Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DEHONGLI'R ATGYFODIAD DAVID PROTHEROE DAVIES Cafwyd mwy nag un enghraifft yn ystod y ganrif hon o addoli arwr wedi iddo farw. Does ond rhaid meddwl am ddynion fel Elvis Presley neu James Dean neu Che Guevara i sylweddoli sut y gall marwolaeth arwr poblogaidd beri i'w ddilynwyr ei ystyried yn bresenoldeb byw, grymus a pharhaol yn eu bywydau. "Mae Elvis yn dal i fyw!' 'Mae ysbryd Che yn fyw o hyd!' Mynych y clywir slogannau o'r fath, ond nid yw'r bobl sy'n dweud hyn o reidrwydd yn bwriadu mynegi barn am gyflwr presennol y sawl sydd wedi marw. Ar un ystyr mae'r geiriau yn datgelu mwy am y sawl sy'n siarad nag am y person mae'n sôn amdano. Mae'r datganiad yn cydnabod fod y person hwnnw, er yn farw, yn dal i gael dylanwad ar ei ddilynwyr. Arfer dilynwyr Iesu hefyd oedd defnyddio iaith tir y 'byw' wrth sôn am Iesu ar ôl ei farwolaeth, marwolaeth y bu llawer ohonynt yn dystion iddi, ac felly nid oedd lle ganddynt i amau ei realiti. Wrth ddisgrifio gyrfa Iesu ar ôl ei farwolaeth buont yn defnyddio termau fel 'dyrchafael', 'esgyniad i'r nefoedd' ac 'eistedd ar ddeheulaw Duw'. Eto i gyd, y ffordd fwyaf cyffredin o sôn am ei gyflwr wedi iddo farw oedd dweud fod Iesu'n fyw neu fod Iesu wedi'i atgyfodi. Mae'r gair '(at)gyfodi' yn gyfystyr â 'deffro' neu 'ddihuno', ac mae'r fformiwla yn y Groeg yn awgrymu fod Iesu wedi'i atgyfodi gan Dduw. Nid yw bellach i gael ei gyfrif ymhlith y meirw. Mae'n fyw! Atgyfodiad Roedd yn gred gyffredin yn nyddiau Iesu y byddai'r meirw yn cael eu hatgyfodi ar ddiwedd amser ar y dydd olaf. Dyma'r gred a fynegwyd gan Fartha wrth iddi drafod marwolaeth Lasarus ei brawd gyda Iesu gweler loan xi. 24. Ar ganiad utgorn yr angylion byddai'r meirw yn ddeffro ac yn codi o'u gorffwysfa yn y bedd. Byddai pawb yn cael ei atgyfodi gyda'i gilydd. Yna fe ddeuai'r farn, a'r dyfarniad yn anfon pobl i'r nefoedd neu i uffern yn ôl eu haeddiant. Roedd y gred hon yn rhan hanfodol o ddiwinyddiaeth y Phariseaid, fel y gwelwn yn llythyrau Paul a hyfforddwyd yn nhraddodiad y Phariseaid. Gweler yn enwedig ei drafodaeth adnabyddus ar atgyfodiad yn I Corinthiaid XV. Argyhoeddwyd Paul gan ei brofiad ar y ffordd i Ddamascus, yn yr un modd ag yr argyhoeddwyd eraill o ddilynwyr Iesu gan eu profiad cyn hynny, fod Iesu yn fyw. Os felly, roedd digwyddiadau diwedd amser eisoes ar droed. Yn fuan byddai'r cyfan yn dod i'w gyflawniad. Crist oedd blaenffrwyth y cynhaeaf cyffredinol; roedd y cynhaeaf yn ddelwedd boblogaidd i ddisgrifio'r atgyfodiad cyffredinol. Roedd Iesu wedi achub y blaen ar ddiwedd amser. Dweud mawr oedd hawlio hynny; pa dystiolaeth felly oedd gan y