Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HENRY RICHARD (1812-1888) Rhoir pwys mawr ar eleni fel blwyddyn dathlu pedwar canmlwyddiant cyfieithu'r Beibl i'n hiaith gan William Morgan. Mae dathliadau eraill eleni, ac ni ddylem anghofio am ganmlwyddiant marwolaeth y gwr athrylithgar o Dregaron, Henry Richard Apostol Heddwch. 'Roedd ei dad, Ebenezer Richard, yn un o weinidogion blaenllaw'r Methodistiaid Calfinaidd a bu'n gyfrifol, gydag eraill, am lunio eu Cyffes Ffydd. Ond yng Ngholeg yr Annibynwyr, Highbury, Llundain y cafodd Henry ei hyfforddi i fod yn Weinidog a bu'n gofalu am eglwys Marlborough, Old Kent Road, Llundain am bymtheng mlynedd (1835-50). Yn gynnar iawn yn ystod cyfnod ei weinidogaeth daeth i'r amlwg fel pregethwr ac fel siaradwr cyhoeddus effeithiol ar ran Y Gymdeithas Heddwch a sefydlwyd yn 1816, flwyddyn ar ôl Brwydr Waterloo a therfyn y rhyfel hir a fu rhwng Prydain a Ffrainc. Bu'n llafar o blaid sicrhau pob tegwch i'r Ymneilltuwyr a brwydrodd dros eu hawliau fel aelod o Gymdeithas Rhydd- had Crefydd, a sefydlwyd yn 1844, gan gredu mai drwy ymdrechu'n wleidyddol y geHid llwyddo yn y cyfeiriad hwn. Tybed a sylweddolwn nad oedd hawl gan Ymneilltuwyr i dderbyn addysg ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt tan 1854? Pan etholwyd Henry Richard yn un o ddau aelod Seneddol Merthyr Tudful yn 1868 teimlai trigolion ein gwlad fod gan Gymru ac Ymneilltuaeth bellach lais huawdl yn NhY'r Cyffredin. 'Roedd o blaid Datgysylltiad, sef cael Eglwys Loegr i dorri ei pherthynas â'r Wladwriaeth, ac 'roedd am i'r Eglwys Loegr yng Nghymru fod yn Enwad annibynnol. Fel aelod o Fwrdd Addysg Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru llwyddodd i gael ei Enwad i hyrwyddo'r gwaith o godi ysgolion gwirfoddol yn Ne Cymru ac o ganlyniad trefnwyd i gynnal Cynhadledd Addysg yn Llanymddyfri yn Ebrill 1845 a hynny ddwy flynedd cyn adeg cyhoeddi'r Adroddiad anffodus hwnnw ar 'Sefyllfa Addysg yng Nghymru, a gwybodaeth y Cymry o'r iaith Saesneg'. Taranodd Henry Richard, fel eraill, yn erbyn 'Y Llyfrau Gleision' a honiadau'r Comisiynwyr gan ddweud ei fod yn gwrthod derbyn cynnwys yr Adroddiad 'fel cyflwyniad teg o gymeriad fy nghydwladwyr: Yn 1886, fel aelod o Gomisiwn Brenhinol ar gyflwr Addysg yng Nghymru a Lloegr, llwyddodd i gael cefnogaeth unfrydol i'w gynigiad o blaid defnyddio'r Gymraeg fel pwnc dosbarth. Dangosodd mai anghyfiawnder dybryd â phlant Cymru oedd ceisio eu haddysgu mewn iaith ddieithr, fel pe dysgid plant y Saeson drwy gyfrwng Almaeneg. CAREY JONES Ceisio byw a gweithredu fel Cristion a wnâi Henry Richard a'r Ffydd Gristnogol oedd ffynhonell ei egwyddorion a'i ddaliadau. Gallai dystio i achubiaeth bersonol ond gwyddai fod galw arno, fel Cristion, i weithredu ei ffydd yn ei ymwneud â