Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pobl Dduw a Phobloedd y Deyrnas Nid oes modd eu hanwybyddu. Ceir clywed eu lleisiau main yng nghlosydd ysgolion Sir Fôn, ym marchnad Aberystwyth wrth iddynt brynu eu llysiau organig, tu ôl i gownteri siopau Harlech, ac ymhob cwr o'r wlad bron, fe'u gwelir gan syllu mewn i ffenestri'r estate agents. Nid peth newydd mo mewnfudo, ond dros y deng mlynedd diwethaf trawsnewidiwyd llawer i ardal wledig gan y llif di-dor o "bobol ddiarth." Ymateb y Cristion Bûm yn meddwl yn aml sut y dylem ni fel Cristnogion ymateb i hyn oll. Rhaid cyffesu nifer o dueddiadau ynof fi fy hunan: an- wybyddu'r ffaith yn wleidyddol ac yn grefyddol, gan obeithio y byddan nhw oll yn diflannu rhywsut, encilio i breifatrwydd ysbrydol gan honni nad oes a wnelo'r newidiadau cymdeithasol hyn ddim â'r Efengyl, neu gondemnio'r mewnlifiad a'r Saeson yn hallt gan fwrw fy hunan gorff ac enaid i weithredu gwleidyddol, a sefyll yn y bwlch. Am nifer o resymau, credaf nad yw'r un o'r ymatebion dealladwy a digon naturiol hyn yn ddigonol. Mae Duw yn galw arnom i fod yn gyd- adeiladwyr ei Deyrnas ef. Ond sut deyrnas yw hon, a ble mae hi? Ai agwedd bur, ysbrydol yw'r Deyrnas, neu realiti mae'n rhaid dechrau ei godi ar y ddaear hon? Halen y ddaear ydym ni, elfen sy'n puro aberth, ac sy'n rhoi blas i'r bwyd-elfen sy'n newid pethau. Rydym hefyd yn ferem yn y toes, yn araf drawsffurfio'r realiti dynol. Ac hefyd yn oleuni'r byd: goleuni na ddylem ei guddio. Yn y cyffelybiaethau hyn, mae lesu yn dysgu inni ein bod fel had y Deyrnas, mai yn ein dwylo ni y mae rhan o'r gwaith o'i hadeiladu. Er bod y deillion yn gweld a'r cloffion yn cerdded, mae'r Tad eisiau gweithwyr i'w faes. Pobi Dduw Trown am foment nawr at y proffwydi, dynion hwythau a gafodd y siars o gydweithio â Duw, gan drosglwyddo ei negeseuon, boed o gymorth neu o rybudd. Pregethant yn aml yn erbyn sefyllfaoedd anghyfiawn sy'n groes i gynllun Duw, sy'n creu anghytgord rhwng dyn a Duw, a dyn a'i gyd-ddyn. Maent yn beirniadu'n ddi- flewyn-ar-dafod, ond bob amser trugaredd parhaol Duw sy'n cael y sylw, ac mae cynnig arall bob amser i'w bobl Israel. I bechaduriaid cyson, maddeuant cyson. Nid peth preifat mo ffydd. Mae'n wir ei bod yn effeithio'n fewnol ar unigolyn, ond mae'n mynnu cael ei mynegi'n allanol DORIAN LLYWELYN SMITH hefyd, mewn gweithredoedd, agweddau a dewis, mewn rhyddid a chyfrifoldeb. Gwelwn ar hyd yr Ysgrythurau Sanctaidd mai creu cymuned yw canlyniad cwrdd â Duw a chredu ynddo. Ac mae cymunedau yn gorfod bodoli'n gymdeithasol, wrth eu hunion natur. Nid oes dewis: mae'n rhaid i Gristnogion, pobl Dduw a Chorff Crist, weithredu yn y byd. Ac os oes yna sefyllfa anghyfiawn, yn ôl dymuniad Duw i'w greadigaeth, ein braint a'n dyled yw mynd ati i'w thrawsffurfio, mewn cariad. Yr Eglwys a Gwleidyddiaeth "Nawr te, bachan aros funud", mae rhywun yn dweud. "Onid job y politisians yw boddran da'r hen bethe 'na?" Itha