Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

plant llai. Ac eto, hanner addolai Rachel ei thad. Cyflwynir John Davies yn deg a gofalus gan yr awduron. Portreadir ef yn ddyn solet, dibynadwy a mawr ei barch ymysg ei gymheiriaid. Roedd ynddo chwilen, bid siwr, ond yr oedd iddo gryfder eithriadol hefyd a ddeilliai o'i safonau amgenach a seiliwyd ar ddisgyblaeth ei grefydd. Yr oedd ei hiraeth am Horeb a'i deulu yn hollol ddidwyll, a cheir yn y gyfrol, hanes dyn pur ethriadol ei brofiadau, a'i helyntion wedi eu cofnodi yn wych mewn Cymraeg cyhyrog. Llwyddodd yr awduron yn arbennig o dda a gobeithir yn fawr y gwelir gwaith y ddau eto'n fuan: y ditectif yn sgrifennu scriptiau ar gyfer y teledu, efallai, a'r prifardd yn llunio awdl ijohn D. Davies, ar unwaith. Dyna orchymyn! Watcyn Jones Golwg ar lesu Cyfieithiad o rif 812 yn "Christian Hymns". (Cafwyd caniatâd yr awdur gwreiddiol i gyhoeddi'r cyfieithiad yn "Cristion") Ces olwg o'r newydd ar lesu Na welais ei thebyg o'r bla'n; Ei wedd oedd yn hardd i'w ryfeddu Gogoniant ddisgleiriai fel tân: Tra oedwn ar lannau fy ngwendid A syllu mewn ofn ar y lli, Ymddangos wnaeth lesu f'Anwylyd Mewn tegwch digwmwl i mi. Fy Mhrynwr ni'm gad mewn dioddefaint, Caf weld ei wyneb-pryd yn glir; Trwy ras y mae'n achub ei geraint, Addewid ei gwmni sydd wir: Yn nhwllwch ac oerni y dyffryn Dan gysgod teyrnasiad y fall, Deheulaw fy lesu sy'n estyn I'm codi a dim ond Ef all. Cans draw mae'r goleuni tragwyddol Yn t'wynnu dros angau a bedd; Ein Crist gogoneddus, brenhinol A'n dwyn yn ddiogel i'w hedd. Yn Nuw y daw'r siwrne i'w diwedd, — A gwlad ei ogoniant yw hi, LIe gwelir holl blant ei drugaredd A'i molant am boen Calfari. cyf. Hywel M. Griffiths o emyn gwreiddiol y Parchg W. Vernon Higham, Caerdydd. Gallu Dwyfol at Wasanaeth Dyn Yn Mathew 26:64 a Mark 14:62 cyfeiria'r Arglwydd Iesu at Dduw fel DUNAMIS, sef "y Gallu", pan ddywed yn llys yr Arch- offeiriad, fe welwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r Gallu (BCN). Diau ei bod yn hysbys i bawb sy'n gwran- do ar bregeth yn achlysurol mai o'r gair Groeg Dunamis y tarddodd geiriau megis "deinamig", "deinamo" a "dynamite" geiriau sy'n darlunio'n berffaith peth mor fyw, mor barhaol ac mor nerthol yw gallu Duw. Amlygwyd y gallu hwn yn y greadigaeth o'n cwmpas ac ni allwn beidio a rhyfeddu wrth fawredd yr hwn a'i chreodd: mae'r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw, a'r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo (Salm 19.1 BCN). Wyneb yn wyneb â'r fath allu, y mae perygl i ddyn i deimlo mor fach a dibwys nes mynd i gredu nad oes a wnelo'r grym aruthurol hwn ddim ag efyn bersonol, gan ei fod y tu hwnt i'w ddirnadaeth ac yn perthyn i ddeimensiwn arall na all ef ddechrau ei amgyffred. Er hynny, neges y Testament Newydd yw fod y gallu dwyfol yn ymwneud â'r Cristion yn uniongyrchol ac at ei wasanaeth. Dyna pam y gweddïodd Paul: Goleued Duw lygaid eich calon fel y caffoch weled yn glir pa mor ddifesur [yw'r] pwerau sydd at alwad y rhai a rodia ar Iwybry Bwriad Tragwyddol. Cawn syniad am fesur y