materion cymdeithasol o bob math. Cofir fynychaf amdano fel Apostol Heddwch a hynny am iddo lafurio mor gyson a di-ildio o blaid hyrwyddo heddwch sefydlog a pharhaol rhwng y gwledydd. Penodwyd ef yn Ysgrifennydd Y Gymdeithas Heddwch yn 1848 a bu wrth y swydd am 37 o flynyddoedd. Ei ddull o weithredu oedd dod i gysylltiad â gwleid- yddion o ddylanwad yn Ewrob a'u hannog i bwyso ar lywodraethau'r gwledydd a'u cael i ostwng cyfanswm eu harfau rhyfel ac i gefnogi a gweithredu Cyflafareddiad. 'Roedd am i'r gwledydd roi pwys ar gymod yn hytrach nag ar ymosod. Daeth yn enw cyfarwydd ar wefusau trigolion Ewrob ac 'roedd y dosbarth gweithiol yn cefnogi ei ymdrechion o blaid heddwch am y credent fod y pentyrru ar arfau yn niweidiol iddynt a mynnent 'fynd i ryfel yn erbyn rhyfel.' Pan oedd yn aelod Seneddol defnyddiodd lawr Tŷ'r Cyffredin fel llwyfan ar gyfer datgan yn groyw egwyddorion heddwch ac annog y llywodraeth i weithredu cymod yn hytrach na'i bod yn rhoi ei bryd ar ddwyn tiroedd a berthynai i wledydd eraill. Tueddai'r llywodraeth fod yn glust-fyddar i'wapêl ond daliai ef i gondemnio'n llym bob ymdrech o'i heiddio i ymnerthu'n fostfawr drwy ryfela yma ac acw yn y byd. Serch hynny, llwyddodd yn 1873 i ennill cefnogaeth Tŷ'r Cyffredin i'w Fesur o blaid Cyflafareddiad Rhyngwladol a chanmolwyd y Senedd am ei datganiad gan wledydd tramor. Yn 1880 cefnogwyd Mesur arall, a alwai ar wledydd Ewrob i gwtogi ar gyfanswm eu harfau rhyfel. Llafuriodd fel Ysgrifennydd Y Gymdeithas Heddwch hyd.1885 ond, wrth gwrs, ni allai roi heibio ei weithgarwch dros heddwch. Gellir dweud yn ddibetrus mai ef oedd prif gynhaliwr ac arweinydd Y Mudiad Heddwch am y rhan helaethaf o gyfnod ei ysgrifenyddiaeth. Bu farw ar yr ugeinfed o Awst 1888 ac mae ei feddrod ym mynwent Abney Park, Stoke Newington, Llundain. Diweddwn gyda rhai o'r geiriau a lefar- wyd gan W.E. Gladstone yn ei deyrnged iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ar y pedwerydd o Fedi 1888: "Ni allai neb ei gyfarfod heb weld ei fod nid yn unig yn un a oedd yn arddel Cristnogaeth ond bod ei feddwl yn gysegr ffydd Gristnogol, gobaith Cristnogol a chariad Cristnogol, a bod yr holl nerthoedd a'r egwyddorion hyn yn pelydru ohono. Boed i'w oleuni lewyrchu gerbron dynion (Mr. Careyfones yw Awdur 'GYRFA'R GWR O DREGARON' — Gwasg John Penry. £3.75). CAPEL NODDFA Capel Noddfa gwag ei gragen heddiw Heb weddi heb ddarllen; LIe bu berw, IIudw'n IIen. Capel Noddfa gwynfa gynt ei furiau Yma'n ferw rhyngddynt Y rhuai'r gân: nawr y gwynt. Capel Noddfa'n danchwa dost Och fy lôr Pa chwarae a wnaethost  ni sydd i gyfri'r gost? Yng nghapel Noddfa'r marwor — a oerodd, Tyf mieri rhagor, A bawa'r cŵn b'le bu'r côr. Yng nghapel Noddfa oedfa oer ­ heno Aeth ei dân yn llugoer, Ei dŷ heb tesu'n iasoer. EMYR LEWIS