Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MICHAEL WALKER Eleni dathlwn ugain mlynedd blwyddyn arbennig iawn. Roedd 1968 yn benllanw degawd cyffrous, radicalaidd, penrydd, ffol, peryglus, llawn breuddwydion. Ychydig yr adeg honno gallai fod wedi dychmygu'r hyn a ddigwyddai. Ni fedrai cefnogwyr mwyaf brwdfrydig y ddam- caniaeth bendil am hanes fod wedi dychmygu pa mor bell mewn gwirionedd y symudai'r pendil. Ymhen blwyddyn byddai Ulster wedi ei bwrw i ganol cynnwrf llwythol fel y meginid fflamau'r hen raniadau. Roedd y peth yn arwydd o'r sectyddiaeth a ddeuai i flino bywyd crefyddol a gwleid- yddol pobl ymhob rhan o'r ddaear. Rhoddodd rhyddid y chwedegau Ie i awdurdodaeth; troes yr ymchwil am gonsensws yn gilio i gysgod hen amddiffyn- feydd, rhoddodd gydsynio Ie i bolareiddio ac anturio diwinyddol i ffwndamentaliaeth. Dylid cofio 1968, fodd bynnag, fel blwyddyn marw tri gẁr eithriadol y goroesodd eu dylanwad gyfnewidiadau rhyfedd y ddau ddegawd diwethaf. Ar Ebrill 4, llofruddiwyd Martin Luther King, gweinidog du gyda'r Bedyddwyr ym Memphis, Tenese yn 39 mlwydd oed. Ar Ragfyr 10, bu farw'r diwinydd Protestannaidd mawr Karl Barth yn 82 mlwydd oed. Ar yr un diwrnod bu farw'r mynach Sistersaidd, Thomas Merton, o effaith damwain yn Bangcoc, yn 53 mlwydd oed. Perthynai'r tri ohonynt i genedlaethau ac i gefndiroedd gwahanol. Llais proffwydol oedd un Barth a lefarai allan o adfeilion y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu farw a chladdwyd byd a nodweddid gan gadarnid di-syfl ac optimistiaeth o dan fwd meysydd Fflandrys. Difwynodd Rhyddfrydiaeth ei henw ac nid oedd ganddi ddim i'w gyflwyno i fyd gwrth-ryddfrydol. Cyfeiriodd Barth olwg dynion a merched at fawredd a gogoniant Duw. Gwthiwyd King i lygad sylw actifistiaeth y bobl dduon yn nhaleithiau deheuol America. Yn wr a edmygai Gandhi, llwyddodd i gyfeirio ffrwd casineb rhwystredig pobl dduon America i sianel gwrthwynebiad di-drais a'u cyfeiriai ar hyd ffordd hawliau sifil a dileu didoliad. Dyn gweddi oedd Merton a ddaeth yn lladmerydd gweithredu. Cododd yr ymwybyddiaeth o'r hyn a olyga i fod yn wir ddynol o dir ei weddïo myfyrdodol. Dysgodd fod catholigrwydd a dynoliaeth yn anwahanadwy. Parhaodd yn fynach ond drwy ei ysgrifennu dyfal safodd gyda'r sawl a wrthwynebodd rhyfel Fietnam, a ymgyrchodd am hawliau sifil ac a brotestiodd yn erbyn arfau niwclear y gwledydd mawrion. Gadawodd y tri hyn waddol dda i ni yn meysydd diwinydd- iaeth, gweddi a chonsyrn cymdeithasol. Mae'r hyn a gredwn am Dduw yn y pendraw yn pender- fynu ein ffordd o edrych ar y byd a'n hymateb iddo. Ni chredodd Barth na King na Merton bod diwinyddiaeth yn gynnyrch sydyn pob cenhedlaeth newydd yn ei thro. Gofalodd y tri ohonynt gynnal ymgom â thraddodiad o wirionedd Cristionogol beiblaidd a hanesyddol gan wrando am y gair a lefarai Duw i'w cenhedlaeth allan o'r traddodiad hwnnw. Karl Barth Rhaid i'r gair hwnnw, os yn ddilys, gael ei glywed fel y gair a lefarwyd yn Iesu Grist. Protestiodd y tri ohonynt yn erbyn geiriau ffals nad oedden nhw'n gwneud dim ond adleisio lleisiau dynion, geiriau a grebachai'r ymgom rhwng Duw a'r ddynoliaeth, geiriau a oedd yn cyfiawnhau trais ac anghyfiawnder ac a guddiai Duw y tu nôl i'n delweddau derbyniol ohono. Mae'r gair a lefarwyd yng Nghrist yn air ymgnawdoledig. Mae'n air sy'n dwyn Duw i ganol ein byd dynol ac sy'n sefydlu ei sofraniaeth Ef drwy ddirgelwch y groes a'r atgyfodiad. Dangosodd Barth nad disgyblaeth amherthnasol mo diwinyddiaeth, wedi ei phellhau oddi wrth fywyd. Lle y rhoddodd cenhedlaeth flaenorol o ddiwinyddion eu teyrn- garwch i'r Caisar roedd Barth ymhlith y cyntaf i godi ei lais yn erbyn llanw cynyddol Ffasgiaeth. Dadleuodd King nad gwas bach mo Duw i ddwyn ein negesau ac i gyflawni'n anghenion. Mae'n Dduw sydd wedi'n gwisgo ni â chyfrifoldeb ac a'n galwodd ni i fod yn bartneriaid yn ei bwrpasau. Sylweddolodd Merton fod y Duw y cyfarfu ag Ef yn nyfn- deroedd distaw gweddi fyfyrgar yn ei ei ddwyn i undod dyfnach â phobl eraill ac ag anghenion dynol. Mewn oes pan oedd nifer o grwpiau gwahanol yn mynnu'r hawl i fabwysiadu'r gair 'radical', dyma dri dyn a adawodd waddol radicalaidd i ni mewn gwirionedd. Mae'r tri ohonyn nhw'n sialens i unrhyw ddiwinyddiaeth sy'n bodoli'n unig i wasanaethu'n balchder a'n huchelgais. Ni adawant inni ddal Duw'n garcharor oddi fewn i'n cyfundrefnau neu ei ddefnyddio Ef yng ngwasanaeth ein diddordebau crefyddol a gwleidyddol ein hunain. Mae nhw'n ein hatgoffa ni fod yr ymdrech i gyd-weithio â Duw i sefydlu sofraniaeth ei gariad yn parhau ac nad ymleddir y frwydr hon â dim heblaw arfau'r Ysbryd. Safant yn dystion i rym parhaol gweddi. Oherwydd trwy weddi y deuwn wyneb yn wyneb unwaith eto â'r Duw hwnnw sy'n bodoli wrth galon pob peth.