Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

©ÊäiÄllOlgÂli™ ALUN PAGE Ceir llawer o sôn, a hynny'n ddigon di-lês, am y sêr heddiw. Mae Astroleg yn gwlt sy'n cael amlygrwydd, a phobl fel Madam Sera neu Russell Grant yn cael tragwyddol heol. Rhyfedd o fyd mewn gwareiddiad sy'n honni bod yn wyddonol! Ond beth am y sêr nid o safbwynt ofergoeledd ond o weld datgelu rhai o ryfeddodau anferth y Cread? "Pan fydd y sêr yn ormes ar ein cnawd, Ac arswyd eu hynafiaeth yn y nen" — medd Gwenallt yn llinellau agoriadol un o'i sonedau mawr ysgytwol. Ac mae'n ysgytwad lawer pryd i ystyried y sêr yn eu trofeydd, a meddwl am y Greadigaeth anferth. Bu'r cyfan- soddwr Haydn yn ceisio mynegi'r ymdeimlad o barchedig ofn yng ngherddoriaeth ei oratorio Y Cread. Gwyr llawer ohonom am wefr yr ymdeimlad o ganu neu o glywed canu'r anthem "Y nefoedd sy'n datgan". Un o freintiau mawr cenhedlaeth y canol oed a'r hen yn y Gymru gapelaidd yw'r cof am y galeri'n llawn dop yn y Gymanfa Ganu a'r lleisiau'n trydanu'n orfoleddus nes crynu seiliau'r ty. Gallem y pryd hynny ddod yn agos at adwaith y Salmydd pan edrychai ar y nefoedd, "y lloer a'r sêr, y rhai a ordeiniaist" Neu diwnio i mewn i donfedd ysbrydoledig y proffwyd Amos pan fynegai fawredd y Duw goruchaf "Ceisiwch yr hwn a wnaeth y saith seren, ac Orion, ac a dry gysgod angau yn foreddydd". Neu gallem uno yng ngofyniadau dwys Llyfr Job "Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear? mynega, os medri ddeall". Ond a bod yn hollol onest, heblaw'r ymdeimlad o ostyngeiddrwydd, mae'r peth yn peri braw ac arswyd. Mae mawredd anfesuradwy'r greadigaeth faith yn peri ichi gilio i'ch cragen. Bu'r cylchgrawn Americanaidd New Yorher erioed yn ddi-barch (yn flasus felly) wrth barchusrwydd o bob math, yn cael hwyl ar ddryllio'r delwau. Fodd bynnag, cefais flas ar rai llinellau a ymddangosodd rai blynyddoedd yn ôl. Fe'u gwelais, a bod yn fanwl, mewn cyswllt â thrafodaeth ar waith y meddyliwr Cristnogol, Reinhold Niebuhr: "Above me, far above my upturned face, Farther than thought can reach or voice can utter, Brood the immensities of outer space Which is, I think, a quite revolting place. Hard though it is, I much prefer the gutter". Rhydd i bob un ei farn. Ni fuaswn am ddweud bod yr immensities yn codi cyfog arnaf, ond maent yn peri braw. Yn hynod iawn gwn am fwy nag un ymhlith rhengoedd y saint a'r proffwydi fu'n cymryd diddordeb arbennig i chwilio'r rhyfeddodau uwchben. Byddai'r pregethwr a'r ysgolhaig disglair o blith yr Annibynwyr a fu'n brifathro coleg diwinyddol, y diweddar Barchg. J.D. Vernon Lewis, bob amser yn rhestru ymhlith ei raddau y llythrennau M.R.A.S. Hynny'n golygu, mi dybiaf, ei fod yn aelod o Gymdeithas frenhinol yr Astronomyddion. Byddai'r hen gyfaill hoffus, Y Parchg. D. Tegfan Davies, Rhydaman yn mynd cam ymhellach yr oedd yn F.R.A.S! Mae'n siwr fod astudio'r sêr yn yr ystyr yma (nid cyboli gydag ofergoeliaeth arwydd- ion y Zodiac) yn fodd i beri ymdeimlad o swildod wrth weld eiddilwch dyn ac ehangder y cread. DIRGELWCH MWY ERBYN HYN Mae'r dirgelwch yn fwy erbyn hyn gyda'r darganfyddiadau diweddaraf. Beth yw'r agweddau'r ar y greadigaeth faith sy'n cynyddu'r ymdeimlad o arswyd? Yn gyntaf, dylid nodi wrth gwrs (1) fodolaeth y Sistem Heulog, a'r ddaear yn gyrru o gwmpas yr haul yn ôl 31 km yr eiliad. Gwahanol iawn i'r sefyllfa yn yr Hen Fyd: ein daear ni oedd canolbwynt y cwbl, a'r planedau'n symud o'n cwmpas. Ond drylliwyd y ddelw pan welwyd mai'r haul sydd yn ganolbwynt. Yna, (2) mae'r sistem heulog yn ei thro'n rhan o drefn fwy y Llwybr Llaethog, sy'n mynd o gylch yn ôl 230 km yr eiliad. Wedyn (3) mae'r Llwybr Llaethog yn ei dro'n cael ei dynnu at Drefn Galactig Andromeda yn ôl 40 km yr eiliad. Yn olaf, (4) sonnir am y Super Cluster, a'r cwbl a nodwyd yn barod yn gyrru i'w gyfeiriad yn ôl 600 km yr eiliad. Yn ddiweddar mae'r gwylwyr yn sôn am yr hyn a elwir yn Great Attractor: rhyw bentwr enfawr y tu hwnt i bob dychymyg allan yn yr anferthedd sy'n tynnu ein Llwybr Llaethog tuag ato. "We are being dragged across the universe at an astonishing 250 miles per second to an unknown fate, it seems. However, one important lesson has already been learned. The universe, far from being smooth and homogeneous as was previously thought, is a conglomeration of empty space and very massive lumps". Beth yw ein hadwaith i'r pethau rhyfedd ac ofnadwy hyn? Eu hanwybyddu? Gall hyn fod yn demtasiwn barod i lawer o bobl. Bu rhaglen deledu dro'n ôl yn dangos ysgol yn ymyl Llundain a oedd wedi ymegnïo i roi addysg "ddisgybledig" i'w phlant, gan droi cefn ar lawer o'r dulliau modern a mynd yn ôl at ddisgyblaeth henffasiwn wrth roi pwyslais ar yr addysg academaidd gyfarwydd. Yr oedd yr ysgol yn un breifat dan nawdd Eglwys Adfentaidd y Seithfed Dydd. Y sioc oedd ymhlyg yn y cwbl, i mi o leiaf, oedd deall bod y plant yn cael