Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Mae'n bryd unioni'r cam' Thema Wythnos Cymorth Cristnogol 1989 — 15-19 Mai NES IDDYNT UNIONI'R CAM Tra bo meysydd parcio'n blaenori ysbytai Gwestai aml-lawr yn blaenori cartrefi i'r bobl Ffatrioedd di-alw amdanynt yn blaenori caeau reis ein bara beunyddiol Ni chanaf gân o ddathlu pa droeon bynnag â'r haul i lawr Draenen a cholyn bydd y tafod hwn, nes iddynt unioni'r cam Tra bo Cyfraith yn cael y blaen ar Gyfiawnder y cyfrwng cyn y cynnwys y tâl cyn y driniaeth yr olwg yn lle'r hanfod Ni chanaf gân o ddathlu Tra bo'r bardd yn isradd a'r dyn busnes mewn bri i'r realydd ei wobr ac i'r delfrydydd ei bardduo Ni chanaf gân o ddathlu pa droeon bynnag â'r haul i lawr Draenen a cholyn bydd y tafod hwn nes iddynt unioni'r cam Tra difrodir ein hystad gan fuddsoddwyr tramor a llais Cyfalafiaeth yn uwch na chri pysgotwyr Tra bo'r peiriant dur yn cael cafnu'r tirwedd yn ddiatal a'r Rhyngwladolion wedi'u trwyddedu i ddarnio'n wyllt y tir hwn Ni chanaf gân o ddathlu Tra bo'n hafonydd a'n nentydd a'n traethau, a'n glasnen a'n moroedd a'n coedydd, ein hadar a'n pysgod, ein glöynnod byw a'n gwenyn yn cael eu tagu, mygu, llygru, gwenwyno sathru, collfarnu gan ddatblygiad anghyfartal Ni chanaf gân o ddathlu pa droeon bynnag â'r haul i lawr Draenen a cholyn bydd y tafod hwn nes iddynt unioni'r cam. 'No Celebratory Song' Allan 0 'Songs for the Unsung' (WCC) Cecil Rajendra, Malaysia Cyfieithiad Dewi Lloyd Lewis Seiriol Davies