Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ffalswyr crefyddwyr a'u côr a faeddaist, Am dwyll a phechod i'r llawr y'u dodaist, Eu traha a'u balchedd da y diweddaist. Mae'n bosibl mai cysylltiad arbennig Lewys â swyddogion y brenin a'i safle fel athro'r tair talaith farddol (Aberffro, Mathrafal, Dinefwr) sy'n egluro'i safbwynt. Efallai iddo dder- byn tâl arbennig, fel math o fardd swyddogol i'r brenin, am y cerddi hyn.' Yn yr ychydig enghreifftiau a nodwyd o waith Siôn Brwynog a Lewys Morgannwg, ceir cipdrem ar gymhlethdod y cyfnewid crefyddol yng Nghymru yn y cyfnod yn union o flaen ymddangosiad Testament Newydd 1567. Yn y cyfnod cynnar hwn yn hanes Protestaniaeth yng Nghymru, diau y buasai llawer o'r bobl yn ddigon parod i droi'n ôl at Eglwys Rufain. Ond bu cael yr ysgrythurau yn y Gymraeg yn gymorth mawr i hyrwyddo achos y ffydd newydd. Gwelir adlewyrchiad o hyn yn y clod mawr a roddwyd i William Morgan am ei Feibl ysblennydd gan rai o'r cywyddwyr. Yn ystod ei dymor fel esgob yn Llandaf (1595-1601), canwyd cerdd rydd nodedig iddo hefyd gan Thomas Jones, person Llanfair, sir Fynwy, yn diolch am y Beibl.14 LLAWER ARGRAFFIAD Bu llawer argraffiad Cymraeg o'r ysgrythurau oddi ar ddyddiau William Morgan, a llawer tro ar fyd. Yn ein cyfnod ni, fel yn yr Oesoedd Canol, cafwyd ymdrechion i gyflwyno'r Gair i'r bobl gyffredin. Bydd llawer ohonom yn cofio cyfieithiadau YFfordd er enghraifft, lle y defnyddid iaith dra gwahanol i iaith glasurol William Morgan. Pan luniodd Alan Llwyd Feibl y Plant, glynodd yn bur agos at Gymraeg llen yddol, gan gynhyrchu campwaith urddasol a darllenadwy. Yn wir, ar nodweddion ieithyddol y cafwyd peth o'r feirniadaeth fwyaf bywiog ar rai fersiynau Cymraeg diweddar o'r BLE MAE FERNANDO GARCIA? Safai o'n blaen ac am ei gwddf lun o'i mab. Am bedair blynedd, mewn protestiadau cyhoeddus ar hyd strydoedd Dinas Guatemala bu Maria Emelia Garcia yn cario'r llun hwn. Dyma'i ffordd hi o ddweud, 'Dyw Fernando ddim yn angof gennym. Rhaid i mi wybod beth a wnaethoch ag e'. Ac yn awr, yn neuadd orlawn un o eglwysi'r Bedyddwyr yng Nghymru, yr un oedd y neges. Diolchodd Maria Emelia i Gristnogion Cymru a fu'n ymgyrchu dros ei mab oddi ar ei herwgydio yn Chwefror 1984 — tystiodd fod y IIythyron a anfonwyd at yr awdurdodau a'r cardiau Nadolig hefyd wedi bod o gymorth mawr a phwysodd arnynt am beidio â IIaesu dwylo. Soniodd am ei mab, undebwr llafur, oedd yn un o ryw ddeugain mil o bobl a ddiflannodd yn Guatemala yn ystod y deugain mlynedd diwethaf; soniodd hefyd am y chwilio seithug mewn ysbytai, yng ysgrythurau, megis Testament Newydd 1975.15 Ond pwy na wna lawenhau yn y cyfieithiadau newydd hyn fel arwyddion o ffyniant ein ffydd a'n hiaith a rhagoriaeth ein hysgolheigion? Nid pawb a fydd yn gallu fforddio prynu argraffiad arbennig y Llyfrgell Genedlaethol o destun Beibl 1588, ond diolchwn i'r hollalluog Dduw y gallwn dderbyn Beibl Cymraeg 1988 mewn heddwch ac mewn ysbryd eciwmenaidd cariadus, gan wybod mai yn y llyfr hwn y mae ein trysor pennaf. 