Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MACROTHUMIA- Rhyfedd amynedd Duw' Drichanmlynedd yn ôl, ym Mai 1689, pasiwyd Deddf Goddefiad a ganiatodd i'r Ymneilltuwyr ryddid o ofynion rhai o'r dedd- fau hynny a oedd yn treisio'u cydwybod. Yn ymarferol, caniatáu rhyddid addoli i un garfan o Anghydffurfwyr a wnaeth y Ddeddf ac nid cynnig dinasyddiaeth lawn i bawb. Cadwyd rhai o ddeddfau mwyaf gormesol y Clarendon Code yn y deddf-Iyfr ac ni welwyd yn dda i gynnwys Pabyddion nac Undodiaid yn y Goddefiad o gwbl o dan amodau'r Ddeddf. Nid amheuai'r Llywodraeth mai ganddi hi yr oedd yr hawl i benderfynu beth ddylid ei gredu a sut y dylid addoli na chwaith ei bod yn meddu'r gallu i orfodi dinasyddion i gydymffurfio, ond dewisai atal nerth ei braich a chaniatáu rhyddid amodol i un dosbarth na chydym- ffurfiai â Deddf Gwlad. Y mae'r hyn a ddigwyddodd drichanmlynedd yn ôl yn help inni ddeall un o eiriau mawr y Testament Newydd, MACROTHUMIA, yn enwedig yn ei berth- ynas â Duw. Dengys cwestiwn Paul yn Rhufeiniaid 9.22 nad yw'n amau gallu na hawl y Crochenydd Dwyfol i wneud beth a fýn â'r "llestri hynny sy'n wrthrychau digofaint [iddo] ac [sy'n] barod i'w dinistrio" (BCN); er hynny, oherwydd ei "hir amynedd" (MACROTHUMIA), y mae wedi atal ei law rhag eu chwalu. Yng ngoleuni hyn, diffiniad Chrysostom o'r gair MACROTHUMIA yw:-yr ysbryd sy'n gwrthod dial er y gallai pe dymunai wneud hynny; tra bod William Edwards yn dweud, "Dynoda 'heb roddi ffordd i lid a dial' Hirymaros neu amynedd yw'r ffordd arferol o drosi'r gair i'r Gymraeg, ond ei ystyr lythrennol yw hir-dymer (gwrthwyneb i dymer fer), a dyma un o rinweddau mawr Duw yn ei ymwneud â dyn. Y mae Duw'n "araf i ddigio" (Ecs. 34:6; Neh. 9:17; Jona 4:2, &c., BCN) ac am nad yw'n fyr ei dymer yr oedodd yn nyddiau Noa ac arddangos amynedd (MACROTHUMIA) mawr gan roi cyfle i'r bobl edifarhau cyn iddo, o'r diwedd arddangos ei allu drwy foddi'r byd (I Pedr 3:20). Yn yr un modd, Nid yw yr Arglwydd yn oedi cyflawni ei addewid, fel y bydd rhai pobl yn deall oedi; bod yn ymarhous (MACROTHUMIA) wrthych y mae, am nad yw'n ewyllysio i neb gael ei ddinistrio, ond i bawb ddyfod i edifeirwch ac oherwydd hynny, Ystyriwch hirymaros (MACRO- THUMIA) ein Harglwydd yn iachawdwriaeth (II Pedr 3:9, 15 BCN). Gan fod MACROTHUMIA yn un o rinweddau Duw ei hun, y mae'n naturiol fod galw ar y Cristion i'w arddangos yn ei fywyd yntau hefyd. Wrth gwrs, ni all MACROTHUMIA dyn meidrol fod yn union yr un fath ag eiddo'r Duw Hollalluog nid yw ond cysgod o MACROTHUMIA Duw ei hun. Er hynny, daw i'r amlwg pan yw'r Cristion yn cadw ei dymer o dan reolaeth a pheidio â bod yn ddiamynedd, (1) yn ei ymwneud â chyd-ddyn, (2) mewn per- thynas ag amgylchiadau. (1) Y mae "goddefgarwch" yn un o ffrwythau'r Ysbryd (Gal. 5:22, BCN) ac mae bod yn "hirymarhous" yn nodwedd o gariad Cristnogol (Cor. 13:4). Y mae bod yn Gristion teilwng yn golygu bod yn "amyneddgar", gan oddef ein gilydd mewn cariad (Effes. 