Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

WSEB» (M^OTHMEo DIOLCHIADAU 'Dwn i ddim os ydyw hi'n arfer rhy bwysfawr yn yr oes ffwrdd â hi hon i sôn am Gadair y Golygydd. 'Rwy'n mentro gwneud hynny er mwyn gallu sôn am ryw Gadeirydd Cyngor Lleol yn yr hen Sir Feirionnydd flyn- yddoedd yn ôl a gadwai drefn ar y gweithgareddau drwy fygwth bob yn hyn a hyn, os na chai sylw'r cynghor- wyr: "Gentlemen, I will vaccinate my Chair". Synnwn i ddim na all Cadair y Golygydd wneud â'r feddyginiaeth newydd a ddwg y Prifathro Elfed ap Nefydd Roberts i'r cylchgrawn, ond hoffwn bwysleisio nad oes gen i ddim ond diolch wrth adael y gadair ar ôl tair blynedd a deunaw rhifyn o olygu. Diolch yn gyntaf i Bwyllgor Rheoli'r Cylchgrawn o dan gadeiryddiaeth y Prifathro John Rice Rowlands, ac yna'r Parchedig Maxwell Evans ac i'r ddau ysgrifennydd yn eu tro, sef y Parchedig Derwyn Morris Jones a'r Parchedig W.H. Pritchard. Trist oedd clywed am farwolaeth y Canon T. Bayley Hughes yn ddiweddar yma. Gwr hynaws a thalentog a fu'n gefn mawr i'r cylchgrawn fel cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru ar y Pwyllgor Rheoli a'r Bwrdd Golygyddol am flynyddoedd ac fel cyfrannwr cyson i'r tudalennau lle'r oedd ei ddarlunio celfydd a sicrwydd ei drawiad doniol yn taro deuddeg bob tro. Diolch hefyd i'r Cyngor Llyfrau Cymraeg am ei gef- nogaeth ariannol i'r cylchgrawn ac i ddiddordeb byw y ddau Gyfarwyddwr yn eu tro, sef Mr. Alun Creunant Davies a Miss Gwerfyl Pierce Jones, ym mharhad a llwyddiant y cylchgrawn. Hoffwn ddiolch hefyd i Mr. Elfryn Thomas a'i gyd-weithwyr yng Ngwasg John Penry, Abertawe am eu gwaith argraffu cymen ac am eu hamynedd. Cefais y fraint dros y cyfnod o gydweithio â Miss Marian Delyth, dylunydd y cylchgrawn, a hoffwn ddiolch o galon iddi hi am gywirdeb ei gwaith ac am hynawsedd ei chroeso ar ei haelwyd bob tro y byddem yn paratoi'r cylchgrawn ar gyfer y Wasg. Mae diolch yn ddyledus i'r ddau drysorydd hefyd, sef Mr. D. Wynford Jones, y Bedyddiwr mwyn o Aberystwyth a fu'n batrwm o drysorydd i'r cylchgrawn o'i gychwyn cyntaf, ac i Mr. John Williams, yr An- nibynnwr da o Landudno a gymerodd at y drysoryddiaeth yn ddiweddar. Gwaith cyson a manwl yw gwaith y trysorydd gyda'i ofal dros gyllid y cylchgrawn a chydnabod y cyfranwyr. A diolch i Mr. Lynn Jones, Caerdydd, y swyddog Cylchrediad, Dosbarthu a Hysbysebion am ei lafur yntau. Bu'n ddiwyd yn ceisio codi cylchrediad y cylchgrawn ac yn casglu hysbysebion cyson iddo, gan gryfhau'r cyllid drwy ei ymdrech ddyfal. Y CYFRANWYR A'R CYLCHREDIAD Fe wêl y darllenydd erbyn hyn mai trwy gyd-ymdrech nifer o bobl wahanol y mae cynhyrchu rhifyn ar ôl rhifyn o CRISTION, a dydw i ddim wedi dechrau sôn am y cyfranwyr eto, sef awduron yr erthyglau, yr