Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tÿ Howel Harnes ddarlithio a thrafodaeth. Hefyd y mae cwrs i Flaenoriaid ar y gweill. 3. Fel man cyfarfod, rydym hefyd yn ceisio hybu pob ymdrech at well dealltwriaeth rhwng Cristnogion o wahanol safbwyntiau a chefnogi'r mudiad eciwmenaidd a gweithgareddau Cyngor Eglwysi Cymru. Perthyn Trefeca i Gymdeithas Canolfannau Lleyg Prydain ac Iwerddon a phrofiad gwerthfawr i mi oedd mynychu ei Chynhadledd Flynyddol yn 1988 yn Corrymeela. Trefeca ydyw'r unig aelod o Gymru. Campwaith Lewys Bayly, Eseob Bawor: 'Yr Ymarfer o DduwioM J. GWYNFOR JONES Enwogwyd Lewys Bayly, Esgob Bangor o 1616 hyd at ei farw yn 1631, gan ei gyfrol ddefosiynol The Practice of Piety a gyfieithwyd i'r Gymraeg yn 1630 gan Rowland Fychan, uchelwr o Gaer-gai, Llanuwchllyn ym Meirionnydd. Y teitl Cymraeg yw Yr Ymarfer o Dduwioldeb yn cyfarwyddo dyn i ryngu bodd Duw a chyflwynwyd y gwaith, yn ôl ei dymuniad, i Margaret Lloyd, merch Syr John Lloyd o Aberllefenni a phriod John Lloyd o Riwedog yn Llanfor, Meirionnydd, cyfaill a chymydog i Rowland Fychan. Ymhlith esgobion Cymru yng nghyfnod y Diwygiad Protestannaidd hyd at tua ail ddegawd yr ail ganrif ar bymtheg Lewys Bayly yn unig, ac eithrio Richard Davies a William Morgan, a'i hamlygodd ei hun oblegid ei ddawn lenyddol. Nid bod y ddawn honno bob amser o'r radd flaenaf, ond bu'n gymorth mawr iddo gynhyrchu un o'r gweithiau crefyddol mwyaf poblogaidd a gyhoeddwyd erioed yn Saesneg. Ynghyd â Taith y Pererin gan John Bunyan a Holl Ddyletswydd Dyn gan Richard Allestree, cyfrifir The Practice of Piety ymhlith y llyfrau defosiynol y bu galw cyson amdanynt. Dywedir i'r gwaith hwn gael ei gyhoeddi gyntaf yn Saesneg yn y flwyddyn 1611. Ymddangosodd y trydydd argraffiad yn 1613 a'r unfed argraffiad ar ddeg yn 1619. Digwyddodd hynny dros ddegawd cyn i'r llyfr gael ei gyfieithu i'r Gymraeg. Ymddangosodd yn Ffrangeg yn 1625 ac yn Almaeneg yn 4. Nid yn unig am 'deulu' Trefeca a theulu'r Eglwys y maen consyrn, ond hefyd am ein cyd-ddyn ac am gymdeithas. Felly y mae gennym berthynas fyw â mudiadau lleol a chenedlaethol megis MENCAP a LARCHE ac yn agor ein drysau i grwpiau o bobol dan anfantais feddyliol ac i deuluoedd di-freintiedig i fwynhau ychydigo wyliau yn awyr iach yr ardal brydferth hon, gyda chydweithrediad y Gwasanaethau Cymdeithasol. 5. Agwedd arall ar ein gwaith yr hoffwn ei phwysleisio ydyw'r un ryngwladol. Cofiwn bod ein Meistr yn Arglwydd ac yn Waredwr yr holl fyd ac mai ei fyd Ef ydyw. Yn ystod 1988 croesawyd ymwelwyr yma o bedwar ban y byd: o'r In- dia. Burma, Yr Unol Daleithiau, Ffrainc, Hwngari, yr Iseldiroedd ac o amryw o wledydd Africa. Fe dreuliodd myfyriwr ifanc 21 oed o Budapest ddau fis yma yn gweithio am ei gadw. Mae Trefeca yn aelod o Gymdeithas Eciwmenaidd Canolfannau ac Academiau Lleyg Ewrop, ac mi gefais y fraint mis Medi diwethaf o ymweld â'i Chynhadledd Flynyddol ym Mudapest yr unig Gymro ymhlith dros 100 o gynrychiolwyr o 18 o wahanol wledydd. Ond efallai mai ein prif gyfle i geisio helpu'r byd yn ein ffordd bach ein hunain ydyw trwy ein cydweithrediad â Chymorth Cristnogol. Profiad arbennig ydyw cael byw yn Nhrefeca heb sôn am fod yn Warden ar Ganolfan mor amlochrog ei swyddogaeth. Ond rhaid dod yma i werthfawrogi naws y lle ac wedyn fe gytunwch, rwyn sicr, â'r adnod Josua 4:7: 'Felly bydd y meini hyn yn gofeb i'r Israeliaid hyd byth', yn ein cyd-destun ni yng Nghymru. 1629. Fe'i troswyd i'r Bwyleg yn 1647 ac yn 1665 ymddang- osodd argraffiad ohono yn iaith Romansch. Yn 1735 blwyddyn tröedigaeth Hywel Harris- ymddangosodd y trigeinfed namyn un argraffiad o The Practice of Piety yn Saesneg. Erbyn hynny cafwyd chwe argraffiad o'r campwaith yn Gymraeg a'r cyfan yn seiliedig ar gyfieithiad Rowland Fychan. Gyrfa Gynnar Bayly Cyflawnwyd y gamp o ysgrifennu The Practice of Piety gan wr a anwyd, fe gredir, yn nhref Caerfyrddin ac a addysgwyd yng ngholeg Exeter yn Rhydychen. Ni chyfrifwyd ef yn ysgolhaig disglair ac ni ddangosodd addewid addysgol hynod yn ei ddyddiau cynnar. Er hynny, enillodd Lewys Bayly gryn gymeradwyaeth iddo'i hun a bu'r brenin lago I yn gefnogol iddo. Y tebyg yw mai yn ystod ei gyfnod yn ficer Evesham yn Sir Gaerwrangon y cyfansoddodd y cyfan o'r gwaith. Fe'i cydnabuwyd yn bregethwr da ac fe'i apwyntiwyd yn brifathro'r ysgol ramadeg yno. Fe'i dyrchafwyd hefyd yn un o gaplaniaid y brenin Iago I, yn ficer absennol plwyf Llanedi yn sir Gaerfyrddin, yn drysorydd ty cabidwl San Pawl yn Llundain ac yn gaplan i'r Tywysog Harri, llanc galluog ac etifedd Iago a fuasai farw'n ddisyfyd yn 1612. I'w frawd Siarl, a ddaeth yn Dywysog ar ei ôl, y cyflwynwyd The Practice of Piety gyda'r