Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DIWINYDDIAETH Y CREU ERYL WYNN DAVIES Fel y gwyddom, fe geir yn llyfr Genesis nid un ond dau fersiwn o'r modd y creodd Duw y byd, a chytunir yn gyffredinol bod yr hanesion hyn yn Gen. 1-2 yn cynrychioli ffrwyth myfyrdod dau awdur gwahanol a berthyn i ddau gyfnod gwahanol. Bu llawer o drafod ar yr hanesion hyn dros y blynyddoedd ymhlith diwinyddion Beiblaidd, a bu tuedd anffodus i'r penodau hyn gael eu diystyru am nad oeddent yn cyfateb i'r hyn a ddywed ein gwyddonwyr am darddiad, natur a thwf y bydysawd. Y meddwl gwyddonol, meddir, sydd bellach yn penderfynu ein golygwedd ar y byd, ac y mae gwyddoniaeth wedi ehangu ein gorwelion i'r fath raddau nes alltudio'r hen ddarlun Beiblaidd o'r cread y tu hwnt i ffiniau'r credadwy. Ond y ffaith yw ein bod yn gwneud cam dybryd â'r hanesion hyn yn llyfr Genesis os ydym yn eu dehongli'n rhy lythrennol. Ni fwriadwyd erioed i'r storïau a gynhwysir yn Gen. 1-2 fod yn ddisgrifiad manwl, ffeithiol, gwrthrychol o'r modd y daeth y byd i fod, ac ni cheisiodd yr awduron a'u lluniodd ateb cwestiynau megis "sut" a "phryd" y datblygodd bywyd ar y ddaear. Eu bwriad, yn hytrach, oedd cyflwyno gwirioneddau pwysig am berthynas Duw â'r byd ac â'r ddynoliaeth, a mynegi, mewn dull syml ond hynod effeithiol, ymwybyddiaeth dyn o'i wendid a'i feidroldeb. Gan hynny, camgymeriad dybryd bu gosod y crefyddwyr a'r gwyddonwyr mewn gwersylloedd ar wahân, y naill yn herio gwirionedd y llall, oherwydd y ffaith yw nad oes anghysondeb o gwbl rhyngddynt; y mae'r ddau, fel ei gilydd, yn gywir, ond y mae eu cywirdeb yn dibynnu'n hollol ar y math o gwestiynau a ofynnir. Os wyf am wybod sut y daeth y byd i fod, yna rhaid troi at y gwyddonwyr am eglurhad. Ond os wyf am wybod beth yw fy mherthynas i â'r byd creëdig, gellir troi at lyfr Genesis am ateb boddhaol. A dyma, wrth gwrs, a wna'r hanesion Beiblaidd ynberthnasol ac yn ystyrlon i'n cyfnod ni. Wedi'r cyfan, gall dirnadaeth dyn o'r modd y daeth y byd i fod newid o genhedlaeth i genhedlaeth, ond ni raid i hynny effeithio dim ar werth yr hanesion am y creu yn Genesis, oherwydd y mae'r gwirionedd a gynhwysir ynddynt am Dduw ac am ddyn mor berthnasol heddiw ag y bu erioed. Y Ddysgeidiaeth am Dduw Dechreua'r Beibl gyda'r gred ddiysgog mewn un Duw sy'n greawdwr popeth: "Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a'r ddaear" (Gen. 1:1). Canlyniad anochel y gred mai Duw a greodd y byd yw fod popeth creëdig yn dibynnu'n llwyr arno ef, ac mai trwyddo ef y mae'r byd a phopeth sydd ynddo'n bodoli. Yn awr, fe allai hyn yn hawdd iawn fod wedi arwain yr Iddew i feddwl am Dduw fel rhan o'r cread neu i synied amdano fel bod a oedd yn un â'r cread. Ond yr oedd diwinyddion Israel yn ofalus iawn i bwysleisio nad oedd Duw i'w uniaethu â byd natur. Saif y creawdwr uwchlaw ei greadigaeth ac yn annibynnol arni. Yn hyn, wrth gwrs, yr oedd Duw Israel yn wahanol iawn i dduwiau'r gwledydd paganaidd, a gorfforid gan ddynion mewn delwau gweledig. Pethau "sefydlog nadd", chwedl Gwenallt, oedd y duwiau hyn ffenomenâu gwrthrychol a oedd yn perthyn i'r byd o'u cwmpas ac yn rhan annatod ohono. Ond nid felly y syniai'r Iddew am ei Dduw; bod personol oedd ei