emynau a'r farddoniaeth, y ffotograffwyr a llun wyr y cartwnau a'r dyluniadau, heb sôn am y cwis Beiblaidd. Mae golygydd yn comisiynu peth gwaith, ond diolch hefyd am y bobl hynny sy'n danfon er- thyglau i'w hystyried. Derbyniais lawer o waith da y bu'n bleser i'w baratoi ar gyfer ei argraffu a chymeraf y cyfle hwn yn awr i ymddiheuro i bawb a siomwyd, gan egluro bod ffactorau eraill heblaw gwerth cynhenid y cyfraniad yn rheoli llaw golygydd, megis perthnasedd y pwnc a drafodir a gofod. A sôn am ofod, fe ddysgodd y tymor a dreuliais fel golygydd ddwy wers bwysig i mi, sef anallu'r mwyafrif i gadw at y gofod gofynnol o fil o eiriau (mwy neu lai) mewn erthygl gan farnu bod pwysigrwydd y testun o dan sylw yn caniatáu meithder, a phrinder cymharol a gwerth di-amheuol y cyfraniad cryno a gyflwynai safbwynt neu wybodaeth mewn byr eiriau eglur. Os ca'i ddweud hynny by cyfraniadau cyson yr Athro D. Hugh Matthews yn y gyfres "Gair o'r Gair" yn bartwm cyson o'r nod i anelu ato mewn cylchgrawn o'r math hwn. Er y mae'n rhaid imi gydnabod yn ddiolchgar hefyd imi gael y fraint o gyhoeddi ambell i erthygl yn arbennig mewn cysylltiad â dathlu pedwar canmlwy- ddiant cyfieithu'r Beibl a dathlu'r Cyfieithiad Cymraeg Newydd y llynedd na ellid cyfyngu eu sylwedd i'r gofod a nodwyd. Ond dylid meddwl am erthyglau o'r fath fel eithriadau yn hytrach na'r norm. Dyna fi wedi cael dweud fy nweud, fy mraint yn awr yw cael dymuno'n dda i'r golygydd newydd y Prifathro Elfed ap Nefydd Roberts wrth iddo ymgymeryd â'i gyfrifoldeb gan ddymuno y caiff ef yr un gefnogaeth gan gyfranwyr a darllenwyr CRISTION ag y cafodd y Parchedig Enid Morgan, y golygydd cyntaf a minnau. 'Rwy'n ysgrifennu fel un sydd wedi ei argyhoeddi'n llwyr o werth a phwysigrwydd cylchgrawn cyd- enwadol Cymraeg fel hwn gyda'r cyfle a rydd i'r enwadau hynny sy'n addoli drwy gyfrwng y Gymraeg i gyfarwy- ddo â'i gilydd a'r cyfle iddynt gyfnewid safbwyntiau a phwysleisiadau. Ceir cy- fle i hybu cyd-weithrediad cyd-enwadol yn ogystal ar ei dudalennau a'r fforwm yn hybu ffrwythlondeb. Dyna paham y mae dyn yn teimlo mor ddiolchgar i'r dosbarthwyr ffyddlon hynny yn yr eglwysi am eu gofal dros y cylchrediad, gydag ambell un ohonynt, fel Miss Gwyneth Evans o Rhos, Pontardawe, yn cyflwyno esiampl wiw o'r hyn y gellir ei wneud. Mae digon o Ie eto i wella'r cylchrediad fel y dengys y rhestr hon o'r modd y dosberthir copïau'r cylchgrawn gan y gwahanol enwadau. Cyhoeddwyd y rhestr hon ym Mwrdd Rheoli diwethaf CRISTION, ac nid yw'r rhestr yn nodi'r copïau ychwanegol a ddosber- thir gan y Cyngor Llyfrau Cymraeg ac yn y siopau a thrwy law Mr. Lynn Jones. Y RHESTR Yr Annibynnwyr 700 Y Bedyddwyr 270 Yr Eglwys yng Nghymru 200 Y Methodistiaid 240 Y Presbyteriaid 580