Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau John Phillips Arloeswr Addysg: Harri Williams. Gwasg Gomer 1987. Pris £ 3.95 Ym 1983 collodd Cymru lenor dawnus ac anarferol o amryddawn. Dros gyfnod o ugain mlynedd, ysgrifennodd y Parchg. Harri Williams bron gyfrol y flwyddyn. A'r fath amrywiaeth: cyfrolau ar Gewri Cerdd, cyfrolau Crwydro, llyfrau crefyddol a'i ymdriniaeth o Bonhoeffer a Duw, Daeareg a Darwin. Mae ei lyfr olaf, sydd dan sylw yma, yn gyfuniad o hanes Methodistiaeth Calfinaidd, dadleuon diwinyddol ac enwadol, newidiadau cymdeithasol, sefydlu ysgolion dyddiol a bywyd pregethwr mawr, sef gwrthrych y gyfrol. Croniclo hanes cyfnod a wna gan ddatgelu ffeithiau a thueddiadau, ond heb ddehongli'n llawdrwm. Ond di-fudd fyddai ceisio portreadu bywyd John Phillips heb y cyd- destun enwadol a chymdeithasol. Cymeriad a efelychai ei gyfnod oedd John Phillips. Dengys hanner cynta'r llyfr ef feI pregethwr dawnus a dysgedig, cyfuwch ei apêl i'w gynulleidfaoedd â mawrion ei enwad. Gwr cymhedrol, cymesur ei farn a bortreadir, un a ystyriai hi'n fraint i ennill cymeradwyaeth ei Gyfar- fod Misol a'i Gymdeithasfa. Os mai dirwest, gwrth undebaeth gweithwyr ac isel Galfiniaeth a blediai'r Gymdeithasfa, dyna hefyd fyddai themau J.P. Ond ymddengys ei fod yn fwy hawddgar a rhyddfrydol na'r rhelyw o'r hoelion wyth. Mae hwn yn llyfr i bob Methodist darllengar. Gallai fod yn llyfr hanfodol i ddarpar athrawon pe dysgid hanes addysg yn eu cyrsiau. Ond mae ei apêl yn eangach nag i garfannau cymharol ddethol. Gellid ei ddarllen fel nofel a'i fwynhau a dychwelyd at y dyfyniadau a'r dadleuon ryw noson arall. Mae'n werthfawr hefyd am ei gyfeiriadau perthnasol at Lewis Edwards, John Elias, Hugh Owen, Thomas Jones (Dinbych), Thomas Gee, Ieuan Gwynedd, Henry Griffíths, John Davies (Fronheulog) a degau eraill o selogion y 19 ganrif. Gellid dadlau bod rhoddi cymaint o sylw i syniadau a gweithgareddau Lewis Edwards a Hugh Owen yn bychanu rhyw- faint ar lafur enfawr John Phillips ei hun. Er bod lle canolog i'r ddau wron galluog yng ngyrfa John Phillips, efe wedi'r cwbl a wnaeth y "talcwaith" i sefydlu 83 0 ysgolion dyddiol Brytanaidd yn y gogledd ymhen tair blynedd a 7,000 o blant wedi eu cofrestru ynddynt. A'r fath lafur: y miloedd lawer o filltiroedd ar gefn ei geffyl ym mhob tywydd, y cannoedd o areithiau i grwpiau mawr a bach a'r casglu arian yn gyson tuag at yr ysgolion a'r cyfan yn ddibaid am bron chwarter canrif. Byddai pennod ar yr Ysgolion Sul, efallai, yn fwy priodol na'r bennod ar Ddirwest, mewn cyfrol ar John Phillips fel arloeswr addysg. A haeddai effeithiau'r Llyfrau Gleision, 1847, a Chomisiwn Newcastle â'i dâl am ganlyniadau, a'r rhesymau am fethiant Mesur Seneddol 1843 fwy o drafodaeth. Ond o leiaf mae sôn am y digwyddiadau hyn i gyd, a llawer mwy, yn gytbwys yn eu cyd-destun. Ai o ganlyniad i Gomisiwn Newcastle, mewn gwirionedd, yr alltudiwyd y Gymraeg a'i hanes a'i diwylliant o'r Coleg Normal? Ni chaniateid mwy nag awr yr wythnos i'r Gymraeg yn y coleg cyn 1861. A phaham y dyfyniad Saesneg (t.lll) o "Welsh in Education and Life, 1927" pan fo'r adroddiad "Y Gymraeg Mewn Addysg a Bywyd" yn fwy adnabyddus. Erbyn heddiw mae gwrthwynebiad pileri anghydffurfiaeth y 19 ganrif i dderbyn arian y llywodraeth i addysgu plant Cymru yn annealladwy. Ar un olwg, trasiedi oedd eu gwaith yn casglu ceiniogau'r werin-bobl er mwyn cynnal ysgolion dyddiol i ddysgu'r Saesneg yn unig i blant Cymraeg. Ac yn hyn oll, "Nid oes sicrwydd beth oedd agwedd John Phillips tuag at yr