Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hi'n bryd dychwelyd at gnocio drysau. Mae gwahoddiadau a gweithredoedd caredig yn sicrach o lawer o ennyn diddordeb, cydymdeimlad a dealltwriaeth na diystyru ynysig. Nid oes gennyf risêt bugeiliol gorffenedig a pherffaith. Bydd nifer o bwyntiau ymarferol i'w datrys wrth fynd ymlaen yn y genhadaeth hon-fel y digwyddodd erioed yn yr Eglwys. Digon yw meddwl am Iddewon Aramaeg a Groeg eu hieithoedd yng nghenhedlaeth gyntaf yr Eglwys. Er mor wahanol eu diwylliannau, eu ffydd yng Nghrist a sicrhaodd undeb o gwmpas yr un allor. Yn bendant, bydd yn rhaid derbyn newidiadau sylfaenol o fewn ein sefydliadau crefyddol, fel yn ein broydd. Cofiwn mai modd gras yw eglwys, nid diben ynddi'i hun. Creu'r Deyrnas yw'r nod, gan ymateb i arwyddion yr amseroedd. A hyderu yn Nuw, heb ofni dim. Trwy ein hanes, mae'r Ysbryd yn siarad wrthym. Heb amheuaeth bydd y ddadl wleidyddol a'r mewnfudo, yn parhau, a dyletswydd yr eglwysi yw sicrhau mai trafod, nid trais na llidwynebu, yw'r ffordd, ar lefel genedlaethol, leol a phersonol. Trais neu Gymod? Crybwyllaf drais, gan ei fod yn enghraifft o wrth-werthoedd moesol sydd yng nghefn- dir rhai agweddau cenedlaethwrol. Trais yw'r mewnlifiad, bid siwr, ond cofied dysgeidiaeth lesu am ddial (Math. 5:38-42). Efallai y dylid gwahaniaethu rhwng trais tuag at eiddo a phobl. Ni ellir cyfiawnhau niweidio neb-yr ydym yn aelodau o'r un teulu dynol, i gyd yn feibion Duw. Ond mewn sefyllfa eithafol, lle mae ymdrechion cyfreithlon eraill wedi methu gwella sefyllfa anghyfiawn, a lle mae sicrwydd pendant na niweidir neb, credaf y gellir cyfiawnhau dinistr eiddo a thor-gyfraith ar seiliau moesol Cristnogol. Mae sawl "os" yn y mater, serch hynny, ac mae'n dacteg eilradd. Mae fy meddwl yn agored ar hyn o bryd parthed y llosgi tai, o safbwynt moesoldeb, ond credaf o ddifri calon fod deialog a chymodi'n ffordd well o lawer i ddatrys y broblem, ac yn llawer mwy hynaws a Christnogol. Adeiladu'r Deyrnas Agwedd annerbyniol arall yw diffyg ymateb, ar ran eglwys neu unigolyn. Mae hon yn sefyllfa anhapus sy'n dwysáu anghyfiawnder economaidd a chymdeithasol, ac nid oes dewis gan Gristnogion ynglŷn ag ymuno yn y drafodaeth a'r ymateb bugeiliol. Rhoddodd Duw inni'r rhyddid a'r cyfrifoldeb i gyfran- nu at godi'r Deyrnas, ac ni allwn wrthod ei gynnig hael. Synhwyraf hefyd fod y ddelwedd o Gymru fel cenedl sanctaidd ac etholedig yn llechu yn rhywle ym mherfedd rhai agweddau gwleidyddol. Wel, sori bois, nid Israel y Cymod Cyntaf mo Walia Wen, ond rhan o'r cyfamod newydd a thragwyddol. Mae'r hyn sy'n digwydd yn ein plith ond yn rhan fechan o broses byd-eang o anghyfiawnder cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol o Brazil i Wlad Pwyl a De Affrica. Mae'n wir bod yr oll yn gysegredig, bod yr