1. Meic Stephens, Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1986), tt. 37-8; 340; 647-8. 2. Nesta Lloyd a Morfydd E. Owen, Drych yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 1986), tt.4-5. 3. Ibid., tt.1-2. 4. Saunders Lewis, Gramadegau'r Penceirddiaid (Caerdydd, 1967). 5. Eurys I. Rowlands, Poems of the Cywyddwyr (Dulyn, 1976), t. 15. 6. D. Simon Evans, Medieual Religious Literature (Caerdydd, 1986). 7. Lloyd ac Owen, tt. 8-9. 8. Rowlands, t. 48. 9. Saunders Lewis, "The Essence of Welsh Literature", yn Alun R. Jones a Gwyn Thomas, Presenting Saunders Lewis (Caerdydd, 1973), tt. 154-8. 10. A.O.H. Jarman, "Wales a Part of England 1485-1800", yn D. Myrddin Lloyd, The Historical Basis of Welsh Nationalism (Caerdydd, 1950), tt. 79-98. 11. David Williams, A History ofModern Wales (Llundain, 1950), t. 57. 12. Y Chwaer M. Consiglio, "Siôn Brwynog Un o Feirdd Cyfnod y Diwygiad Protestannaidd", Ysgrifau Catholig II (1963). tt. 28-30. 13. GJ. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948), tt. 62-71. 14. Eirian E. Edwards, "Cartrefi Noddwyr y Beirdd yn Siroedd Morgannwg a Mynwy", yn Llên Cymru XIII (1980-81), t. 189. 15. E.e., Ceinwen H. Thomas, "Y Beibl Cymraeg: Y Testament Newydd", yn Diwinyddiaeth XXVI (1975), tt. 34-41. ngorsafoedd yr heddlu ac ymhlith y cyrff yn y marwdai. Wrth symud yn ddigalon, o gorff i gorff, yn y marwdai, y cyfarfu Maria Emelia a Nineth, gwraig Fernando, y ddwy yn athrawon mewn ysgolion cynradd — â gwragedd eraill oedd ar yr un trywydd. Ymhlith y diflanedigion oedd eu gwyr, eu tadau, eu brodyr hwythau. Sefydlwyd grwp ganddynt (G.A.M.) er mwyn cynnal breichiau ei gilydd yn yr ymgyrch i chwilio am eu hanwyliaid ac i holi'r awdurdodau, yn ddi-blaid, am esboniad. Gwaith peryglus yw hyn. Ni chânt lonydd gan yr awdurdodau, eisoes llofruddiwyd dau o'r arweinwyr a derbynnir bygythiadau gan aelodau eraill o'r un driniaeth. Meddai Maria Emelia: Mae pobl o hyd yn diflannu'n feunyddiol, heb unrhyw esboniad. Anelir at y deallusion, stiwardiaid y ffatrioedd ac unrhyw un a allai fod yn fygythiad i'r sefydliad. Herwgydiwyd CYFEIRIADAU arweinwyr Mudiad Cymorth Alcoholiaid, hyd yn oed, am iddynt brofi eu gallu drefnu grŵp o bobl. Ond ni roddwyd y gore obeithio. Yn ddiweddar darganfuwyd beddau torfol a dedfrydwyd y llofruddion i garchar. "Bob yn dipyn, mae mwyafrif pob! Guatemala yn magu hyder ac yn mentro achwyn yn gyhoeddus am yr erchyllterau, a'r gobaith o ddod o hyd i rai o'r diflanedigion, yn fyw, yn eu cynnal. Yn y cyfarfod, 'roedd cefnogwyr Cristnogion yn erbyn Poenydio, ymgyrch Cyngor Eglwysi Cymru dros Hawliau Dynol, o bob rhan o Dde Cymru. Geilw'r ddeiseb (a drefnwyd gan Cristnogion yn erbyn Poenydio) sydd ar hyn ar bryd yn mynd o amgylch Cymru, ar awdurdodau Guatemala i chwilio i mewn i ddiflaniad Fernando Garcia a'r ddau ar bymtheg person arall y mae grwpiau yng Nghymru yn ymgyrchu ar eu rhan. Yn wyneb y bygythiadau presennol yn erbyn aelodau GAM, gofyn y ddeiseb am sicrwydd o ddiogelwch y grwp. Roy Jenkins