Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Wedyn, nes ymlaen, — Gweinyddiad y Sacrament. Symudodd y thuser ymlaen ac yn ôl, i fyny ac i lawr, o gwmpas ac o gwmpas, cylch ar ôl cylch. Gweddïau'r byd yn codi yn y mwg a'r aroglau. bydd yn cymeryd thuser yn llawn o farwor llosg oddiar yr allor o flaen yr Arglwydd, a dau ddyrnaid o arogldarth wedi'i falu Dominus vobiscum Yr Arglwydd a fo gyda chwi Y Drydedd Weddi Iwcaristaidd, eto, a honno'r hynaf wedi'r cyfan. Proffwydes o'r enw Deborah oedd yn barnu Israel yr adeg honno Rhyw ddiwrnod mi ddarganfyddaf paham yr oedd Hippolytus a Challistus yn ymladd dros y peth. Pryd oedd hynny yr ail neu'r drydedd ganrif.? Sanctus, Sanctus, Sanctus Sanct, Sanct, Sanct Benedictus qui venit Bendigedig yw'r hwn sy'n dyfod Agnus Dei, qui tollis peccata mundi. Oen Duw, sy'n dwyn ymaith bechodau'r byd misere nobis. dona nobis pacem. trugarha wrthym dyro inni dy dangnefedd Gweddiodd Hanna a dweud Ymfalchiodd fy nghalon yn yr Arglwydd Seiniodd y gloch, dair gwaith, i alw'r gynulleidfa. Penlinio mewn tawelwch; munud o fyfyrdod, gweddi fyfyriol, cariad, cyffes, edrych ar y geiriau eto Ecce, Agnus Dei Wele, Oen Duw yr oedd pobl y darluniad yn dal i fod yn yr unfan: esgidiau du yn dangos islaw'r wisg, casog ddu, cotta wen hunan- arwyddiad, croes dwylo ymlaen ac i fyny Corpus Domini nostri Sanguis Domini nostri Corff ein Harglwydd Gwaed ein Harglwydd Amen dywedodd Hulda wrthynt fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel. Morynion a gwragedd uwchben yn y tywyllwch mewn paent alfresco. Sut ar y ddaear y gwnaeth yr arlunydd ei waith i fyny ar y nenfwd? Beth oedd cyflwr ei wddf ar ôl iddo orffen ei dasg? Menywod uwchben ac i'r ochr, yn edrych i lawr a syllu ar y rhai sy'n talu teyrnged tawelwch yn yr un modd ag y gwnaethpwyd ar hyd y canrifoedd, ar hyd y milenia, a aeth