Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FY MEIBL GILBERT RUDDOCK Mae'n debyg mai'r llyfr cyntaf a gyhoeddwyd yn Gymraeg oedd Yny llyuyr hwnn Syr John Prys (1546). Un o ddyneidd- wyr Protestannaidd cynnar Cymru oedd yr awdur, ac ymgais oedd ei lyfr i hyfforddi'r bobl ym mhrif egwyddorion y ffydd. Arlwy amrywiol a geir ganddo, ond un nodwedd amlwg ar ei gyfrol yw y ceir ynddi gyfieithiadau Cymraeg o rannau o'r ysgrythurau, ynghyd â chyfarwyddiadau ynglyn â sut i ddarllen Cymraeg. Dyma adlewyrchiad cynnar o gynnwrf a brwdfrydedd ymarferol y Brotestaniaeth newydd yng Nghymru, a hynny ryw 30 mlynedd yn unig ar ôl i Martin Luther osod ei 95 dadl ar ddrws yr eglwys yn Wittenberg, a rhai blynyddoedd cyn ymddangosiad Kynniver llith a ban William Salesbury (1551) a'r Llyfr Gweddi a'r Testament Newydd ganddo (1567).' TESTUNAU'R OESOEDD CANOL Nid y Protestaniaid oedd y rhai cyntaf i roi pwys ar addysgu'r bobl gyffredin ym materion sylfaenol eu crefydd. Mae'n wir, yng ngeiriau'r Parchg. Athro Isaac Thomas, mai "dirgelwch anghyffwrdd" i'r lleygwr oedd y Beibl hyd tua diwedd y 13g., a hynny yn ôl bwriad yr Eglwys. Ond erbyn 1284, pan ddaeth yr Archesgob Pecham i Gymru, yr oedd y sefyllfa'n dechrau newid. Fel y nododd Lloyd ac Owen,Lcydymffurfiai Pecham ag argymhellion Pedwerydd Cyngor Lateran (1215), ac yr oedd yn awyddus i'r offeiriad plwyf addysgu'r werin ym mhrif bynciau'r ffydd, megis Gweddi'r Arglwydd a'r In Principio (sef 14 adnod gyntaf Efengyl Ioan). Cyfieithwyd y testunau hyn, ynghyd â rhai eraill, o'r Lladin i'r Gymraeg yn ystod y canrifoedd cyn y Diwygiad Protestannaidd. Cyhoeddodd Thomas Jones ei argraffiad o Y Bibyl Ynghymraec yn 1940. Tua diwedd y 13g. neu ddechrau'r 14g. y cyfieithwyd prif ran y testun y ceir y copi hynaf ohono mewn llawysgrif bwysig o tua chanol y 14g., sef Peniarth 20. Tebyg i gyfieithiad o bennod gyntaf Genesis gael ei ychwanegu at y testun hwn yn fuan wedyn. Chwiliai ysgolheigion yr Oesoedd Canol, yn hanes y Creu yn Genesis, am oleuni ar berthynas Duw â'i fydysawd. Fel y cyfeiriodd Thomas Jones, tybir i'r Esgob Richard Davies weld yr hen adnodau Cymraeg o Genesis 1 mewn rhyw lawysgrif anghyflawn, ac mai dyna a barodd iddo ddweud yn ei ragymadrodd i Destament Newydd 1567 ei fod wedi gweld 'Pump llyfr Moysen yn Gymraeg, o fewn tuy ewythr ymi' pan oedd yn fachgen ifanc.' Mae modd dadlau mai ym Mheniarth 20 hefyd y ceir y testun hynaf o Ramadeg y beirdd, sef gwaith na wyddom i sicrwydd pwy oedd ei awdur, ond a gysylltir gan amlaf â chymeriad digon niwlog o'r enw Einion Offeiriad. Dangosodd Saunders Lewis^ fod i destun Peniarth 20 o'r Gramadeg nifer pwysig o nodweddion eglwysig. Gellir cysylltu hyn â'r farn mai dyn fel Einion Offeiriad a luniodd y testun arbennig hwn, ac mai ymgais oedd y Gramadeg i roi cyfeiriad newydd i gerdd dafod Gymraeg drwy osod iddi seiliau athronyddol a Christnogol pendant wedi trychineb 1282. Nid damwain, efallai, yw bod y testun hwn o'r Gramadeg a thestun YBibyl Ynghymraec yn digwydd yn yr un llawysgrif, a hwythau hefyd wedi eu llunio yn erbyn yr un cefndir cymdeithasol cythryblus. Ac er i Pecham ddilyn canllawiau eglwysig penodol, cofier mai prin ddwy flynedd wedi colli'r Llyw Olaf yr ymwelodd yntau â Chymru. CREFYDD Y BEIRDD Dengys barddoniaeth Gymraeg glasurol diwedd yr Oesoedd Canol fod gan y beirdd gryn wybodaeth o rannau o'r ysgrythurau, er ei bod yn bosibl fod rhai ohonynt yn medru eu darllen yn y Lladin. Yng ngwaith Siôn Cent (bl. 1400-30), er enghraifft, gwneir defnydd effeithiol ac awgrymog o gyfeiriadaeth Feiblaidd. Fel y dywedodd Syr Ifor Williams, llais pregethwr y cyfnod a glywir gan Siôn, a diau fod peth o'i ddelweddaeth yn adlewyrchu cyflwr yr oes a oedd ohoni. Yn "Nid Oes Iawn Gyfaill Ond Un", er enghraifft, sonia am "fyd llwm o fedydd" ac â rhagddo i ddweud: Llyma freuddwyd coeliwyd cêl llafar doniog llyfr Deiniel sef cyfeiriad at freuddwyd Nebuchodonosor yn Llyfr Daniel. Ceir hefyd gryn dipyn 0 lenyddiaeth grefyddol apocryffaidd yn Gymraeg ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, a difyr yw sylwe- ddoli y gallai bardd fel Siôn Cent fod wedi'i ysbrydoli weithiau gan yr un ffynhonnell â Dante." Soniwyd eisoes am yr In Principio. Yn llyfr Gwyn Rhydderch, a gopïwyd tua chanol y 14g., y ceir y fersiwn Cymraeg hynaf o'r adnodau hyn. Gellir deall, fodd bynnag, i'r testun fod yn gopi o destun arall a ysgrifennwyd yn y 12g. Fel gyda'r dar- nau eraill o'r ysgrythurau a droswyd i'r Gymraeg cyn y Diwygiad Protestannaidd, darn ymarferol oedd hwn, darn a ddefnyddid yng ngwasanaethau'r Eglwys. Ar ddiwedd yr offeren y darllenid Efengyl Ioan, ac yr oedd yn boblogaidd ac yn bwysig iawn. Ystyrid yr adnodau agoriadol fel crynodeb o'r Efengyl i gyd a'u cyfrif yn arbennig sanctaidd a phur. Pwysleisio purdeb dilychwin achau Rhys ap Rhydderch o'r Tywyn a wna Dafydd Nanmor (bl. 1450-80) wrth annog yr uchelwr ifanc i afael yn ei ddyletswydd gymdeithasol a chymryd ei Ie priodol fel arweinydd wedi marwolaeth ei dad: