Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MYFYRDOD Y NADOLIG "A daeth y Gair yn gnawd" DEWI W. THOMAS Margaret Norris oedd ei henw; a chan gofio mai hi oedd y drydedd genhedlaeth anghrediniol yn ei theulu, hawdd y gallwn ei hesgusodi am iddi gael pwl dilywodraeth o chwerthin yng nghanol y Credo. Merch ysgol o Ganada oedd hi a ddigwyddodd gael y profiad o fod mewn gwasanaeth crefyddol am y tro cyntaf yn ei bywyd, yn Eglwys Llanfihangel Genau'r-glyn. Yn ôl ei hesboniad, achos ei digrifwch oedd y syniad y gallai neb 'eistedd ar ddeheulaw Duw: Yr hyn a'm hatgofiodd o'r digwyddiad hwnnw oedd darllen dyfyniad allan o gerdd Saunders Lewis Gweddi'r Terfyn; a ymddangosodd yn ddiweddar ar dudalennau 'Barn'. Y geiriau oedd: 'Ninnau ni fedrwn ond felly ddarlunio gobaith: Mae'n eistedd ar ddeheulaw Dduw Dad. Mor ddigri yw datganiadau goruchaf ein ffydd.' Mwy perthnasol i'r Nadolig yw'r geiriau a ganlyn, sy'n digwydd yn yr un gerdd: 'Cyn dloted â ninnau, yr un mor ddaearol gyfyng Oedd ei áthrylith yntau, ddyddiau yr ymwacâd: O'r safbwynt diwinyddol, Gwyl yr Ymwacâd yw Gwyl y Nadolig. Gan gofio mai 'Duw oedd y Gair' gosodiad syfrdanol hyd at fod yn gwbl ynfyd yw'r gosodiad iddo ddod yn gnawd, a'n bod yn oedi i'w ystyried. Hynny, ysywaeth, ni wnawn, ac o'r herwydd, heb ein synnu fymryn, llyncwn gamel y gosodiad, yn ei grynswth. Ar y llaw arall, galwodd y 'Gair' ni i gyflawni gweinidogaeth y cymod a rhoi inni esiampl pa sut i'w chyflawni. Fel y'n dysgir yn Epistol Cyntaf Ioan, 'nid yw ei orchmynion ef yn feichus', ond o mor ddyfal yr hidlwn wybedyn ein dylet- swyddau, yn enwedig y rheini sy'n ymwneud â charu ein gilydd, a mwy fyth y rhai sy'n sôn am garu gelynion. Ofnaf na thâl ein diwinydda ddim, na'n crefydd garolaidd ychwaith onid ymatebwn fel tangnefeddwyr i adleisio anthem y llu nefol dros feysydd Bethlehem. Dywedir fod deugain mil o gopïau o'r Beibl Cymraeg Newydd wedi cael eu prynu yn ystod y mis cyntaf wedi iddo gael ei gyhoeddi, a gwn fod rhai yn ei ddarllen. Nid llen yddiaeth i'w darllen yn arwynebol yw'r Beibl, a diau fod y term 'chwilio' yn y pennill cyfarwydd yn cyfeirio at rywbeth amgen. Pennill addas iawn i'r Nadolig yw'r pennill y cyfeiriaf ato, sef hwn: 'O Arglwydd, dysg im' chwilio I wirioneddau'r gair, Nes dod o hyd i'r Ceidwad Fu gynt ar liniau Mair; Mae ef yn Dduw galluog, Mae'n gadarn i iachau; Er cymaint yw fy llygredd, Mae'n ffynnon i'm glanhau: Personau sy'n honni iddynt ddod o hyd iddo yw Gristnogion; ond y mae'n rhyfedd meddwl mor wahanol y gall yr ymateb i'r adnabyddiaeth honedig ohono fod yn achos gwahanol unigolion. Eu gyrru ar daith recriwtio drwy Gymru, wyth ganrif yn ôl, oedd effaith yr adnabyddiaeth ar yr Archesgob Baldwin a Gerallt Gymro, heb ystyried, rhagor na'r mwyafrif o Gristnogion Cymru, heddiw, fod cymell Cristnogion i ladd eu cyd-ddynion, y bu farw Crist drostynt, yn anghydweddol ag esiampl ac athrawiaeth yr Arglwydd Iesu. Ymatebodd rhai yn wahanol, a'r enwocaf ohonynt o blith y Cymry oedd Henry Richard, yr Apostol Heddwch, y dathlwyd ei goffadwriaeth ar achlysur canmlwyddiant ei farwolaeth yn ystod y flwyddyn sy'n dirwyn i'w phen. Ac y mae rhai ohonom, eto, er gwaethaf yr honiad mai llais rhyddid yw sgrech y 'jet' a'r anogaeth i 'wisgo'r pabi gyda balchder', yn credu bod trais yn anghydweddol â chariad ac y dylai'r syniad o ladd fod mor wrthun â'r syniad o ganibaliaeth. "Peth ofnadwy yw byw ar adeg pan nad oes gennyf ddim i'r ddweud wrth fodau dynol ond: 'Peidiwch â lladd;" meddai'r Tad Daniel Berrigan. A da yw inni gofio bod Waldo Williams yn cloi ei gerdd ar y testun 'Brawdoliaeth' â'r cwestiwn: 'Pa werth na thry yn wawd Pan laddo dyn ei frawd?' A Berrigan ymlaen i ddweud: "Y mae pethau eraill, prydferth, y carwn eu dweud wrth bobl' Nid eithriad mohono. Y mae `llawer o bethau prydferth' gan bawb ohonom i'w dweud mewn perthynas â'r Newyddion Da o Lawenydd Mawr a gysylltir â genedigaeth Tywysog Tangnefedd. Ein braint a'n dyletswydd yw llawenhau a gorfoleddu ar achlysur Gwyl y Geni; ond y mae her yng nghraidd yr hyfrydwch i wylliaid 'Cristnogol' yrUgéînfed Ganrif. Yr her yw'r gorchymyn deusill cwta: 'Na ladd'! O gofleidio'r ddiwinyddiaeth aruchel am yr ymgnawdoliad ac anwybyddu'r foeseg berthnasol iddi odid na dderfydd amdanom, ac y cyfeirir atom yn rhywle fel y ffyliaid a allai lyncu camel yn ei grynswth heb ddarlyncu, ond a fynnai hidlo gwybedyn. A bydd yno dristwch na all dyn meidrol ddirnad dwyster ei ing, a bydd gosteg yng nghân yr angylion yr angylion a drawodd gyweirnod caniad newydd yng nghlyw'r bugeiliaid uwchlaw meysydd Bethlehem.