Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Golygydd Newydd Treuliodd y Parchg. Elfed ap Nefydd Roberts ugain mlynedd yn y weinidogaeth fugeiliol cyn ei benodi naw mlynedd yn ôl yn brifathro'r Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth. Yn frodor o Ruddlan yn Nyffryn Clwyd, cafodd ei addysg yng. Ngholeg y Brifysgol, Bangor a Choleg Westminster, Caergrawnt. Ordeiniwyd ef yn 1960 a bu'n weinidog yn Llanelli cyn symud i'r "Gyda'r GLASNOST 'ma argerdded, mae Wilyn gobeithio cael 'Dechrau Canu' o Fosco!" Gogledd yn 1969 i ofalu am Eglwys Tŵr-Gwyn, Bangor. Yn ystod ei gyfnod ym Mangor bu, am bum mlynedd, yn olygydd Porfeydd, cylchgrawn daufisol y Presbyteriaid a'r Annibynwyr ac un o ragfiaenwyr Cristion, ac am ddwy flynedd bu'nolygydd Y Goleuad. Yn 1980 penodwyd ef i'w swydd bresennol fel prifathro'r Coleg Diwin- yddol, ac fel Cyfarwyddwr y cwrs Astudiaethau Bugeiliol y mae'n bennaf gyfrifol am hyfforddiant ymgeiswyr am y weinidogaeth yn ystod blwyddyn olaf eu cwrs coleg. Bydd yn ymgymeryd â'r gwaith o olygu Cristion gyda rhifyn Gorffennaf- Awst eleni. Dylid anfon ysgrifau, llythyrau a llyfrau i'w hadolygu ato i'r cyfeiriad canlynol: Y Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth, Dyfed SY23 2LT. Ffôn: 0970-624574. CYWIRIAD HUMILITY yn hytrach na HUMANITY a ddylasai fod yn air cyntaf ar ben ail golofn tudalen 4 yn erthygl Wilfred H. Price 'Canys yr oedd Efe yn Caru ein Cenedl ni' yn rhifyn diwethaf Cristion. Y Golygydd Newydd 2 Nodion Golygyddol 3 I Trefeca Heddiw 4 Tom Wright Campwaith Lewys Bayly 5 Dr. J Gwynfor Jones laith y Beibl Cymraeg 10 Newydd Dr. Glyn Jones I Y Llonyddwch Mawr 12 Patrick Thomas Mene Mene 14 D.R. Thomas Gair Duw ar Gyfer 15 Heddiw (3) Dafydd R. Ap-Thomas Annwyl Cristion 16 Mae'n Bryd Unioni'r Cam 17 Dewi Lloyd Lewis Pobl Dduw a Phobloedd 18 y Deyrnas Dorian Llywelyn Smith Cwis Ysgrythurol 20 Haydn Davies I Gair o'r Gair 21 D. Hugh Matthews I Diwinyddiaeth y Creu 22 Dr. Eryl Wynn Davies Y Gerdd Gomisiwn 23 Bryan Martin Davies Llun Clawr: Ynys Enlli yn yr Haf Aled Rhys Hughes Cylchgrawn dau-fisol yw 'Cristion'. Fe'i cyhoeddir gan Bwyllgor cyhoeddi 'Cristion' ar ran yr eglwysi canlynol: Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Yr Eglwys Fethodistaidd, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru a'r Eglwys yng Nghymru. Golygydd: Eifion Powell, 3 Heol Sant Ambrôs, Y Waun, Caerdydd CF4 4BG. Ffon: 0222-612479. Cyfraniadau, llythyrau a llyfrau i'w hadolygu i'r cyfeiriad hwn. Bwrdd Golygyddol: lorwerth Jones, John Rice Rowlands, W. Hugh Pritchard, T. Bayley Hughes, Selyf Roberts. Cynllunydd: Marian Delyth. Trysorydd: John Williams, Saunton, Maesdu Ave., Llandudno. Cadeirydd y Pwyllgor Rheoll: Maxwell Evans Cylchrediad Dosbarthu a Hysbysebion: Lynn Jones, Eirianell, 30 Highfields, Llandaf, Caerdydd. Argraffwyr: Gwasg John Penry, 11 Heol Sant Helen, Abertawe.