Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

chaledwch calon. Mae'n rhyfedd gyn lleied a wna gwledydd Cristnogol, cyfoethog y byd i godi trueiniaid y trydydd byd o'u ffos. Rhoddir elusen sy'n annigonol ar y gorau, ond nid oes mo'r consyrn i ystyried ynfydrwydd ein hunanoldeb, mae'n hyder yn anghyfrifol ac yn waeth am ei gysylltu â boddhad crefyddol. Ni allwn ystyried y posibilrwydd ein bod yn camgymryd arwyddion yr amserau. Adeiladwyd y Titanic ddechrau'r ganrif, y "llong na ellid ei suddo", fel arwydd o'n medr, a gwyddom beth a ddigwy- ddodd iddi. Parhawn yn ein balchder i bentyrru arfau i wneud heddwch yn ddiogel heb ystyried fod achosion rhyfeloedd yn ddyfnach ac nad yw arfau yn profi dim ond pwy sydd a'r gallu mwyaf dinistriol. A cheisiwn adeiladau pwerdai lle na gall damwain ddigwydd. GAIR DUW AR GYFER HEDDIW (3) DAFYDD R. Ap-THOMAS Gwallau a Gwelliannau yn y BCN Mae pawb yn hoffi clywed am droeon trwstan rhywun arall, felly rwy'n sicr yr hoffech glywed am rai enghreifftiau o'r gwallau gwaethaf sydd wedi dod i'r golwg (hyd yn hyn)! yn y BCN. Fe gofiwch fod y Testament Newydd wedi colli dwy fil o saint yn ei argraffiad cyntaf, gan dynnu i lawr o saith i bum mil y rhai nad oeddent wedi plygu glin i Baal (Rhuf. 11:4). Mae'n wnaeth na hynny yn 2 Sam. 10.6. Syrthiodd y gair "ugain" allan o'r cyfieithiad rywle ar ei daith, fel bod yr Ammoniaid yn cyflogi dim ond "mil o wyr traed" yn erbyn y Brenin Dafydd, yn lle "ugain mil" y testun Hebraeg. Ambell dro, yn arbennig lle mae mesur o ailadrodd mewn adnod, mae llygad y teipydd wedi neidio o ddiwedd un cymal at yr un gair ar ddiwedd y cymal nesaf. Fel y canfu llygad barcud fy ngweinidog fy hun, collwyd y cyntaf o'r trioedd yn Esec. 5:12. Daw'r geiriau "bydd troeon" deirgwaith yn yr adnod hon, ond neidiodd llygad y teipydd o'r cyntaf at yr ail, ac felly collwyd y geiriau sydd yn y traean cyntaf. Fe ddylasai'r adnod redeg: "Bydd traean o'th boblyn marw o haint ac yn darfod o newyn o'th fewn, bydd traean yn syrthio trwy'r cleddyf o'th amgylch; a byddaf yn gwasgaru traean i'r pedwar gwynt ac yn eu dilyn â'r cleddyf Collwyd y geiriau italig. Nid y BCN yn unig sydd wedi dioddef o'r gwall hwn. Y mae mor adnabyddus i bob ysgolhaig llawysgrifau fel bod enwau Groeg swyddogol am y math hwn o wall, sef homoioarcton a homoioteleuton. Ceir enghraifft adnabyddus iawn ohono yn nhestun y Beibl Hebraeg ei hun. Trwy help yr hen fersiwn Groeg (yr LXX) y mae'r BCN yn darllen: "Dywedodd Saul wrth yr ARGLWYDD, Duw Israel, Pam nad atebaist dy was heddiw? Os yw'r camwedd hwn ynoffì neu ynfy mabjonathan, O ARGLWYDD Dduw Israel, rho Wrim; ond os yw'r camwedd hwn yn dy bobllsrael, rho Twmim". (1 Sam. 14:41). Collwyd y geiriau italig o'r testun Hebraeg, felly nid ydynt gan William Morgan, ond y maent wedi eu hadfer i'r BCN gan egluro'n llawn sut yr oedd Saul am i'r Arglwydd weithredu. Dro arall, gall nad colli geiriau ond ychwanegu at y testun gwreiddiol a geir. Cymharer