Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

normal y ddynolryw. Cyfyngir ein hiaith bob dydd i drefn gofod ac amser, er bod dynion yn ymwybodol nad yw'r drefn honno'n amgyffred pob realiti. Fe drosgynnir trefn gofod ac amser gan drefn uwch, rhyw wastad uwch o fodolaeth, ac wrth sôn am y drefn drosgynnol hon mae iaith normal y ddynolryw yn ddifygiol, oherwydd y mae'n ceisio mynegi rhywbeth sydd y tu hwnt i eiriau dyn a'i brofiad. Dyna paham y mae'n rhaid inni droi at ddelwedd, myth a pharadocs. Paradocs yw dweud fod rhywun sydd wedi marw yn fyw. Yn ôl canllawiau iaith normal bob dydd nonsens pur yw'r fath ddweud, gan fod marwolaeth wrth reswm yn diddymu bywyd. Ond yn ôl y rheini sydd â ffydd yng Nghrist a'r hyn a gyflawnwyd ganddo mae'n mynegi un o'r gwirioneddau mawr am hanes a thynged y ddynolryw a'r berthynas rhwng creaduriaid o ddynion a realiti trosgynnol terfynol Duw y Creawdwr. A bod yn fwy manwl mae'n mynegi tri pheth am Iesu. Yn gyntaf, mae'n dehongli bywyd a marwolaeth Iesu mewn modd sy'n datgan nad marwolaeth oedd y diwedd i Iesu o Nasareth Llais ur Ifcmc Mae 'na rhyw fyth yn gysylltiedig ag unrhyw fath o wyl Gristionogol. Rhyw ofn, rhyw elfen sy'n cadw pobol draw rhag ofn iddyn nhw gael eu brênwashio, confertio neu gael rhyw dröedigaeth arswydus a fuasai'n gwneud eu bywyd yn un llwm, cul a difywyd o ganlyniad. Ond yn Wigwam cawn ddathliad, penwythnos o fwynhau cwmnïaeth, trafodaeth a cherddoriaeth, gan wybod mai Duw sydd yn y canol. Ac mae hi mewn gwirionedd yn ŵyl yn gyfle i addoli a mwynhau gan nesáu at Dduw mewn awyrgylch hapus a llawen. Ac eleni 'roedd Wigwam yn Llangeithio, mewn ffarm newydd, lleoliad newydd, blwyddyn newydd a hyd yn oed y glaw yn penderfynu bod yn rhaid iddo ddod i Wigwam '88 ar ôl mwynhau ei hun gymaint yn y Bala llynedd. Ac eto mi fuasai'n cymryd mwy na glaw i roi dampar ar Wigwam mae'r dathlu a'r hwyl yn parhau beth bynnag yw'r tywydd. Ac er yr holl ofnau o symud o leoliad i leoliad newydd fe brofodd yr ŵyl eleni yn llwyddiannus eto ac yn rhan annatod o fywyd Cristnogion ifanc yng Nghymru heddiw. Mae 'na sialens yn Wigwam bob blwy- ddyn, sialens fwy na cheisio byw mewn cae am ddwy noson neu ffeindio bwyd llysieuol yn Llangeithio, ac 'roedd y sialens inni yno eto eleni. Mor hawdd yw ymuno yn yr addoli mewn gwyl hapus am benwythnos WIGWAM '88 a fu'n byw bywyd dynol yng ngwlad Palesteina bron i ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Ymateb Duw i ddienyddiad yr Iesu di-euog oedd yr atgyfodiad. Yn ail, mae'n mynegi'r gred fod Iesu'n dal i fod yn bresennol, a bod ei rym ar gael o hyd yn ein byd ni heddiw. Weithiau fe fynegir yr un gred mewn iaith sy'n sôn am yr 'ysbryd', fel sy'n digwydd yn efengyl Ioan — er enghraifft, wrth i'r awdur gyfeirio at ddyfodiad y Paraclete (yr Ysbryd) a fydd gyda dilynwyr Iesu am byth. Yn olaf, mae'n mynegi'r argyhoeddiad dwfn fod pob peth yn y pen draw yn cael ei gyflawni yng Nghrist. Crist yw'r allwedd i amcanion Duw ar gyfer yr holl greadigaeth. Mae'r dehongliad hwn o'r atgyfodiad a'r gred a fynegir ynddo yr un mor arwyddocaol i ni heddiw ag yr oedd i'r rheini a ddewisodd ddefnyddio'r fath iaith i fynegi eu profiad. Mae'n bosibl i ni ddod yn ymwybodol o bresenoldeb yr Iesu atgyfodedig a'i rym yn ein byd ni heddiw. Ac i'r rheini sy'n cael y fraint o ymdeimlo â'i bresenoldeb a'i rym, dyna'r prawf terfynol o'i atgyfodiad 'o blith y meirw'. Nid arwr marw sydd gennym, ond Arglwydd byw! ond cymaint anoddach yw cynnal yr hapusrwydd hwnnw yn ôl yn ein hardal- oedd wedyn. Mae Wigwam yn hwb ymlaen, yn gyfle i rannu ac i dderbyn yr ysgogiad i weithio'n galetach fyth yn y flwyddyn i ddod dros Gymru a Christ. Ac eleni mor braf oedd hi i gael y cyfle i roi bywyd yn ôl mewn perspectif, cael y cyfle i sylweddoli gwir nerthoedd bywyd a chofio mai drwy WIGWAM '88 Grist yn unig y daw cyfanrwydd a heddwch llawn i'n bywyd. Mae'n gas genna'i sgwennu erthyglau yn rhoi argraffiadau o rywbeth mae'n debyg mai dyna pam y mae'r pwt yma yn crwydro mor ddigyfeiriad, ond mae ail-feddwl a chofio Wigwam yn rhywbeth mwy na chofio ambell seminar neu grwp. Mae'n gof am benwythnos llawn o addoliad gor- foleddus a brwdfrydig, o benwythnos lle mae rhywun yn profi o'r newydd fawredd cariad Duw a chael teimlo o ddifrif ein bod yn rhan o deulu Duw. Wrth gwrs bod 'na uchafbwyntiau ac i mi'n bersonol, uchaf bwynt eleni, fel bob blwyddyn, oedd yr addoliad bore Sul, ac 'roedd 'na awyrgylch arbennig yno eleni yn y beudy a'r glaw yn pistyllio tu allan. Y mae fy mywyd i yn un llwm, cul a difywyd yn arbennig ar ôl bod yn Wigwam. Go brin bod Wigwam yn dda i'r ddelwedd trendi Gymraeg ond mae'n fendith cael gweld drwy feddylfryd y ddelwedd weithiau. 'Na 'i byth anghofio Dan Gruffydd yn dweud bod Cristnogaeth yn rhy berthnasol i Gymry ifanc ac mae hynny wedi aros yn fy nghof i ers hynny Drwy gyfrwng Wigwam '88 fe welais i mor llawn a pherthnasol yw byw bywyd gan gofio mai Crist sydd yn y canol. Mae Wigwam yno bob blwyddyn i'n hatgoffa o hynny. WIGWAM '88