gallu hwn, am natur Ei rym a'i nerth, wrth sylwi arno ar waith yn Atgyfodiad Iesu Grist; Ei atgyfodi, nid i fyw ei fywyd gweledig ar y ddaear, ond i'w osod ar ddeheulaw Duw ei Hun, yn y byd anweledig a thragwyddol (Effesiaid 1:18-20, aralleiriad J. Williams-Hughes). Yr hyn sy'n arbennig o ddiddorol am Effesiaid 1:19 yw bod Paul yn teimlo reid- rwydd i ddefnyddio pedwar gair Groeg am "gallu" wrth sôn am y nerth sy'n perthyn i Dduw. Y geiriau yw DUNAMIS, ENERGEIA (a roes y gair "energy" i'r Saesneg), ISCHUS A KRATOS (sy'n roi'r terfyniad "-cracy" yn y Saesneg, e.e. "democracy" yw'r llywodraeth sy'n derbyn ei gallu gan y "demos", y bobl; "plutocracy" yw'r llywodraeth sy'n derbyn ei gallu trwy gyfoeth rhyw bobl, ac ati). Crybwyll a wna Paul yn adnod 19 cymaint o bwêr (DUNAMIS) sydd gan Dduw o blaid y credadun pwêr a amlygwyd yng ngrymusder (ENERGEIA) nerth (KRATOS) ei allu (ISCHUS) Ef yn cyfodi Iesu "a'i ddyrchafu i fod yn Ben y DUNAMIS Cyfanfyd" (J. Williams-Hughes). Nid yw mor hawdd i bentyrru cyfystyron yn y Gymraeg ag yw yn y Groeg, na chwaith i ddod o hyd i eiriau sy'n awgrymu'r gwahanol weddau ar y gallu dwyfol. Ffordd brydferth William Edwards o geisio gwahaniaethu rhwng y geiriau Groeg yw awgrymu mewn nodyn gwaelod y ddalen yn y Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd (1913) mai enw cyffredinol am allu yw DUNAMIS ond: ISCHUS yw y llyn digyffro ar ben y bryn, yn meddu gallu cynhennid; KRATOS yw yr afon lifeiriol: ENERGEIA yw y ffrydlif anwrthwynebol ar waith yn troi olwynion llafur. Nid digon bod y llyn a'i holl botensial ar gael ar ben y mynydd, rhaid i'r dwr ddechrau llifo megis afon i lawr i'r dyffryn cyn yr amlygir ei nerth ac y bydd o ddef- nydd i ddyn; yn yr un modd y mae'r gallu dwyfol yn fwy na photensial anfeidrol yn y bydysawd y mae'n llifo i gyfeiriad dyn ac yn ei amgylchu gan ei gludo ar ei lif. Dichon fod edrych ar y bydysawd o'n cwmpas yn ddigon i'n hargyhoeddi fod Duw'n un nerthol, anfeidrol a thros- gynnol; ond yn Iesu Grist fe wyddom ei fod hefyd yn gwybod am ein gwendid ni, tra bod Paul yn argyhoeddedig fod atgyfodiad a dyrchafiad y Gwaredwr yn dangos yn eglur "beth yw aruthrol fawredd y gallu sydd ganddo o'n plaid ni sy'n credu" (Ef- fes. 1:19, BCN). Crefydd ddiffygiol yw honno sy'n cyd- nabod fod Duw yn dra galluog ond nad yw fyth yn tynnu wrth raffau'r addewidion sy'n ei chysylltu'n uniongyrchol â'r gallu hwnnw. Cyfunodd Edward Jones, Maes-y- plwm, y syniad o fawredd a gallu Duw a'i barodrwydd i weithredu o'n plaid mewn dau bennill mawreddog y naill yn ddiwinyddiaeth aruchel, a'r llall yn gysur pur: Mae'n llond y nefoedd, llond y byd, Llond uffern hefyd yw; Llond tragwyddoldeb maith ei hun; Diderfyn ydyw Duw; Mae'n llond y gwagle yn ddi-goll, Mae oll yn oll, a'i allu'n un, Anfeidrol annherfynol Fod A'i hanfod ynddo'i Hun. Clyw, fenaid tlawd, mae gennyt Dad Sy'n gweld dy fwriad gwan, A Brawd yn eiriol yn y nef Cyn codi o'th lef i'r lan: Cred nad diystyr gan dy Dad Yw gwrando gwaedd dymuniad gwiw, Pe byddai d'enau yn rhy fud I'w dwedyd ger bron Duw. D. Hugh Matthews