Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cymaint yn haws yw defnyddio'r ail ystyr sydd wedi ei ddarganfod i neffesh, sef "llwnc" neu "safn", ac felly yn y BCN dyma sut y rhed yr adnod: 'Y mae cyfoeth yn dwyllodrus, yn gwneud dyn yn falch a di-ddal; y mae yntau'n lledu ei safn fel Sheol, ac fel marwolaeth yn anniwall" Gadawer inni ddyfynnu un enghraifft fach arall, o Salm 69:1. Yno y mae'r BCN yn dweud fod y dyfroedd wedi codi at wddfy Salmydd, yn hytrach nag at ei enaid a fyddai dipyn yn anodd ei leoli. Weithiau y mae'n hollol gyfreithlon inni ddeall y testun Hebraeg mewn mwy nag un ffordd. Y mae llyfr Job yn ddiarhebol am ei amwysedd, gan roi lie i gredu mai o fwriad y gwnaed hyn gan yr awdur er mwyn gwneud i'r darllenydd chwysu. Yn Job 19:26 y mae Job, ar ben ei denyn, yn dweud "ac o'm cnawd caf weld Duw: Y cwestiwn yw, pun ai tra bo'i enaid o hyd yn ei gorff, ynteu wedi iddo farw ac i'w ysbryd adael y corff, y bydd Job yn cael gweld Duw? Yma ni ellir beio'r cyfieithiad am ddehongli'r ystyr yn anghywir, oherwydd fe erys yr un amwysedd (o fwriad) yn y Gymraeg. Yna, os trown at Amos 6:12 y mae William Morgan wedi cyfieithu yn llythrennol gywir, "A red meirch ar graig, a ardd neb ag ychen?" Yr atebion amlwg i'r ddau gwestiwn hyn yw "Na wnant" i'r cyntaf, ond "Gwnant" i'r ail. Ond y mae'n amlwg o'r cyswllt mai'r ateb "Na wnant" a ddisgwylid i'w ddau ofyniad gan y proffwyd. Sylwodd rhyw esboniwr mai ffurf Yn fy ngwaith fel Ysgrifennydd Cymdeithas y Cymod yng Nghymru ac fel un sydd wedi ei galw i weinidogaeth y cymod, 'rwyf yn boenus o ymwybodol o'r rhwygiadau sy'n bodoli ymysg Cristionogion. Nid gwaith cymodwr yw ochri ag un ochr yn fwy na'r llall, ond yn hytrach chwilio am y ffeithiau ar y ddwy ochr ac yna mynd ati i gymodi'r ddwy. Y mae'n dilyn felly bod Cymdeithas y Cymod yn fwy o lawer na 'mudiad heddwch' ac fe ddylai ei hagwedd a'i gweithredoedd, oherwydd eu gwreiddio yn Efengyl Tangnefedd lesu Grist, ddangos hynny'n eglur. Hoffwn rannu a'm cyd- Gristionogion ychydig o syniadau ar hyn, a hynny yng nghyswllt mater 'y pabi coch' a'r 'pabi gwyn' fel un sy'n effeithio arnom i gyd bob mis Tachwedd. Y mae'n naturiol i heddychwyr deimlo'n annifyr iawn ynglŷn â gwisgo pabi coch am eu bod yn ei gysylltu â rhyfel a lladd cyd-ddyn, ond dywed y Lleng Frenhinol Brydeinig i'r pabi coch cael ei ddewis fel arwyddlun ryng-genedlaethol oherwydd ei fod yn blodeuo yng nghaeau Fflandrys, ac nid er mwyn cofio'r lladd y gwisgir ef ond fel arwydd o barch tuag at y rhai a gollwyd ac at eu perthnasau sy'n parhau i fyw ym Mhrydain. Rhaid gofyn, yn enw gonestrwydd a gwirionedd felly, ai doeth a synhwyrol oedd i'r Peace Pledge Union ddewis yr union un emblem ar gyfer eu hymgyrch nhw dros heddwch? Onid gwell fuasai dewis y golomen gan fod honno yn sumbol heddwch dros y byd i gyd yn barod? Gwêl y Lleng Brydeinig y weithred hon fel un ddianrhydedd a phryfoclyd; credant bod ymgais i sgorio pwynt gwleid- yddol ac i elwa'n ariannol ar draul eu sefydliad nhw, y tu cefn i'r syniad. Ar y llaw