Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PATRICK THOMAS Nid yw distawrwydd wedi chwarae rhan bwysig yn ein crefydd a'n haddoli yma yng Nghymru yn ystod y canrifoedd diwethaf. Llanw'r distawrwydd sydd yn bwysig bob amser gan ddefnyddio pregethau, darlleniadau ac emynau tra bod gweddi wedi dod yn fater o siarad â Duw yn unig, heb aros am eiliad i wrando arno Ef. 'Da yw i wr ddisgwyl yn ddistaw wrth yr Arglwydd; meddai Jeremeia. Ond yn Ile y distawrwydd disgwylgar hwn fe gawn fel arfer ryw barablu diddiwedd: rhyw ymdrech i geisio boddi sŵn y llef ddistaw fain gyda'n hunanbwysigrwydd ymffrostgar. Cafwyd eithriadau i'r duedd orsiaradus yma dros y blynyddoedd wrth gwrs: Morgan Llwyd a Chrynwyr bore Cymru, y Tad Awstin Baker, Cymro a fu'n awdur Sancta Sophia (un o glasuron ysbrydol yr ail ganrif ar bymtheg) a Waldo Williams yn ein hoes ni. Ceir hefyd ymdriniaeth Dr. Pennar Davies o'r traddodiad cyfriniol yn Y Brenin Alltud. Ar y cyfan, serch hynny, mae'r ffordd dawel, fyfyrgar o agosáu at Dduw wedi cael ei hanwybyddu ymhlith Cristnogion Cymru. Ar yr un pryd mae myfyrdod fel mynedfa i'r bywyd ysbrydol wedi cael gafael ar lawer un tu allan i'r eglwysi, yn enwedig y rhai Eglwys Llanfihangel sydd wedi dod dan ddylanwad crefyddau'r Dwyrain. Nid yw ein henwadau, gyda'u pwyslais ar gyfundrefn ac adeiladau, yn barod iawn i roi canllaw i'r bobl hyn. Bymtheng mlynedd yn ôl dechreuodd mudiad cyd-enwadol (neu an-enwadol!) yn Lloegr i ymateb i'r tyfiant syfrdanol yn y diddordeb mewn myfyrdod a chyfriniaeth. Cafodd y mudiad ei enw ar ôl Jwlian o Norwich, menyw weddigar a ysgrifennodd lyfr rhyfeddol am ei phofiad o Dduw yn ôl yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Cyn bo hir 'roedd dros gant o 'Grwpiau Jwlian' yn cyfarfod ym mhob rhan o Loegr gan dynnu aelodau o bob enwad yn ogystal â rhai o du allan i'r eglwysi. Mae'r mudiad yn dal i dyfu. Nid oes ganddo gyfundrefn ffurfiol-cysylltir y grwpiau â’i gilydd gan gylchgrawn chwarterol. Bu Cristnogion Cymru yn araf iawn i ymateb i'r mudiad yma. Hyd yn oed heddiw dim ond pedwar grwp sydd yn cyfarfod yn ein gwlad. Un ohonynt yw'r grŵp 'rwyf i'n perthyn iddo, sy'n cwrdd bob wythnos ar Fynydd Llanfi- hangel Rhos-y-corn rhwng Brechfa a Llanybydder ym mherfeddion yr hen Sir Gâr. Tarddodd y grwp hwn, fel y