Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MENE MENE««« Aeth y flwyddyn 1988 allan fel blaidd yn rheibio gyda chyfres o gyflafanau. Ni fu llawer o ystyried eu harwyddocad cyffredinol. Mewn oes fwy ofergoelus fe'u priodolid i awdur- dod y planedau neu dynged gwatgarus; mewn oes fwy diwinyddol fe'u cysylltid â Duw neu'r Diafol. Yn y bedwaredd ganrif ar ddeg cafodd rhai hwyl yn dehongli'r Pla Du fel cosb Duw cyfiawn ar bechod y dydd, er mai pobl ddiniwed a ddioddefodd fwyaf. Mae dyfalu haniaethol fel hyn yn gwbl ddiobaith. Os y sêr neu dynged sy'n gyfrifol am drychinebau ni all dyn wneud dim ond derbyn ei ffawd. Os Duw neu ddiafol sy'n gyfrifol nid oes ar ddyn unrhyw gyfrifoldeb; y cwbl y gall ei wneud yw dyfalu am natur Duw sy'n gweithredu fel hyn a gobeithio am fyd arall. Yn ymarferol ar wahân i ddyfalu haniaethol nid yw neb erbyn hyn yn derbyn yr agweddau hyn. Os wyf yn sâl nid wyf yn beio ynrhyw dynged,-rwy'n galw ar y meddyg i'm gwella. Cymerwn mai peth i'w osgoi yw trychineb ac mai her i'n gwybodaeth a'n medr yw pob afiechyd. Ystyriwn bob galanas yn ddigwyddiad unigol ac iddi achosion arbennig. Yn nhrychineb Clapham gofynnwyd beth aeth o'i le. Pan foddwyd plant Aberfan mewn slyri ni feiddiodd neb feio Duw; gwyddom mai'r Bwrdd Glo oedd yn gyfrifol (a'r bobl oedd yn galw am lo rhad.). Yr ydym wedi seciwlareiddio digwyddiadau a thrwy hynny yn derbyn cyfrifoldeb. Mae'r agwedd hon yn fwy gobeithiol. Trwy hyn y gellir osgoi trychinebau pellach. Canlyniad damwain Clapham oedd gwella'r gyfundrefn signalau fel na fydd damwain debyg yn digwydd eto. Ar ôl daeargryn sylweddolir fod craciau yn ein planed a cheisir adeiladau diogelach all sefyll yn y cryndod fel y gwnaeth Japan (dan gyfarwyddyd Frank Lloyd Wright, Cymro Americanaidd), neu gellir sylweddoli bod rhai taleithiau sydd yn anaddas i adeiladu trefydd ynddynt. Bu'r agwedd seciwlar hon yn fwy llwyddiannus na diwin- ydda. Gorchfygwyd llu o glefydau ac estynnwyd oes dyn ar y ddaear y agosach i'r ganrif a osododd Eseia fel oedran yr addewid. Nid ewyllys Duw yw fod neb yn marw cyn ei amser: ewyllys Duw yw ein bod yn parchu'r drefn a osododd a thrwy ei deall wneud y blaned lIe y gosododd ni yn gartref. Erbyn hyn mae gennym yr adnoddau i ddileu llu o'r rhwystredigaethau sy'n llesteirio bywyd. Gwyddom y gallwn ddileu newyn a phlau, yr ym yn cynhyrchu digon o wastraff i fwydo'r byd. Gellid gwneud catalog hir o orchestion gwy- ddoniaeth a'r byd gogoneddus y mae'n ei addo. Mae ein llwyddiant syfrdanol yn cyfareddu Yr un pryd fe ddylai dilyniant o drychinebau ein sobri. Mae'n amlwg fod yr annisgwyl yn drysu'r cynlluniau mwyaf gofalus. Rydym yn bell o gyrraedd y byd newydd i'r dewrion fyw ynddo. Nid yw gwyddoniaeth wedi gwneud y byd yn ddiogel, mae datrys pob problem yn datgelu problemau newydd a rhoddodd inni y gallu i ddifodi bywyd yn llwyr, ar ddamwain megis. Mae hyn yn siglo hyder ac yn galw am ystyried cynseiliau ein dyfaliadau: a yw ein hataliadu o amodau bywyd yn ddilys? Nid fod y casgliadau gwyddonol yn anghywir ond eu bod yn