Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ESGOB WILLIAM MORGAN Y mae Duw'n rhwymo dynion I roi help i'r Gymru hon. A hi'n wan, pan sudda'n hiaith O fewn dilyw fandalwaith, Yna daw y Duw diwyd: Dyry i hon ryw dwr o hyd. Mur o glai i'r Gymraeg lân Yw argae'r Esgob Morgan. I roi tân Protestaniaeth A Beibl Duw i'w bobl y daeth. Ei iaith dirf yn waith gwirfardd; Mae'i Roeg hen yn Gymraeg hardd. gan Gwynn Ap Gwilym Eryr oedd, mawr ei haeddiant, Eryr o nyth yr Wybrnant. Di-ail nawdd ein cenedl ni, Eryr euraid Eryri. Daliai uwch llif y dilyw Yn aur ei big y Gair byw. Rhodd hardd i Gymru ddi-hid. Yn ei chlasau ni chlywsid Geiriau doeth diguro'i Duw Na'i Harglwydd yn wir hyglyw. Ond gwyliai Duw, ac wele, Troes ei hiaith yn iaith y ne. Dôi gair proffwydi geirwir Yr Hebraeg yn Gymraeg îr. Am hynny rhof am unawr Gân i'r Esgob Morgan mawr. A diolch i Dduw Dewi Am i'r Mab droi'n Gymro i mi.