Salm 18 â'r un darn o far- ddoniaeth yn 2 Sam. 22, a sylwi eu bod mewn cwpledi. Mae Byrdwn Amos wrth groniclo galanasau ei ddydd oedd, "Ond ni ddychwelasoch ataf Fi." Yn ein hunangyfiawnder mae'n demtasiwn i esbonio hyn yn arwynebol a dweud mai "crefydd" yw'r ateb (Pe bai'r capeli'n llawn .) Ond nid hynny oedd neges Amos. Roedd y Deml yn llawn a'i haber- thau yn drewi i'r nefoedd; yn wir roedd y cyfraniadau yn ddiolchgarwch am lwyddiant trais. Y farn oedd eu bod yn anghofio'r Torah, y Cyfamod oedd yn sail i fywyd. Yn arben- nig yn anghofio "cyfamod brawdol" a chyfrifoldeb pob un am ei frawd. Gwnaed elw yn eilun ac aeth crefydd yn fusnes a'r deml yn ogof cynllwyn yn hytrach na thy gweddi. Dyma iwfforia y dicâd oedd yn difa'r genedl, yr iwfforia oedd yn cuddio a phrysuro ei thranc. yna drydedd linell yn Salm 18:13 yn yr Hebraeg, ond y mae'r BCN yn ei gadael allan. Pam? Nid am ei bod yn drydedd llinell, a ninnau'n disgwyl cwpled; nid am nad yw'n gwneud synnwyr yn y fan yna; nid am ei bod yn ailadrodd air am air ail linell y cwpled blaenorol (lle mae'n gwneud synnwyr); ond am fod y tri rheswm yma yn cael eu hategu gan y ffaith na cheir mo'r llinell yn 2 Sam. 22:14 ac nid oes esboniad cystal am y gwahaniaeth na bod rhyw gopïwr drwy amryfusedd wedi ail ysgrifennu llinell olaf yr adnod flaenorol ar ddiwedd Salm 18:13. Credaf mai un o gymwynasau'r BCN, yn ychwanegol at y ffaith ei fod yn ceisio osgoi geiriau dieithr (megis "goleufynag" yn 1 Sam. 14:41 uchod), a chystrawennau hen- ffasiwn, yw'r nifer o eiriau Hebraeg sy'n cael eu trosi mewn ffordd hollol newydd, anhysbys i William Morgan a'i gyfoeswyr. Nid o fympwy y gwneir hyn, ond bod ysgolheigion dros y blynyddoedd wedi darganfod bod rhai geiriau Hebraeg â dau ystyr gwahanol ganddynt, megis y gall y gair "gwaith" yn y Gymraeg olygu "tro" neu "amser" (dwywaith, teirgwaith) weithiau, a thro arall olygu "llafur" neu ymdrech (gwaith llafurus, &c). Ymhlith y geiriau Hebraeg a gafodd gyfieithiad newydd y mae'r un a fyddai yn "cysgod angau" ond sydd bellach yn "tywyll du". Yr Hebrewyr eu hunain, yn gymharol ddiweddar yn eu hanes, a gymerodd yr hen air parchus salmwth a honni y dylid ei esbonio fel sal-maweth. Y mae hyn yr un mor anhebygol â'r esboniad a roddodd yr hen athro Ysgol Sul ar ddau o enwau Satan" "Mae'r enw 'diafol' ganddo am ei fod wedi colli ei 'afael' arnom, a 'diawl' am nad oes ganddo fo 'hawl' drosom bellach wedi aberth Crist" Roedd ei ddiwinyddiaeth yntau yn gryfach na'i ieithyddiaeth! Gair Hebraeg sydd o ddifrif â dau ystyr iddo yw neffesh. Ei ystyr mwyaf cyffredin o ddigon yw "anadl", "ysbryd" ac yn arbennig "hunan". Ond sylwodd ysgolheigion nad oedd yr ystyr hwn yn gwneud y tro o gwbl mewn ambell fan. Ni wyddai Morgan am unrhyw ystyr arall i neffesh, ac felly y mae'n ceisio ystwytho, yn wir ystumio'r ystyr hwnnw a wyddai, ac yn dweud wrthym fod y dyn balch "yn helaetha eifeddwl fel uffern" (Hab. 2:5), er na all neb honni fod hynny'n eglur iawn.