arall, bwriad y P.P.U. mae'n debyg, oedd tynnu sylw at yr angen am heddwch yn hytrach na rhyfel, a bod parhad yr arfer o wisgo'r pabi coch yn 'gogoneddu' rhyfel. Tybed a oeddent wedi rhoi digon o ystyriaeth i'r mater cyn lansio eu hymgyrch? Cofiaf yn dda am y drafodaeth a gawsom yma yng Nghymru am y syniad o wisgo pabi gwyn ar Dachwedd 11: 'roeddem yn ymwybodol iawn y gallai hyn- ny frifo llawer o'n cyd-Gymry a chyd- Gristionogion a phenderfynasom ymwrthod a'i wisgo ar y diwrnod hwnnw ond yn hytrach ei wisgo yn ystod yr Eisteddfod ar ddiwrnod Hiroshima, sef Awst 6ed; byddai hynny yn dangos ein hymlyniad i weithio dros heddwch a dyfodol heb ryfel mwyach, byddai hefyd yn arwydd o edifeirwch dros weithred erchyll Hiroshima a Nagasaki. Fe welir aelodau o Gymdeithas y Cymod felly yn gwisgo pabi gwyn ar Awst 6ed ond nid ar Dachwedd 11 eg, ac mae hyn yn tanlinellu hanfod y gwahaniaeth rhwng y Gymdeithas a'r mudiadau heddwch seciwlar. Y mae'r naill wedi ei gwreiddio'n ddwfn yn Efengyl Tangnefedd lesu Grist a'i gariad, ac yn ceisio dilyn y ffordd honno yn ei holl ymwneud â phobl o bob perswad ac argyhoeddiad; y mae'r lIall mewn perygl o anarferol iawn oedd i'r gair am "ychen" yma, ac y dylid mewn gwirionedd ei gyfieithu'n llythrennol ag "ychenod" gair mor wrthun â hynny Ond, a chymryd cam pellach, pe holltid y sillaf olaf, gwrthun, oddiar y gair "ychen" fe geid y gair Hebraeg "môr". O ganlyniad, yn y BCN fe dderbyniwyd y ffordd newydd hon o ddarllen y testun safonol ac fe gawn, "A garlama meirch ar graig? A ellir aredig môr ag ychen?" A dyna'r un testun Hebraeg yn rhoi'r ateb "Na wnant", fel y bwriadai Amos. Ond yn Mal. 2:16 y gwelir y newid rhyfeddaf yn y cyfieithiad newydd o'i gymharu â William Morgan, a hynny heb newid dim ar y testun Hebraeg. Sôn y mae'r adnod am briodas ac ysgariad. Yn yr hen gyfieithiad dyma a ddywedir, "Pan gasaech di hi, gollwng hi ymaith, medd yr ARGLWYDD, Duw Israel: canys gorchuddio y mae efe drais â'i wisg:' O edrych yn fanylach ar y testun Hebraeg fe welwyd bod modd ei gyfieithu mewn cytgord llawer gwell â'i gyd-destun a dweud, Oherwydd yr wyf yn casáu ysgariad; medd ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, 'a'r sawl sy'n gwisgo trais fel dilledyn' Y cyfieithiad hwn, yn sicr sydd i'w gymeradwyo, o ddarllen yr adran drwyddi. Wel dyna fo. Cais i godi ychydig ar gwr y llen i ddangos sut y bu'r cyfieithwyr wrth eu gwaith. Ein gobaith yw y bydd y Beibl Cymraeg Newydd yn denu darllenwyr newydd. ddilyn mympwyon a rhagfarnau dynol ac mae rheiny bob amser yn arwain at anghydfod nid cymod. Ai ofer yw gobeithio y bydd pob heddychwr/wraig o Gristion yng Nghymru yn ymaelodi â Chymdeithas y Cymod er mwyn gwneud y dystiolaeth yn rym gweladwy yn ein cymdeithas? Credwch fi y mae mawr ei hangen. 'Rydym beunydd dan fygythiad trais a therfysgaeth, ac i rhain ffynnu nid oes ond angen i ddynion a merched 'da' wneud dim, fel y dywedodd Edmund Burke yn ei sylw craff: "For the triumph of evil it is only necessary that good men do nothing". Gair i gall Nia Rhosier