iaith", medd yr awdur. Ond gwyddom, er mor raenus y gallai ysgrifennu'r Gymraeg, fod John Phillips bob amser yn gaeth i arfer ei gyfnod o lythyru ag arweinwyr ei gyfnod yn y Saesneg. Arloeswr mewn darparu ysgolion dyddiol oedd John Phillips. Roedd angen dybryd am athrawon i'r ysgolion ac ymgyrchodd a chasglu pum gwaith cymaint ei hun ag a roddodd llywodraeth y dydd tuag at sefydlu'r Coleg Normal. Byddai'r ysgolion neu'r coleg wedi ennill iddo Ie teilwng yn hanes addysg Cymru. Eithr nid oedd yr addysg a gyfrennid yn yr ysgolion na'r coleg yn arloesol. Er i John Phillips gael addysg amgen na 999 y fil o'i gyfoeswyr, mae'n amheus a gododd yn uwch na syniadaeth addysgol gul ei gyfnod. Tair pennod olaf y gyfrol yn bennaf sy'n dehongli ymroddiadjohn Phillips dros yr ysgolion a'r coleg. Gan fod y tair hyn wedi eu llunio, yn ôl y Rhagair, ar ôl marw'r awdur, diau y dylem ddiolch i'r Parchg. W.J. Edwards, mab-yng-nghyfraith yr awdur, amdanynt. Mae'r cyfanwaith yn gyfraniad gwerthfawr i ddeall cyfnod a bywyd John Phillips. Ond tybed nad oes yn y penodau olaf hyn bersbectif ychydig yn wahanol i weddill y llyfr. Perthnasol a miniog yw'r dyfyniadau o weithiau Ambrose Bebb, J. Lloyd Williams a WJ. Gruffydd a dango- sant ymdrechion drigain mlynedd cyntaf y ganrif ddiwethaf mewn golau a dealltwriaeth cyfnod arall. Mae hwn yn llyfr a ddylai fod at ddant darllenwyr Cristion a diau y bydd ar silffoedd cannoedd o athrawon cefnog Cymru heddiw. Iorwerth Morgan Aur y Byd: Roy Davies a Dic Jones. Gwasg Gomer 1987. Tud: 139. Pris £ 3.95. Dyma gyfrol a ysgrifennwyd ar y cyd gan dditectif o uchel swydd a phrydydd nodedig ac amlochrog. Mae clawr deniadol i'r llyfr a cheir map oddi mewn sy'n dangos, er mor fychan ei raddfa, pa mor anghysbell oedd y Klondike i'r mwynwyr a ruthrodd yno. O'r deunaw cant a gychwynnodd yr un amser â'r anturwr a ddarluniwyd, dim ond wyth a gyrhaeddodd safle'r aur. Olrhain cyfnod cynhyrfus ym mywyd John Davies a aned ym Mhenrhiw-llan, Sir Aberteifi, sydd yma. Aeth ef, fel llawer eraill o'r sir, i lawr i'r De i weithio dan ddaear tra'n ddyn ifanc, ac oherwydd fod ganddo lygad am gyfle a thueddiadau masnachol, ymgyfoethogodd trwy adeiladu busnes prynu a gwerthu moch. Erbyn 1894, fodd bynnag, yr oedd 'John Mochwr" wedi dioddef colledion, a'r diwedd fu iddo benderfynu cilio i'r Byd Newydd a phentref bychan Wales yn Iowa lle yr arhosodd am ddwy flynedd. Ond i'r Yukon yr aeth maes o law, gyda'i deulu gartref saith mil o filltiroedd i ffwrdd. Nid oedd gadael cartref a mynd yn löwr neu'n llongwr yn anghyffredin bryd hynny, ond yr oedd byd Hannah Davies, ei briod, yn un anodd, "heb lythyr oddi wrtho am fisoedd" ac "heb gysgu hanner yr amser", gyda'r plant naw ohonynt erbyn hyn yn gofidio absenoldeb y tad. John Davies a'i gyfaill Richard Davies, yn eu tro, yn dioddef caledi tu hwnt a thrigo mewn cymdeithas hollol ddireol: "pris ar bopeth ond heb werth ar ddim". "Betio deng mil o ddoleri pwy allai boeri agosaf at grac yn y wal". 'Anialdir annuwioldeb ac encil Pob gwanc a chreulondeb" Cynnil ac undonog, yn naturiol ddigon, yw'r mwyafrif o nodiadau'r anturiaethwr yn Alaska, ond dilladwyd yr hanes yn fedrus trwy gyfrwng y llythyrau a gadwyd gan y teulu. Beth oedd cymhellion y gwr unigryw hwn? Ai'r gamblwr ynddo yn rhoi ysfa am gyfoeth? Ai cywilydd, balchder, dianc rhag gwasgfeydd ei echwynwyr? Cyfuniad o sawl dylanwad, mae'n debyg. Yn ôl safonau ein dyddiau ni dyma ddyn hunanol dros ben, yn enwedig ar ôl marwolaeth ei wraig, yn gadael y ferch hynaf i lafurio a magu'r