Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gŵyl Teulu Duw 2 Golygyddol 3 Cerdd: I Mikhail Gorbachev 3 Morgan D. Jones Dyfodol Darlledu Crefyddol 4 Meurwyn Williams Tŷ Olwen: Gair o Werthfawrogiad 5 Wilfred H. Price Ymddiwinydda 7 Siôn Aled Cerdd: Y Gorchfygwr Mawr 8 John Lloyd Gweinidogaeth Bro 9 Martin Evans-Jones C.S. Lewis a Chredo'r Cristion 11 Alun Page C.S. Lewis: Y Llythyrwr 12 Tim Saunders Un Gannwyll 14 Ifan Davies I Offeren Ddwyfol 15 Cledwyn Jones Yr Eglwysi a Phroblem yr laith 17 Morgan D. Jones I Llythyrau Cydymdeimlad 18 J. Edward Williams Ysbrydoliaeth ac Awdurdod 19 Dafydd Jenkins I Cerdd: Yn ôl i Bendref 21 Alun Idris Gair o'r Gair 22 D. Hugh Matthews Y Gornel Weddi 23 Cylchgrawn dau-fisol yw 'Cristion' a gyhoeddir gan Fwrdd Cyhoeddi ar ran yr eglwysi canlynol: Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Yr Eglwys Fethodistaidd, Yr Eglwys yng Nghymru, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Golygydd: E. ap Nefydd Roberts, Y Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth SY23 2LT. Ffôn: 0970-624574 neu 828745. Ysgrifau, llythyrau, llyfrau i'w hadolygu i'r cyfeiriad hwn. Cynllunydd: Marian Delyth. Trysorydd: John Williams, Saunton, Maesdu Ave., Llandudno. Cadeirydd y Pwyllgor Rheoll: Maxwell Evans Ysgrifennydd y Pwyllgor: W.H. Pritchard. Argraffwyr: Gwasg John Penry, 11 Heol Sant Helen, Abertawe. "Dodi Adnabod ein Gilydd" GŴYL TEULU DUW 1990 Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i wahodd eglwysi Cymru gyfan i ddechrau paratoi at yr ŵyl arbennig uchod. DYDDIAD. Nodwch y dyddiad, 26 Mai 1990, yng nghalendr eich eglwys nawr er mwyn i chi drefnu mewn pryd i'ch egiwys ddod fel UN TEULU i'r yn Llanelwedd ym 1990. THEMA. Thema'r wyl fydd "Dod i adnabod ein gilydd" Beth am ddefnyddio'r thema i weithgareddau'ch eglwys yn ystod misoedd Ebrill a Mai-i'r gwasanaeth plant, gweithgarwch ieuenctid, maes trafod eich seiadau, a gwasanaethau'r Sul wrth 'Dim diolch rydy-ni'n cynnal ein cyfres ein hunain!' gwrs. Bydd taflen yn nodi'r deunydd a fydd ar gael i'ch cynorthwyo yn cael ei dosbarthu ddechrau'r flwyddyn. — GWEITHGARWCH Y DYDD. Bydd amrywiaeth mawr o weithgareddau ac arddangosfeydd i bob oedran yn ystod yr ŵyl o 10.30 y bore tan 5 y prynhawn gydag oedfa i bawb i gloi'r cyfan cyn troi am adre. RHAGLEN Y DYDD. Bydd mynediad i oedolion drwy lyfryn (£1.50) a fydd yn cynnwys manylion am yr holl weithgareddau a threfn y gwasanaethau. Y tâl i blant ysgol fydd 50c. a rhaglen wedi ei chynllunio a'i chynhyrchu'n arbennig iddynt hwy. Bydd rhain ar werth ddechrau Mawrth er mwyn arbed i chi fod yn y ciw gyda miloedd eraill yn Llanelwedd. (Bydd y pris mynediad yn cynnwys parcio). CEFNOGAETH ARIANNOL. Am- cangyfrifir y bydd holl gostau'r ŵyl tua £ 25,000 a gwahoddir eglwysi i ystyried neilltuo casgliad rhydd un oedfa neu un Sul tuag at y costau hyn. Neu os yw'n haws gennych werthu na chasglu, beth am archebu 100 o feiros Gŵyl Teulu Duw am 25c yr un-dyna £25 yn syth i'r gronfa. Anfoner unrhyw gyfraniad neu gais am feiros ataf i yn y cyfeiriad isod. Dechreuwch drefnu nawr ac fe edrychwn ymlaen at eich gweld yn Llanelwedd ar 26 Mai. Cofiwch ddod. Gŵyl Teulu Duw, 21 Heol Sant Helen, Abertawe SA 4AP Alun Creunant Davies (Cadeirydd)