Ysbryd Glân yn nythu fel colomen yn ein coed, ond mae hynny yr un mor wir am Ealing ac Edgebaston hefyd, am fod y cyfan yn sagrafen, sef arwydd a phresenoldeb Duw. Am lawer rhy hir disgwylid i Gristnogaeth Gymreig ddwyn y baich o gynnal a chynrychioli Cymreictod. Mae diwylliant a chrefydd ynghlwm wrth ei gilydd, ymhob oes a phobman, ond mae ein ffydd yn trosgynnu ffiniau cenedl, Cwis Ysgrythurol RHODDIR CYFIEITHIAD Y BEIBL CYMRAEG NEWYDD AR ÔL YR HEN GYFIEITHIAD Pwy ddywedodd? 1. 'Da yw i mi ymddigio hyd angau!' 'Y mae'n iawn i ni deimlo'n ddig hyd angau.' 2. 'A phwy sydd yn gwybod ai oherwydd y fath amser a hwn y daethost ti i'r frenhiniaeth?' 'Pwy a wyr nad ar gyfer y fath amser a hwn y daethost i'r frenhiniaeth'. 3. paham na thristâi fy wyneb, pan fyddai y ddinas, ty beddrod fy nhadau, wedi ei ddinistrio, a'i phyrth wedi eu hysu a thân?' 'Sut y medraf beidio ag edrych yn drist pan yw'r ddinas lle y claddwyd fy nhadau yn adfeilion, a'i phyrth wedi eu hysu a thân?'. 4. 'Dos ac ymolch saith waith yn y Iorddonen; a'th gnawd a ddychwel ti a thithau a lanheir'. "Dos ac ymolchi saith waith yn yr lorddonen ac adferir dy gnawd yn holliach ti'. 5. 'Onid gwell Abana a Pharpar, afonydd Damascus, na holl ddyfroedd Israel?'. 'Onid yw Abana a Pharpar, agfonydd Damascus, yn well na holl ddyfroedd Israel?.' 6. 'Onid ti yw yr hwn sydd yn blino Israel?' 'Ai ti sydd yna, gythryblwr Israel?'. 7. 'Lloffed hefyd ymysg yr ysgubau, ac na feiwch arni'. 'Gadewch iddi loffa hyd yn oed ymysg yr ysgubau, a pheidiwch a'i dwrdio'. gwlad, lle ac amser (Heb. 13:8). Peth afiach i eglwys ac i Gristnogaeth yw cysylltiad gor-glos ag unrhyw rym gwladwriaethol, sefydliad neu gyfundrefn. Ni yw halen y ddaear: ar y ddaear, o'r ddaear, i raddau er mwyn gwasanaethu pethau'r ddaear, ond nid y ddaear ei hun. Swydd Cristnogion ymhobman yw cyhoeddi a chyd-greu'r Deyrnas, gan gynnig iachawdwriaeth, nid cario holl gyfrifoldeb uniaeth genedlaethol. Nid yw'r Efengyl yn pregethu cyfiawnder er mwyn cyfiawnder, ond cyfiawnder fel arwydd a rhagflas y cyfiawnder a gawn yng nghyflawnder y Deyrnas. Yng ngolau'r Efengyl, byddwn yn gweld yn y winllan wen, nid moch, ond defaid. Mae'r praidd yn wahanol, ond un yw'r Bugail. 8. 'Wele, fy nheulu yn dlawd yn Manasse, a minnau yn lleiaf yn nhy fy nhad.' 'Edrych, fy llwyth yw'r gwannaf yn Manasse, a minnau yw'r distadlaf o'm teulu?'. 9. 'A wyddost ti mai heddiw y mae yr Arglwydd yn dwyn dy feistr oddi arnat ti?'. 'Mi a wn hynny hefyd, tewch chwi a son' 'A wyddost ti fod yr Arglwydd am gymeryd dy feistr oddi arnat heddiw? 'Gwn yn iawn, tewch a sôn'. 10. ni fynegasid i mi hanner helaethwydd dy ddoethineb: ychwanegaist at y clod a glywais i'. ni ddywedwyd wrthyf mo'r hanner am dy ddoethineb enfawr; yr wyt yn tra rhagori ar yr hyn a glywais.' HAYDN DAVIES Atebion