Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Creu o Chwith Yn y diwedd, distrywiai dyn ei nefoedd, sef y ddaear. 'Roedd y ddaear yn brydferth cyn i ddyn ymsymud drosti. A dywedodd dyn, Bydded tywyllwch, a bu tywyllwch. Dywedodd dyn mai da oedd y tywyllwch, ac enwi ei dywyllwch yn ddiogelwch. Ac ni fu hwyr na bore ar y seithfed dydd cyn y diwedd. Yna dywedodd dyn, Bydded llywodraethau cenedlaethol i'n gwahanu a'n rheoli yn ein tywyllwch. Bydded arweinwyr i'n harwain yn ein tywyllwch er mwyn i ni allu adnabod ein gelynion. Ac ni fu bore ar y chweched dydd cyn y diwedd. Yna dywedodd dyn, Crëwn fyddin i reoli cyrff a meddyliau dynion. ac estynnwn ein tywyllwch dros wyneb y ddaear. Crëwn rocedi a bomiau a all ladd yn gynt ac yn haws ac o bellter, oherwydd rhaid amddiffyn ein diogelwch. Ac ni fu bore ar y pumed dydd cyn y diwedd. Ac yna dywedodd dyn. Teithiwn i'r lleuad ac i'r planedau ac i'r sêr oherwydd rhaid ehangu ein diogelwch tra bo pobl ar y ddaear yn llwgu fe ymestynnwn ni at y sêr ac ni fu bore ar y pedwerydd dydd cyn y diwedd. Yna dywedodd dyn, Crëwn ddihangfeydd i ni ein hunain. Mynnwn gyffuriau a phils, tawelyddion, hysbysebion, barbitwradau oherwydd poendod i ni yw realiti gan ei fod yn aflonyddu ar ein diogelwch. Ac ni fu bore ar y trydydd dydd cyn y diwedd. Ac yna dywedodd dyn, Crëwn Dduw ar ein delw ni ein hunain, rhag ofn i ryw dduw arall gystadlu â ni. A chyhoeddwn fod Duw yn meddwl fel ni, yn casáu fel ni, yn lladd fel ni, Ac ni fu bore ar y dydd cyn y diwedd. Ac ar y dydd olaf bu swn byddarol ar wyneb y ddaear, ac yna distawrwydd. Gorffwysodd y ddaear ddu ac addoli'r unig wir Dduw Ac fe welodd Ef y cyfan a wnaethpwyd gan ddyn. Ac yn y distawrwydd uwchben mudlosgi'r gweddillion, Wylo a wnaeth. Trosiad gan Gwyneth Evans o gân Bernard Backman o 'Portrait of Man' — Mandala Productions, St. Paul, Minn 1969.