reit, ond job Cristnogion hefyd. Rhennir llawer o dir cyffredin gan yr Eglwys a gwleidydd- iaeth, ond mae'r ddwy yn ymdrin o safbwyntiau hollol wahanol, er y gallant gydweithio, er enghraifft mewn ymdrechion gwrth-newyn yn y Trydydd Byd. Ond mae'r Eglwys yn wahanol. Creadigaeth dynion yw hi, fel plaid a mudiad, ond mae hefyd yn greadigaeth Duw a fynnai iddi fodoli cyn bod amser (Eff. 1:3-4). Fel lesu, mae ynddi elfennau duwiol a dynol ar yr un pryd. Mae rheswm yr Eglwys dros ymdrechu i gael gwared ar anghyfiawnder yn bur wahanol i ymdrechion gwleidyddiaeth, am mai cyfiawnder Duw yw ei llinyn mesur. Byddai'n hollol wrth-efengylaidd peidio â chondemnio rhai sefyllfaoedd, ac yn llawn mor anghristnogol peidio â gwneud dim i geisio newid pethau er gwell. Mae'n broblem athronyddol ac ymarferol i wleidyddiaeth geisio cyfiawnhau agwedd neu weithred o safbwynt moesol, heb gyfeirio at linyn mesur cadarn, a dyma'r gwahaniaeth rhwng moesoldebau ffydd a phlaid. Rwy'n digwydd bod yn aelod o fudiad gwleidyddol sy'n dweud "Na i'r mewnlifiad!" Ond ar ba sail y dywedwn "na", tybed? "Achos ei fod yn dinistrio'r gymdeithas Gymraeg, wrth gwrs, y bat!" daw'r ateb. Ond beth wnewch chi wedyn os bydd rhywun yn ateb i hynny, "So what?" Os na sefydlir sail foesol gyffredin i ddadl, man a man i chi beidio â dechrau. Fel cenedlaetholwr, rwy'n bendant siwr bod eisiau eglurhâd ynghylch sail foesol cenedlaetholdeb, ond dadl arall yw honno het Cristion a chyw-ddiwinydd sydd ar fy mhen ar hyn o bryd. Yn rhinwedd ei swydd broffwydol, yr angen am fod yn ymgnawdoledig yn y byd, mae'r Eglwys, fel gwasanaethyddes yr Arglwydd, yn ôl ei air, yn gorfod cymryd camau bugeiliol pendant yn y mater hwn. Mae Crist yn cyd-ddioddef â phawb sy'n dwyn ei groes, ac mae Ei Eglwys, parhad ymgnawdoliad y Gair yn ysbrydoliaeth yr Eiriolwr ac o dan arweiniad yr apostolion a'u holynwyr, yn rhannu profiadau dynion, mewn undod â hwy: "Gorfoledd a gobeithion dynion ein hoes, yn arbennig y tlodion a'r rhai sy'n dioddef, eu tristwch a'u hing, yw ar yr un pryd gorfoledd a gobaith, tristwch ac ing disgyblion Crist." (Rhif 1, Gaudium et Spes, cyfansoddiad bugeiliol Ail Gyngor y Vatican ar yr Eglwys yn y Byd Modern). Unigolyddiaeth a Phechod Canfyddir gwreiddiau athronyddol y mewnfudo yn y ffordd mae'r dyn modern yn ystyried ei hunan, sef yn bennaf fel unigolyn yn hytrach na fel aelod o deulu, cymdogaeth neu genedl. Creodd Duw ddynolryw ar ei ddelw ac mae Duw'r Drin- dod yn gymdeithas, yn wryw ac yn fenyw, y gymdeithas wreiddiol. Ysgrifenedig yn ein natur yw'r angen i fod yn rhan o'n gilydd. Temtasiwn dyn bob amser, a'i bechod gwreiddiol, yw mynnu ystyried ei hunan fel pe bai'n gwbl annibynnol ar Dduw, ac o ganlyniad ar ei gyd-ddyn a'r byd, heb gyfrifoldeb at yr un ohonynt. Mae'r duedd yn un gyson a chyfrwys. Er enghraifft, bydd Mam yn dweud, "Smof i'n gwbod dim am yr ozone layer 'na, wy'n iwso'r aerosol 'ma achos wy'n moyn câl y stâr yn lân cyn bod