Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ar gyfer y bobl gyffredin gyda delweddau syml a chyfoethog a dulliau ymadrodd cartrefol a dealladwy. Cedwid urddas y Beibl hwn yn nghoethder ei arddull a'i fynegiant. Y tebyg yw i Lewys Bayly fanteisio ar gyhoeddi'r Beibl awdurdodedig wrth lunio'i gampwaith ei hun. Ef yn sicr oedd y cyntaf ymhlith esgobion Cymru yng nghyfnodau cynnar y Diwygiad Protestannaidd i gyhoeddi cyfrol wreiddiol a gawsai ddylanwad parhaol ar genedlaethau o grefyddwyr yng Nghymru a thrwy'r byd. Mewn cyfnod o sefydlogi eglwysig teimlai fod angen hyfforddlyfr a fyddai'n gymorth i gadarn- hau'r hyn y bwriadid i'r Beibl ei gyflawni, sef gwreiddio'r traddodiad Protestannaidd yn yr enaid unigol. Ni fu Lewys Bayly'n amlwg ei gyfraniad i ddiwylliant Cymraeg. Ni noddai feirdd yn y modd y gwnaeth ei ragflaen- wyr Richard Vaughan a Henry Rowland. Pan ysgrifennodd at John Beale, argraffydd yn Aldersgate Street, Llundain, i'w annog i argraffu Geiriadur Cymraeg-Lladin a Lladin- Cymraeg gan Dr. John Davies o Fallwyd, nid ysgolheictod Cymraeg, fel y cyfryw, a enynnai ei ddiddordeb eithr yn hytrach yr angen i wella safon darllen a deall Cymraeg ymhlith ei glerigwyr. 'I understand that Doctor Davies hath perfected a worthy and necessary piece of work which all our Welsh preachers do much want', meddai: 'I do much desire to see it printed, and if you will undertake the work I am persuaded it will sell very well for it is work that hath been long desired'. Addawodd Bayly y gwerthai gant o gopïau mewn chwe mis pe byddai Beale yn ymgymryd â'r gwaith. IAITH Y BEIBL CYMRAEG NEWYDD Bellach mae'r flwyddyn 1988 y tu cefn i ni genedl y Cymry a diau y byddwn yn ei chofio am genedlaethau i ddod. Hon fu blwyddyn y dathlu mawr, dathlu pedwar canmlwyddiant cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan a dathlu cyflwyno cyfieithiad Cymraeg newydd i'r genedl. Yn y gwasanaeth cofiadwy hwnnw yng nghapel y Tabernacl yng Nghaerdydd, Ddydd Gwyl Ddewi 1988, traddodwyd pregeth gan y Parchedig Owen Ellis Evans, Cyfarwyddwr olaf y Cydbwyllgor a fu'n gyfrifol am y cyfieithiad newydd. Yn y bregeth honno gofynnwyd y cwestiwn paham yr oedd angen cyfieithiad newydd ac, os iawn y cofiaf, rhoddwyd tri rheswm sef, yn gyntaf, angen am gyflwyno'r ysgrythyrau gwreiddiol yn gywir, yn ail, yr angen i air Duw fod yn ddealladwy; yn drydydd, yr angen i gyrraedd cenhedlaeth heddiw yn, a dyfynnaf o nodyn a godais wrth wrando ar y bregeth, y Gymraeg fel dan ni'n gyfarwydd â hi: Rai misoedd yn ôl, gofynnodd golygydd Cristion i mi a fyddwn yn ysgrifennu rhywbeth iddo ar gyfer Cristion am y cyfieithiad newydd o safbwynt y wedd ieithyddol. Ar ôl meddwl tipyn dros y peth, penderfynwyd gosod rhyw brawf bach ar rai o blant ac aelodau hyn Ysgol Sul un o gapeli Cymraeg Caerdydd, i gael eu hymateb i'r cyfieithiad newydd o'i gymharu â'r hen. Yr hyn a wnaethpwyd oedd dewis yr un adnodau cyfarwydd cyfarwydd o'r Testament Newydd yn y ddau gyfieithiad, sef Luc 2:8-11, hanes yr angylion yn dod â'r newyddion da am eni'r Iesu i'r bugeiliaid. Mae gwahaniaethau geirfaol amlwg rhwng y ddau gyfieithiad, e.e. Ei gynllun oedd ceisio gofalu am fuddiannau ysbrydol ei esgobaeth ei hun: y bugail a'r arweinydd esgobol Protest- annaidd a amlygid mewn geiriau o'r fath, nid gwarchodwr yr iaith nag ysgolheictod Cymraeg. 