4:2, BCN). "Amynedd", yn wir, yw un o nodweddion etholedigion Duw (Col. 3:12, BCN) ac mae'n rhinwedd na ellir ei chyfyngu i'n hymwneud â'n cyd- Gristnogion yn unig gan fod ysgrythur yn gorchymyn: byddwch yn amyneddgar wrth bawb" (I Thes. 4:14). Y mae'n sicr fod MACROTHUMIA yn un o rinweddau neilltuol y weinidogaeth Gristnogol, gan i Paul nodi "goddef- garwch" ymhlith y pethau sy'n profi dilysrwydd gweinidog y Gair (1 Cor. 6:6, BCN). Honna'r Apostol fod yr Arglwydd wedi gorfod arddangos "ei faith amynedd" (BCN), "ei holl hir ymaros" (William Edwards), yn ei achos ef, "y penaf o bechaduriaid" (Oraclau Bywiol), a bod hyn yn batrwm (BCN) ac yn esiampl (William Edwards) o'r ffordd y mae yn ymwneud â phob dyn (I Tim. 1:16). Cred, felly, ei fod ef ei hun yn enghraifft fyw o MACROTHUMIA Duw ac ymhyfryda yn y ffaith ei fod yn cael cyfle i adlewyrchu'r un rhinwedd yn ei fywyd fel gweinidog (II Tim. 3:10). Tanlinella hefyd yr angen am "amynedd diball" wrth gyflawni un o orchwylion pwysicaf y gweinidog, sef hyff- orddi" (II Tim. 4:2, BCN). (2) Disgwylir i'r Cristion arddangos MACROTHUMIA mewn perthynas ag amgylchiadau hefyd. Nid yw Duw bob amser yn cyflawni ei addewidion ar unwaith; bu'n rhaid i Abraham ddisgwyl yn hir wrth Dduw cyn bod yr addewid i'w fendithio a'i amlhau yn cael ei gwireddu; ond, "gwedi iddo hirymaros, efe â gafodd yr addewid" (Heb. 6:15, Oraclau Bywiol). Dyma'r rhinwedd sydd ar y Cristion ei hangen tra'n disgwyl am ddyfodiad y Crist: Byddwch yn amyneddgar, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Gwelwch fel y mae'r ffermwr yn aros am gyn- nyrch gwerthfawr y ddaear, yn fawr ei amynedd amdano nes i'r ddaear dderbyn y glaw cynnar a diweddar. Byddwch chwithau hefyd yn amyn- eddgar, a'ch cadw eich hunain yn gadarn, oherwydd y mae dyfodiad yr Arglwydd wedi dyfod yn agos (Iago 5:7-9, BCN, gan ddefnyddio'r ferf MACROTHUMEIÔ). Yn ystod y cyfnod o ddisgwyl amyneddgar am ddyfodiad y Crist, mae'n bosibl y bydd galw ar y Cristion i ddioddef oherwydd ei ffydd. Yn y fath sefyllfa bydd disgwyl iddo "ddyfalbarhau a hirymaros yn llawen ym mhob dim," (Col. 1:11, BCN) ymadrodd y mae William Edwards yn ei ddehongli: ["dyfalbarhau"] "dal i fyny yn wrol," yn wyneb ymosodiadau personau; "hir-ymaros," yn wyneb pethau. Un peth sy'n sicr, pa un ai yn ei ym- wneud â chyd-ddyn, ynteu mewn per- thynas ag amgylchiadau, caiff y Cristion ddigon o gyfle i adlewyrchu MACRO- THUMIA ei Waredwr-y goddefgarwch hwnnw a glodforodd Morgan Rhys, Llan- fynydd, pan ganodd: Dewch, hen ac ieuanc, dewch, At lesu, mae'n llawn bryd; Rhyfedd amynedd Duw Ddisgwyliodd wrthym cyd: Aeth yn brynhawn, mae yn hwyrhau; Mae drws trugaredd heb ei gau. Dewch, bechaduriaid mawr, Y duaf yn y byd, Trugaredd sydd gan Dduw I chwi, er oedi cyd; Ni chofia ef eich mynych fai, Gall gwaed y Groes eich llwyr lanhau D. Hugh Matthews CYFFES FFYDD 1689 "Fel maniffesto y mae'n fynegiad rhagorol: yn glir, rhesymol, a phendant. Fel proffes o'r hyn a gredwn fel enwad, neu leiaf yr hyn a ddylem ei gredu, y mae'r un mor werthfawr i Fedyddwyr yr oes hon ag ydoedd i'w rhagflaenwyr yn oes y Chwyldro Ffrengig" Dr. Glanmor Williams. Fel y cyhoeddwyd gennym eisoes fe gyst £ 1 y copi ynghyd â chludiad y post (i'w dalu ar ôl derbyn y copi). Os bydd eglwysi neu gymanfaoedd yn archebu deg copi neu fwy ar gyfer cylchoedd trafod, ac ati, ni chodir pris y post! Croesewir eich archebion gan y Parchg. Athro D. Hugh Matthews, Coleg y Bedyddwyr, 54 Ffordd Richmond, Caerdydd CF2 3UR. I