Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hen eglwys Llandeilo Tal-y-bont yn fuan eyn dechrau ar y gwaith o'i symud. Uwchben y ffenestr hon y darganfuwyd y murlun o'r Santes Catherine. ond yn ystod y ganrif ddiwethaf bu rheithoriaid bob plwyf bron yn brysur un ai'n tynnu'r holl blastr oddi ar welydd eu heglwysi (a thrwy hynny ddinistrio'r holl haenau o furluniau oedd arnynt) neu yn eu gorchuddio â gwyngalch (a thrwy hynny eu harbed, er eu condemnio i gael eu hanghofio). Bu'n rhaid achub murluniau Llandeilo Tal-y-bont ar fyrder. Gyda chymorth parod aelodau o staff y Comisiwn Brenhinol ar Henebion yng Nghymru, gwelwyd bod digon ohonynt wedi goroesi o dan y gwyngalch i'w gwneud yn angenrheidiol cael arbenigwyr at y gwaith ac fel canlyniad bu tîm o Adran Archaeoleg Coleg y Brifysgol, Caerdydd wrthi'n ddyfal am ddeufis mewn tywydd enbyd yn codi'r murluniau. Gwaith yn galw am amynedd a dycnwch oedd hyn gan fod cyflwr llawer o'r lluniau yn druenus, a'r gwaith wedi ei gymhlethu oherwydd fod sawl haen o furluniau, un uwchben y lla.ll ac weithiau â haen o wyngalch rhyngddynt. Ar un mur gwelwyd fod 18 haen o luniau wedi bod! Yr oedd yn rhaid penderfynu pa haenau oedd i'w dadorchuddio a'u cofnodi'n unig, a pha rai oedd i'w cadw. Penderfynwyd yn fuan mai cyfres yn dyddio o chwarter cyntaf y 16eg ganrif (yn ôl eu harddull) cedd bwysicaf, a chanolbwyntiwyd ar eu hachub hwy er i un darlun gwych o'r Santes Catherine, ganrif ynghynt, gael ei godi o'r wal hefyd. Llwyddwyd i achub lluniau a orchuddiai tua traean yr eglwys. Yr oedd y gweddill wedi dirywio oherwydd cyflwr gwael y muriau neu wedi eu dinistrio i wneud IIe i eraill. Yn ychwanegol ceid patrwm o sgwariau coch a gwyn dan y bwâu. Lleolid rhai lluniau yn yr un IIe ymhob eglwys: er enghraifft, dim ond pen baban a oroesodd gyferbyn â'r cyntedd yn Llandeilo Tal-y-bont, ond yr oedd hyn yn ddigon inni allu cadarnhau mai Sant Christopher oedd y darlun hwn, gyda'r baban yn eistedd ar ysgwydd y cawr. Ceir y murlun hwn bob amser gyferbyn â'r brif fynedfa er mwyn i'r Sant gael gwarchod y plwyfolion ar eu ffordd adref. Ymysg y mwyaf cofiadwy o beintiadau Llandeilo Tal-y-bont y mae darlun o Grist yn cael ei wawdio, y goron ddrain ar ei ben a dafnau gwaed yn arllwys o'i archollion, gyda dyn cydnerth bob ochr iddo yn poeri arno; Crist yn cael ei arddangos i'r dorf, yn gwisgo cadwyni ar ei draed; a'i gorff yn cael ei estyn i lawr o'r groes. Yn ogystal, ceir nifer o angylion, seintiau gan gynnwys Sant Pedr yng ngwisg pererin, ac esgobion, un ohonynt efallai yn Thomas Becket. Dyma'n sicr y darganfyddiad pwysicaf o furluniau yng Nghymru ers blynyddoedd lawer a does yr un eglwys arall all gymharu â'r cyfoeth darluniadol hyn yng Nghymru hyd yn hyn. Erbyn hyn mae'r gwaith o baratoi'r murluniau bron â dod i ben a gobeithir arddangos rhai ohonynt yn y dyfodol agos. Mae coedwaith to yr eglwys eisoes yn yr Amgueddfa Werin ac mae cerrig y muriau wedi eu pentyrru'n daclus yn barod i'w symud. Yn anffodus, ni fydd yn bosibl decrhrau ail godi'r eglwys yn Sain Ffagan am rai blynyddoedd oherwydd fod cymaint o gynlluniau eraill ar y gweill, ond mae ein bwriad yn syml. Byddwn yn ail-godi eglwys Llandeilo Tal-y-bont i adlewyrchu'r cyfnod mwyaf diddorol yn ei hanes, sef chwarter cyntaf yr 16eg ganrif. Gallwn felly hepgor y corau coll heb angen eu hail-greu ac, yn bwysicach lawer, gallwn ddangos y murluniau yn eu cyd-destun gwreiddiol. Bydd rhaid ail-greu llawer o'r rhannau a ddinistriwyd dros y canrifoedd, ond bydd y cyfanwaith gorffenedig yn unigryw ym Mhrydain. Hon fydd yr unig eglwys blwyf o'r Oesoedd Canol i'w symud i amgueddfa; hi fydd yr unig un a adferwyd i'r hyn yr oedd yn y cyfnod hwnnw; a hi fydd yr unig un IIe'r adferwyd ei.holl furluniau. Gwych o beth hefyd fyddai gweld ail- gysegru eglwys Llandeilo Tal-y-bont fel symbol o'r dynesu at ei gilydd sy'n araf ddigwydd rhwng gwahanol garfanau Eglwys Crist yng Nghymru heddiw, a dod â'r Eglwys honno yn ei thro yn rhan o'r Eglwys fyd-eang. Rhaid cofio i eglwys Llandeilo Tal-y-bont a'i murluniau fod yn rhan o batrwm addurno oedd yn arferol o Iwerddon yr holl ffordd i Rwsia, ac i'w murluniau gael eu peintio gan arlunydd anhysbys yr un pryd yn union ag yr oedd Michaelangelo yn harddu nenfwd Capel y Sistine yn Rhufain. Dyma neges hen eglwys Llandeilo Tal-y-bont.