Dduw ef, ac nid oedd diben ei geisio ym myd y statig a'r gwrthrychol. Y mae'r ffaith nad yw Duw i'w ganfod ymhlith gwrthrychau gweledig y byd yn ein harwain at wirionedd pwysig arall amdano, sef nad Duw llonydd mo Duw Israel. "Nid yw ceidwad Israel yn cysgu nac yn huno" meddai'r Salmydd (Salm 121:4), a mynegwyd syniad tebyg gan Iesu, pan ddywedodd, "Y mae fy Nhad yn dal i weithio hyd y foment hon" (Ioan 5:17). Hynny yw, fe ddysg y Beibl inni fod Duw'r creawdwr yn un sy'n ymyrryd yn gyson yn ei greadigaeth. Nid creu'r byd ac yna gadael llonydd iddo redeg ei gwrs a chymryd ei siawns a wnaeth Duw; i'r gwrthwyneb, y mae'r sawl a greodd y byd yn parhau i'w gynnal "â'i air nerthol" (Heb. 1:3). Gan hynny, efallai nad yw'n gwbl briodol sôn am weithred o greu, ac mai gwell fyddai sôn am broses o greu, oherwydd cawn ein harwain yn y Beibl nid yn unig at Dduw sydd wedi creu "yn y dechreuad" ond at Dduw sy'n parhau i greu a chynnal y byd yn y presennol. Y Ddysgeidiaeth am Ddyn Y mae'r ddau adroddiad am y creu yn llyfr Genesis yn gytûn mai dyn yw uchafbwynt gweithgarwch creadigol Duw. Mynegir hyn yn yr ail hanes trwy ddweud i Dduw anadlu "anadl einioes" yn ei ffroenau (Gen. 2:7). Yn yr hanes cyntaf, mynegir arbenigrwydd ac arwahanrwydd dyn trwy ddatgan iddo gael ei lunio ar ddelw Duw: "Gwnawn ddyn ar ein delw ni, yn ôl ein llun ni" (Gen. 1:26). Fe berthyn i ddyn urddas a gwerth arbennig am fod delw'r Duw anweledig arno. Wrth gwrs, dyma reswm arall pam nad oedd angen delw gerfiedig o Dduw Israel: fe welir ei ddelw ef ar bob unigolyn a greodd. Golyga hyn fod dyn yn wahanol i bob sylwedd neu hanfod yn y byd gwrthrychol; y mae i'w fodolaeth ansawdd arbennig a'i gesyd ar wahân i'r greadigaeth o'i gwmpas. Mynegodd awdur y Bedwaredd Efengyl yr un gwirionedd trwy ddweud fod dyn "yn y byd" ond nad oedd "o'r byd" (Ioan 17:15-16); hynny yw, fe saif dyn ymhlith gwrthrychau natur ond eto nid yw i'w uniaethu â hwy. Arwydd pellach o'r urddas a'r fraint a roddwyd i ddyn yw mai ef yn unig o'r holl greaduriaid a gyferchir yn union- gyrchol gan Dduw (Gen. l:28ff.; 2:16ff.). Hynny yw, fe roddwyd i ddyn y gallu i glywed Duw'n llefaru wrtho, a'r gallu i benderfynu a yw am ufuddhau i'w alwad neu ei hanwy- byddu. Mewn gair, fe grewyd dyn yn fod rhydd a chyfrifol, ac fe ddengys hyn ei safle unigryw a breintiedig yn nhrefn rhagluniaethol Duw. Eto'i gyd, ni ddylai'r urddas a roddwyd arno ennyn ynddo falchder gau, oherwydd fe bwysleisir mai perthyn i'r byd creëdig y mae, wedi'r cyfan; fe'i crewyd o lwch y tir (Gen. 2:7), ac ar ddiwedd ei rawd yn y byd, i'r llwch y dychwel (Gen. 3:19). Nid gwiw i ddyn, felly, honni ei fod yn gydradd â Duw, oherwydd er iddo gael yr hawl i arglwydd- iaethu ar y cread, fe'i atgoffir mai meistr bach ydyw yn gweithredu dan feistr mwy. Erys llawer o gwestiynau ynglyn â hanesion y creu nad oes gofod i'w trin a'u trafod yma, megis sut a phryd y datblygodd athrawiaeth y creu yn Israel, a phrun ai o ddim y creodd Duw y byd ynteu o'r tryblith cyntefig, di-ffurf, di-lun. Digon yma, fodd bynnag, yw nodi bod yn yr hanesion hyn wirioneddau pwysig am Dduw ac am ddyn sy'n rhychwantu amser a lle, a sydd, gan hynny, yn berthnasol i Gristnogion ymhob oes a gwlad.