Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1 Y mae'r erthygl "Y Cythraul Canu" gan I Wyn Thomas a ymddangosodd yn rhifyn mis Mai/Mehefin o Cristion yn f'atgoffa o'r hyn a ddywedodd cyfaill i mi sy'n weinidog gyda'r Bedyddwyr yn Ne Cymru: Mae'r Beibl fel Unol Daleithiau'r America — maes chwarae i grancs o bob math! A minnau'n gyn-fyfyriwr o'r Adran Gerdd ym Mangor ble mae Wyn Thomas yn darlithio, gwn yn iawn nad cranc mohono ar unrhyw gyfrif. Pam felly'r ysgrifennodd erthygl mor haearnaidd sy'n ysgaru darnau beiblaidd o'u cyd-destun diwylliannol a hanesyddol, er mwyn cyfiawnhau critique o gerddoriaeth roc yr Ugeinfed Ganrif, ac sy'n cyffredinoli mewn ffordd ysgubol? Rydym yn byw mewn oes pan fo'r byd a'r bobl sy'n byw ynddo wedi profi mwy o ddryllio, o wrthdaro ac o anghyfiawnder nag mewn unrhyw oes arall mewn hanes. Ni chawsom un dydd o heddwch ers blynydd- oedd lawer; tystiwn i ddirwasgiad cymdeithasol a'r diffyg urddas dynol a ddaw yn ei sgîl; ai hen wr yn y Kremlin neu yn y Tŷ Gwyn fydd yn pwyso'r botwm i'n dileu? Straen annioddefol yw tyfu mewn cymdeithas sy'n cael ei chwalu gan bolisiau cymdeithasol ac economaidd anystyriol, cymdeithas a ormesir yn ddiwylliannol ac ieithyddol. Fel Hebreaid yr Hen Destament, y mae pobl ifanc Cymru yn teimlo'r boen a ddaw yn sgil wynebu goresgyniad, colli hunaniaeth. Teimlant y boen o berthyn i bobl a wasgerir ar ddarn o dir nad yw'n eiddo iddynt mwyach. Ai testun syndod felly fod yna ddadrithiad, dieter, poen a'r teimlad o fod yn wrthodedig? Nawr, yr hyn sy'n dorcalonnus am hyn 011 yw fod y problemau hyn yn bodoli o flaen trwynau'r eglwysi yng Nghymru. Y mae'r j cyfle i bregethu'r Efengyl i'r tlodion, i gysuro'r toredig o galon, i gyhoeddi rhyddid i'r caethion ac adferiad golwg i ddeillion yno i'r holl fyd gael gweld, ond fe â'r cyfle heibio, yn ddisylw. Neu, fan bellaf, fe â'r eglwys ragddi i bregethu'r Efengyl (yn yr un modd ag a wnaeth ers canrif, wrth gwrs!), ond yna fe'i llwythir gymaint gan faterion mewnol, dibwys a domestig fel yr eir heibio i'r toredig o galon ar ochr arall y ffordd. Ymddengys fod yr eglwys yn pregethu neges amherthnasol sydd mor í ymenyddol fel bod lesu Grist bellach yn ddinesydd hanesyddol a pharchus. Mae erthygl Wyn Thomas yn dangos yn glir nad yw'r eglwys yn fodlon gwrando na dysgu o brofiad yr ifanc. Mae'n methu dangos gofal a chonsyrn ac yn anfodlon cydsefyll » â hwy. Yn hytrach, mae hi'n poeri rhyw gôd moesol digyfaddawd, tra'n sefyll mewn pwlpud deg llath uwch anghytundeb! Ac yna, mae'n destun syndod pan fo pobl ifanc yn mynegi eu teimladau trwy gyfrwng cerddoriaeth ac ieithwedd nad yw cweit wrth fodd yr ychydig sy'n ymgynnull mewn capel ar y Sul! Fel ymgeisydd am y Weinidogaeth, cefais y fraint aruthurol o ennill profiad bugeiliol mewn ardaloedd dinesig dirwasgedig, mewn cymunedau gwledig ac mewn Prifysgol. Mae fy mhrofiad, er yn gyfyngedig, wedi'm dysgu nad yw crefydd ddeddfol yn gweithio. Yn wir, dysgais nad yw Cristnogaeth yn grefydd ddeddfol. Onid yw lesu'n ein dysgu i gymryd lliain, i ymostwng i'r llawr a golchi traed dynoliaeth? Nid yw'r ffydd Gristnogol yn honni bod unrhyw un ohonom yn ddieuog, ond y mae'n cyhoeddi na ddiystyrir yr un ohonom ac na'n teflir ni ar domen sgrap. Pan ddechreua'r Eglwys feddwl am y posiblrwydd o wrando, o rannu ac o fod yn agored a digon gonest i ddysgu o brofiad yr ifanc, yna efallai y disgynna'r hâd ar dir ffrwythlon. Yn rhy hir y bu'r Eglwys yn fodlon suddo mewn difaterwch, i fodoli dim ond er ei mwyn ei hun ac i anwybyddu'r gymuned ehangach. Rydym ni'n cy- hoeddi crefydd ymgnawdoledig, bod Duw wedi baeddu ei ddwylo ac wedi dod i'r byd yn lesu o Nasareth, y dyn a heriai, a garai ac a ofalai. Trigai IIawnder Duw ynddo. Ni chyfyngodd ef ei weinidogaeth i'r IIeiafrif