'Y mae'n drychineb', meddai'r Athro A.H. Dodd, 'fod gŵr a feddai ar gymaint o rymuster cymeriad ac a roddodd gymaint i'r byd Cristnogol ar ei eithaf wedi amddifadu ei egnïoedd mor afradlon yn ei esgobaeth ei hun trwy gweryla'n ddiffrwyth a chyflawni cyn lleied: Mewn cyfnod pan nod weddid yr Eglwys gan ysbryd amddiffynnol a phan geisiai ymsefydlogi mewn byd politicaidd mwy astrus ni allai Bayly lai nag ymgymryd â'r baich o gynnal y sefydliad a fuasai iddo ef a'i gyfoedion eglwysig yn foddion, ymhlith ffactorau eraill, i gadarnhau undod y wladwriaeth ynysol ar ei heithaf. Er iddo ddefnyddio dulliau digon dibris i gyrraedd yr amcan hwnnw mae'n ddiamau i'w lafur yn cyhoeddi The Practice of Piety cyn iddo ddod i'w swydd esgobol roi iddo hynodrwydd na welid byth wedyn yng nghwrs ei yrfa. Ar ddiwedd ei fywyd, flwyddyn wedi i Rowland Fychan drosi'r campwaith i'r Gymraeg, daethai tro enbyd ar fyd: erbyn hynny crynhoai cymylau anniddigrwydd a gwrthryfel llym ar y gorwel mewn gwlad ac eglwys. Yn 1630 hefyd cyhoedd- wyd 'Y Beibl Bach', a bu i hwnnw a gwaith Bayly gyfrannu'n helaeth i gryfhau bywyd ysbrydol y Cymry mewn cyfnodau o newid ac addasu a gawsai ddylanwad sylfaenol ar ddatblygiad crefyddol a diwylliannol Cymru o flynyddoedd canol yr ail ganrif ar bymtheg ymlaen. GLYN JONES gwylied/gwarchod, mynegi/cyhoeddi, ceidwad/gwaredwr; Peidiwch ag ofni/Nac ofnwch. Penderfynwyd gofyn i weinidog yr Eglwys ddarllen y ddau fersiwn a'i recordio yn gwneud hynny. Galwyd y darlleniad o'r cyfieithiad newydd yn A a'r darlleniad o'r hen gyfieithiad yn B. Y cam nesaf oedd gofyn i rai o aelodau'r Ysgol Sul wrando ar y ddwy 'stori' ac yna ateb rhai cwestiynau a oedd wedi eu gosod ar daflen iddynt. Atgynhyrchir y daflen hon isod. I orffen, gofynnwyd iddynt lenwi bwlch mewn chwe brawddeg a oedd yn dweud yr hanes, trwy ddewis o blith dau air ar gyfer pob brawddeg. Yr oedd y ddau air yn cynrychioli geirfa wahanol y ddau gyfieithiad sef, y rhai a nodwyd uchod gennym, ynghyd â'r ddau hyn: disymwth/sydyn; moli/moliannu. Yr oedd rhai cwestiynau yn gofyn am ymateb o natur 'deimladol' er enghraifft, p'run a hoffid orau? p'run oedd y mwyaf swynol? Tra oedd rhai eraill yn gofyn am ateb mwy ffeithiol, er enghraifft, p'run oedd hawsaf i'w ddeall? Gan mai yr un person oedd yn darllen, yr oeddem yn tybio mai yr ymateb i iaith wahanol y ddau gyfieithiad fyddai'r rheswm dros yr atebion ac nid dim am y darllenydd! Wel beth fu'r canlyniadau? Ystyriwn hwy fesul cwestiwn: P'run oedd yn dweud y 'stori' orau? Yr oedd y ddau grwp ieuengaf yn unfrydol ymron (8 allan 0 9) mai cyfieithiad William Morgan oedd yn dweud y stori orau. Yr oedd yr oedolion ar y llaw arall yn rhanedig i'r hanner ymron, 4 0 blaid cyfieithiad William Morgan a 3 0 blaid y cyfieithiad newydd.