Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

eu dysgu am y Greadigaeth yn dechrau yn y flwyddyn 4004 Cyn Crist, a bod Llyfr Genesis yn ffeithiol gywir yn ei holl fanylion. Cymerir o ddifrif gyfrif yr hen Archesgob Ussher ganrifoedd yn ôl, yn union fel y ceir y cyfeiriadau ymyl y ddalen yn yr hen Feiblau! Gallwn feddwl y gellid disgwyl ymateb mwy cyfrifol gan gredinwyr Cristnogol sydd â'u llygaid yn agored i ddatblygiadau gwyddoniaeth. Fy mhrif bwynt i fyddai honni nad yw gwyddoniaeth yn y pen draw'n gallu dehongli agweddau sylfaenol gwyddoniaeth! Mae rhaid cymryd y ffeithiau i ystyriaeth ond ni welaf eu bod yn hunan- esboniadwy. Hynny yw, mae'n rhaid i bawb wneud math o drawsgyweiriad meddyliol i geisio cael dehongliad; rhaid newid cywair. Mae'r ffeithiau'n agored i'w dehongli gan athroniaeth neu ddiwinyddiaeth y dehonglwr. Mae'r an- ffyddiwr yn gorfod dehongli, ac felly'r crediniwr hefyd. Rhaid defnyddio geirfa wahanol i ddehongli'r ffeithiau. Iaith y Salmydd yw iaith rhyfeddod "Beth yw dyn, iti ei gofio, a'r teulu dynol, iti ofalu amdano?" (Salm 8, Beibl Cymraeg Newydd). Yn y cywair hwn y mae soned fawr Gwenallt yn mynd ymlaen i ddehongli, wrth feddwl am yr Eglwys: "Hi gyfyd gaer lle gall ein hysbryd tlawd Ffoi iddi, gyda'r nos, a phlygu'i ben". Hynny yw, rhaid wynebu'r gwahaniaeth rhwng dimensiwn cyfarwydd gwyddoniaeth sy'n gofyn Sut neu Pa Fodd? a'r dimensiwn arall a gynrychiolir gan y cwestiwn Paham? Dyma ddimensiwn yr athronydd, y diwinydd — a'r bardd. GAIR GAN YR APOSTOL PAUL Mae'r Apostol Paul yn cyrraedd at y math yma o ddehongliad yn ei Drafodaeth yn Rhufeiniaid, pennod 8. "Yn wir, y mae'r greadigaeth yn disgwyl yn daer am i feibion Duw gael eu datguddio Oherwydd fe wyddom fod yr holl greadigaeth yn ocheneidio, ac mewn gwewyr drwyddi hyd heddiw" (ad. 19 a 22). Nid yw hyn yn hollol yr un peth â syniad enwog y bardd Tennyson sy'n sôn, yn ôl ei ddehongliad ef am "Nature red in tooth and claw". Ond mae Paul yn amlwg yn ymwybodol o ryw wewyr arswydlon drwy'r greadigaeth. Mae'r esbonwyr yn awgrymu'i fod yn cyfeirio at ddelwedd o wraig yn esgor. Genedigaeth — a hyn yn awgrymu ymwybyddiaeth o ddioddefaint a phoen ac ymdrech flin. Ac yna'r llawenydd mawr, a'r holl ddisgwyliadau wedi'u cyflawni. "The metaphor is from child-birth. Like a woman in labour, the world is sighing for release from agony; but it does so with hope for that which will give meaning to all the pain and turn it into joy" (Gwel. A.M. Hunter, The Epistle to the Romans). Ta beth: mae'r dimensiwn sy'n sôn am y Paham yn wahanol iawn i unrhyw gyfrif materyddol. Ni all unrhyw delesgôp er chwilio'r cyfanfyd i gyd ganfod Cariad neu Wirionedd neu Gyfiawnder. Byd arall, neu wastad arall holl bwysig — o Realiti yw'r Gwerthoedd. Bellach cynyddodd yr ymdeimlad ymhlith llawer o bobl y dylid ystyried y Greadigaeth o'n cwmpas yn ôl safonau sy'n ysbrydol yn eu hanfod. Edrych ar y Greadigaeth mewn gostyngeiddrwydd edifeiriol gan gofio bod y ganrif hon wedi gweld llyth- rennau megis o dân yn ysgrifennu enwau Hiroshima, Nagasaki, Chernobyl. Yn y diwedd, yn unwedd â'r gostyngeiddrwydd pwrpasol 1wn gall y Cristion gydnabod cywirdeb treiddgar yr emynydd )avid Charles a'i feddwl am "Ragluniaeth fawr y nef'. "Llywodraeth faith y byd Sydd yn ei llaw; Mae'n tynnu yma i lawr, Yn codi draw: Trwy bob helyntoedd blin, Terfysgoedd o bob rhyw, Dyrchafu'n gyson mae Deyrnas ein Duw." LLYFR OFFEREN Y SUL Erbyn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd eleni cyhoeddwyd am y tro cyntaf erioed yn Gymraeg Lyfr Offeren ar gyfer y Suliau a'r Gwyliau. Fe fu yn nhreigl y canrifoedd gyfres o Iyfrau gweddi ac ynddynt gyfoeth o ddeunydd defosiwn, ond ni chyhoeddwyd hyd yma gyfieithiad cyflawn i'w ddefnyddio o Sul i Sul yn yr eglwysi. O Ladin y Missale Romanum y cyfieithiwyd yr holl weddïau, a dilynwyd yr un awdurdod wrth drefnu'r gweddill. Eleni, fel y gwyddys, yw pedwar canmlwydd- iant Beibl William Morgan, a blwyddyn cyhoeddi'r Beibl Cymraeg Newydd. Y mae'n falch gennym ein bod yn cael defnyddio'r fersiwn hwn ar gyfer holl ddarnau ysgrythurol y Llyfr Offeren, ac felly'n cael cymryd rhan fechan yn nathliadau'r flwyddyn. Gobeithiwn y bydd y Llyfr Offeren hwn yn drysor i Gatholigion Cymraeg, yn gydymaith hylaw yn yr Offeren, ac yn gymorth wrth baratoi mewn ysbryd o weddi a myfyrdod at Sut a gŵyl. Cynnwys: Trefn yr Offeren, y Rhaglithiau, Suliau tymhorau arbennig y flwyddyn a'r Suliau cyffredin, y Gwyliau ac Uchelwyliau a all ddisodli'r Sul, ynghyd â Thridiau'r Pasg (yn llawn), a'r gwyliau o rwymedigaeth (Yr Ystwyll, Difiau Dyrchafael, Gŵyl Corff a Gwaed Crist, ac yn y blaen). Diwyg: Cyfrol hardd glawr caled wedi ei rhwymo mewn ffug-ledr coch tywyll, a'r ymylon wedi eu heuro, croes aur ar y clawr a theitl aur ar y meingefn. Tri rhuban; tt. ix, 634, ynghyd â thri llythreniad cain. Cyhoeddwyr: Esgobaeth Mynyw ar ran Esgobion Cymru. Pris: £ 10 I'w gael: Gan y cyhoeddwyr trwy'r Eglwysi lleol neu oddi wrth CTS Caerdydd (cludiant yn ychwanegol). [Cyhoeddir Lyfr Offeren o faint addas i'r allor erbyn y Nadolig eleni. Y diwyg yn debyg. Y pris tua £ 60. Gwahoddir tanysgrifiadau, i'w hanfon at yr Esgob Daniel J. Mullins.]