i ffwrdd a'r bellaf yn 1825. Felly, ynfyd yw credu y gall goleuni deuddeg o'r cytser, sydd nid yn unig filiynau ar filiynau o filltiroedd i ffwrdd, a'r sêr unigol ynddynt rai miliynau o filltiroedd oddi wrth ei gilydd, ddylanwadu mewn gwahanol ffyrdd ar wahanol bobl ar adeg eu geni neu ar unrhyw achlysur arall gan ddeffinio cymeriad a rhod bywyd yr unigolyn. Gwnaed darganfyddiadau gwerthfawr a syfrdanol gan seryddwyr modern sydd nid yn unig yn ddiddorol i ddarllenydd y dyddiau hyn ond yn hanfodol iddo sylwed- doli ehangder y Cread ac iddo ffarwelio am byth â'r ofergoeliaeth y rhoddir cymaint o Ie iddi yng ngholofnau papur newydd a chylchgronau (yn arbennig rhai merched!). Bu ymchwil rhyw ddwy flynedd yn ôl gan astrolegwyr a gwyddonwyr yn gweithio ar y cyd yn San Francisco. Cyhoeddwyd eu canlyniadau yn y cylchgrawn safonol Nature, yn dangos mai ffug a nonsens oedd, ac yw, y cyfan. HEN SIMNAI FAWR CAE DU (Dywed traddodiad mai yn hen simnai fawr Cae Du, Llansannan, offordd ei elynion, y cyfieithodd yr uchelwr, William Salesbury, y Testament Newydd i'r iaith Gymraeg yn 1567) "Pa sawl iaith a wyddost bellach, William Salesbury, fawr dy ddawn? "O, fe ddysgais Roeg a Lladin: buont yn ddefnyddiol iawn. "Lladin, Groeg, Cymraeg a Saesneg! Dywed, er na fynni fri, a oes ieithoedd eraill hefyd, fel Hebraeg, a fedri di?" "Fe'i meistrolais hithau'n fanwl." "Beth am Ffrangeg a'i holl hud, a'r Almaeneg, beth am rheini?" "Do, fe'u dysgais hwy i gyd." "'Rwyt yn un o'r sêr disgleiriaf, sicrwydd gwawr rhagorach dydd! Beth mae seren da mewn simnai? Beth dâl cadw dawn ynghudd?' "Oer yw cwyn y gwyntoedd heno gylch Cae Du, a'r gaea'n faith: oerach ydyw gaeaf Cymru heb Efengyl yn ein hiaith. Duw a roddodd imi'r ieithoedd i gyhoeddi Crist a'i ras. Gweledigaeth fwy a gefais nag a gynnig llys na phlas, gweld y dwyfol dân diddiffodd drwy'r holl oesau'n esgyn fry i oleuo Cymru gyfan, o hen simnai fawr Cae Du!" Dafydd Owen