Cristnogion cynnar hyn i gefnogi'r fath hawl? Tystiolaeth Roedd y dystiolaeth yn y bôn yn seiliedig ar y naill neu'r llall o ddau draddodiad. Yn gyntaf, fe ddywedwyd fod y bedd lle claddwyd Iesu ar drothwy'r Sabath wedi'i ganfod yn wag gan rai merched o blith ei ddilynwyr 'ar y trydydd dydd'; hynny yw, ar fore Sul (dydd cyntaf yr wythnos). Yn ail, fe honnwyd gan unigolion arbennig fod yr Iesu atgyfodedig wedi ym- ddangos iddynt. Ceir hanesion am ymddangosiadau o'r fath ar ddiwedd efengylau Mathew, Luc ac Ioan, ond nid ym Marc Yn yr un modd, mae Paul yn rhestru'r rheini yr ym- ddangosodd Iesu iddynt yn I Corinthiaid XV, gan ychwanegu ei enw ef ei hun at y rhestr. Nid yw'r ddau draddodiad o'r bedd gwag a'r ymddangos- iadau o reidrwydd yn dibynnu ar ei gilydd. Nid yw Paul, er enghraifft, yn sôn yn uniongyrchol am y bedd gwag, er bod ganddo wybodaeth o'r traddodiad, mae'n debyg, gan iddo ddefnyddio fformiwla traddodiadol sy'n sôn am Iesu'n cael ei atgyfodi 'o blith y meirw' hynny yw, o'r bedd. Ar y llaw arall, er bod y tair efengyl gyfolwg (Mathew, Marc a Luc) yn adrodd hanes y bedd gwag, nid ydynt yn cysylltu'r hanes â'r ymddangosiadau. Fodd bynnag, mae'r bedwaredd efengyl yn cysylltu'r ddau draddodiad wrth gynnwys ymddangosiad Iesu i Fair o Fagdala, y ferch a ddaeth o hyd i'r bedd gwag yn wreiddiol. Arwyddocâd y traddodiad am y bedd gwag yw fod rhywbeth wedi digwydd i gorff Iesu. Ni phydrodd a throi yn llwch fel sy'n digwydd i gyrff meirwon yn ddi-wahân. Ni ddychwelodd i bridd y ddaear. Yn hytrach fe'i trawsffurfiwyd; fe'i gwedd-newidiwyd. Cred rhai yw fod hanes y gwedd- newidiad yn cyfeirio at ymddangosiad atgyfodiad sydd wedi'i gamleoli yn yr efengylau. Boed hynny fel y bo, mae'n sicr fod y gwedd-newidiad yn rhagarwyddo ffurf a llun yr Iesu atgyfodedig. Tystiolaeth amwys sydd yn hanesion yr ymddangosiadau. Awgrym rhai ohonynt yw fod gan Iesu'r un corff yn union ag oedd ganddo cyn ei farwolaeth. Er enghraifft, mae'n bwyta fel pe bai angen arno ddiwallu anghenion corfforol cyffredin. Mae'n cyfarfod â dau o'i ddilynwyr ar y ffordd i Emaus, a hwythau'n ei ystyried yn ddyn normal. Mae ganddo ôl yr hoelion yn ei ddwylo hyd yn oed, a chlwyf y bicell yn ei ystlys. Ar y llaw arall, arwyddocâd manylion eraill yw fod ei gorff wedi newid ei ffurf a throi'n 'gorff ysbrydol', y math o 'gorff ysbrydol' y mae Paul yn sôn amdano yn I Corinthiaid XV Mae'n ymddangos fod y 'corff ysbrydol' hwn yn medru mynd trwy ddrysau caeëdig a gwneud pethau eraill na sy'n bosibl i gorff dyn cyffredin. Arwyddocâd Mae'r hanesion hyn i gyd a thrafodaeth gyffredinol Paul o'r 'atgyfodiad' yn ceisio cyfleu rhywbeth sydd y tu hwnt i iaith