crefyddol; criw digon amrwd o bysgotwyr a ffermwyr, casglwyr trethi a phuteiniaid oedd ei ddilynwyr. Enillodd eu ymddiried- aeth, dangosodd iddynt Iwybr y bywyd a'r ffordd at Dduw, trwy sefyll gyda hwy, eu caru, eu hiachau, trwy wrando arnynt a rhoi urddas iddynt. Os mentrwn gamu i lawr o'n pwlpudau, i agor ein meddyliau ac i fod yn barod i gael ein synnu a'n herio gan Dduw heb sôn am ddarllen ein Beibl â dirnadaeth lawnach pwy a wyr? Efallai y tyfwn yn ffyddlonach i Dduw a Thad ein Harglwydd lesu Grist. Rwy'n credu bod fy nghyfaill wedi taro'r hoelen ar ei phen. Mae'r Beibl yn faes chwarae i grancs o bob math. Ond y mae hefyd yn Air Duw, Duw Cariad, Duw Gofal, Duw Trugaredd sy'n datguddio'i hun ac sy'n gweithredu mewn gwahanol ffyrdd ar adegau gwahanol. Trwy ei Air, fe'n heria. Mae hefyd yn ein herio trwy'r hyn sydd yn y byd. Dichon mai barn ar yr Eglwys yw y grwpiau roc hyn, yn barnu'n difaterwch a'n hamerthnasedd. A beth wnawn ni? Dywedodd wrthyt, ddyn beth sydd dda, a'r hyn a gais yr Arglwydd gennyt: dim ond gwneud beth sy'n iawn, caru ffyddlondeb, a rhodio'n ostyngedig gyda'th Dduw. (Micha 6:8) Onid dyna'n gwir 'faes chwarae'? Yr eiddoch yn gywir, Simon Reynolds: Coleg y Brifysgol, Caerdydd. Diddorol iawn oedd darllen yr erthyglau yn rhifyn Mai/Mehefin o Cristion ar y brodyr John a Charles Wesley. Yr oedd sylwadau treiddgar y Prifardd Tilsli a'r Parchg. Eric Edwards am bumed Jiwbili troedigaeth John Wesley a daucanmlwyddiant marwolaeth Charles Wesley yn ein hatgoffa am y gwaith enfawr a gyflawnwyd gan y ddau frawd hyn, ac am ddyled drom yr holl eglwys Gristnogol iddynt. Un pwynt o ddiddordeb arbennig i ni fel Cymry ydyw bod y Presbyteriaid Cymraeg (neu'r Methodistiaid Calfinaidd os mynnwch) wedi bod yn defnyddio hen gapel John Wesley ar bnawn a nos Sul am gyfnod go faith, sef o 1808 hyd yn awr, fwy neu lai yn ddidor. Yr oeddwn yn arwain yr addoliad yn ddiweddar, ar y Sul, Mehefin 5, ac aeth fy meddwl yn ôl i'r gorffennol, i fis Rhagfyr 1948, pan gymerais y gwasanaethau yn IIe fy niweddar gyfaill, y Parchg. T. Emlyn Evans, Ebeneser, Casnewydd, a oedd yn weinidog ar y praidd ym Mryste hefyd. Oddiar yr ymweliad cyntaf hwnnw, ddeugain mlynedd yn ôl bûm yno dros ddeg ar hugain o weithiau, prawf o ddiwydrwydd a threfnusrwydd Mr. W. Trefor Jones, yr ysgrifennydd, ac hefyd o garedigrwydd croesawgar y rhan yma o'r Gwasgariad Cymreig, yn arbennig gan nad wyf yn per- thyn i'r un gangen o'r teulu mawr Methodistaidd! Ond y mae'n dda bod gennyf ryw fath o hawl i fod yno ar y Sul. Ys dywedodd un o frodorion Bryste wrthyf, pan oeddwn yn holi am y capel: "Only Welsh people can go there on a Sunday"! D.R. Griffith, Penarth Drwy gyfrwng nifer o luniau i'w lliwio caiff plant Cymru gyfle da i ymgyfarwyddo â gwahanol agweddau o hanes y Beibl wrth ddathlu pedwar canmlwyddiant Beibl yr Esgob William Morgan eleni. Cyhoeddir y llyfr lliwio "Beibl i Bawb" gan Bwyllgor Cyhoeddusrwydd Gŵyl Cerdd Dant, Pwllheli a'r Cylch 1988 gyda chydsyniad Pwyllgor Dathlu Cyfieithu'r Beibl. Un o'r lluniau ynddo yw clawr Beibl newydd 1988. Mae yn y llyfr ddwsin o ddarluniau i'w lliwio, a gallai pob un fod yn sylfaen i olrhain peth o hanes y Beibl. Mae ynddo, er enghraifft, lun o William Morgan ei hunan, ei gartref yn y Wybrnant, ei gofgolofn ef a'i gynorthwywyr yn Llanelwy; Thomas Charles o'r Bala a Mari Jones, myneich yn ysgrifennu, argraffydd yn argraffu, llun wyneb-ddalen Beibl 1588 ynghyd â nifer o faneri i gyfleu "Beibl i bawb o bobl y byd". Yr arlunydd yw R. Delwyn Jones, Pwllheli, prifathro Ysgol Gynradd Edern, Llyn, a'r argraffwyr, Gwasg Gwynedd, Caernarfon. Am bunt mae'n anrheg Nadolig delfrydol. Os ydych am brynu copïau ewch i'ch siop Iyfrau leol neu gysylltu ag Ysgol Cymerau, Pwllheli. Dyfed Evans (Swyddog Cyhoeddusrwydd)