anghyfiawn. Ys dywedodd Hamlet mae mwy o bethau nag D.R. THOMAS a ddychmygwyd yn ein ffilosoffi ein gwyddoniaeth a'n diwinyddiaeth. Amod pob doethineb meddai Plato yw ceisio pob gwirionedd, neu weld bywyd yn gyson ac yn gyfan. Mae baich y trychinebau hyn yn real, mor real ag yw gor- chestion ein gwyddorau. Nid yw'r digwyddiadau sy'n cael y penawdau blaengar yn y cyfryngau yn fwy nag enghreifftiau ysgytiol o'r miloedd o drasiediau sy'n gronig yn ein gwarei- ddiad; nid ynt yn ddim mwy na brig y bwystfil sy'n dinistrio. Mae tlodi absoliwt, newyn a phlau ar raddfa fwy na thrychineb Lockerbie yn digwydd yn feunyddiol, ac maent yn ddioddefaint y gellid ei goncro. Mae hyn yn dangos bod rhywbeth mawr o'i le yn ein gwareiddiad. Fel y dywedodd Laertes, pan ddaw cyflafanau nid fel ysbiwyr unigol ond fel byddin mae'n bryd sylwed- doli bod rhyw bydredd yn y deyrnas. Os daw cornwyd ar fy moch fe ddyry'r meddyg eli i'w wella; Ond os bydd cor- nwydydd pellach, ac os bydd f'anadl yn fyr, a gwendid yn fy ngoddiweddu bydd yn chwilio beth sydd o'i Ie ar fy nghyfansoddiad: diffyg yn y gwaed neu'r afu neu'r ysgyfaint, neu yn fy ffordd o fyw. Nid cyfres o ddigwyddiadau yw bywyd; nid casgliad o aelodau yw dyn traed a dwylo, calon ac ymennydd. Gall y gwyddonydd ddadelfennu'r rhain ac anghofio bod elfennau eraill na ellir eu mesur a'u pwyso a gall y rheiny ddylanwadu ar gyflwr dyn. Y cymeriad sy'n penderfynu cyfeiriad y traed a'r dwylo a'r defnydd a wneir o gynyrfiadau'r galon a'r ymennydd. Ni ellir concro "the giant agony of the world", chwedl Keats trwy ystyriaethau gwyddonol yn unig. Ni ellir creu byd newydd heb ystyried nefoedd newydd. Hyn oedd gweledigaeth y Proffwydi. Roedd Amos yn byw mewn cymdeithas oedd yn ymddangos yn gefnog a hyderus. Ond rhestrodd gyfres o drychinebau a rwygodd y deyrnas, a safodd i ystyried eu harwyddocâd. Gofynnodd a yw Duw yn dweud rhywbeth drwyddynt? Gwelodd nad oedd y trychinebau yn ddim ond enghreifftiau oedd yn tynnu sylw at gyflwr cyffredinol y wlad. Gwelodd y tlawd yn cael ei dreisio ac mor ddi-bris â phâr o esgidiau. Roedd y gymdeithas foethus yn glaf a'i hafiechyd yn angeuol. Roedd gwaeth i ddigwydd. Aeth y proffwydi ymhellach a dadlennu ystyr ac achos yr afiechyd. Roedd cyfoeth yn hudolus, a chyfoeth masnachol yn peri tlodi cymeriad; yn magu balchder oedd yn troi yn haerllugrwydd, "yr uchel ael", chwedl Eseia. Roedd hyn yn ei dro yn creu dihidrwydd a hunanles, yn dirmygu'r tlawd ac ecsplotio'r anfreintiedig. Mynegodd dramodwyr Groeg- Aeschylus a Sophocles yr un dilyniant: bod cyfoeth yn creu syrffed a syrffed yn arwain i haerllugrwydd eithaf a hyn yn gwneud dinistr yn gyfan. Nid yw yn bosib i ni, ysywaeth efallai, dderbyn fframwaith mynegiant y Proffwydi a'r Groegiaid,-roeddynt yn perthyn i oes gynwyddonol. Ond fe ddylai digwyddiadau creulon ein dydd ein hysgwyd o'n syrthni diwinyddol a chysgadrwydd ein hyder. "Myfi yw meistr fy ffawd a chapten fenaid," meddai Clough. Y mae gorhyder yn creu esgeulustod a'r gred na fedr dyn wneud camgymeriad yn esgor ar ddihidrwydd a