Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn sicr ddigon fe welsom dro rhyfeddol ar fyd yn ystod y misoedd diwethaf yng ngwledydd Dwyrain Ewrop, fel yr aeth perestroika rhagddo ac y gwelwyd y naill wlad ar ôl y llall yn diosg yr hen Gomiwn- yddiaeth galed, yn diorseddu'r naill unben gormesol ar ôl y IIall, yn dymchwel y gwahanfur rhwng Gorllewin a Dwyrain ac yn cyfrannu at greu byd diogelach. Dyma'r peth agosaf i wyrth a welwyd ar Iwyfan gwleidyddiaeth ryngwladol o fewn cof. Mewn cyfweliad ar y radio yn ystod dyddiau cyntaf y flwyddyn newydd, mentrodd gweinidog Lutheraidd o Ddwyrain yr Almaen ddehongli'r chwyldro fel gwaith Duw. Dywedodd fod Cristnogion Dwyrain Ewrop wedi ceisio cynnal y dystiolaeth Gristnogol yn wyneb gwrthwynebiad, rhwystrau o bob math ac erledigaeth ffiaidd yn aml, am dros chwarter canrif. Ond daliwyd ati er gwaetha'r rhwystrau gyd, am eu bod yn credu bod Duw yn Arglwydd hanes a'i fod, trwy'r cyfan, yn gweithio allan ei gynllun tragwyddol. ASTUDIAETHAU Tro ar Fyd yw thema'r astudiaethau a baratowyd gan y Broses Ryng-Eglwysig i'w dilyn yn ystod pump wythnos y Garawys mewn grwpiau mewn capeli ac eglwysi, neu ar y cyd. Eu hamcan yw ein paratoi i gymryd cam pellach yn ein perthynas â'n gilydd fel Cristnogion i'n galluogi i ymgymeryd â'n cenhadaeth gyda'n gilydd. Y maent hefyd yn baratoad ar gyfer Gŵyl Teulu Duw a gynhelir yn Llanelwedd ym mis Mai, ac ar gyfer sefydlu Cytûn, y cyfrwng cyd-eglwysig newydd sydd i gymryd IIe Cyngor Eglwysi Cymru ym mis Medi. Ond y mae byd o wahaniaeth, meddech chi, rhwng chwyldro gwleidyddol yn sgubo ar draws Ewrop a grwpiau bach sydêt yng Nghymru yn trafod pecyn o astudiaethau. Onid gormodiaith chwerthinllyd ydi sôn yn yr un gwynt am ddau beth mor wahanol fel "tro ar fyd"? Faint o chwyldro sy'n debyg o ddigwydd yn y Gymru sydd ohoni o ganlyniad i gyfres o gyfarfodydd digon diniwed mewn festri capel? Mae hynny, wrth gwrs, yn dibynnu ar nifer o ffactorau. I ba raddau y byddwn yn cymryd y cyfle hwn o ddifri? Ac o gymryd y thema o ddifri, i ba raddau y byddwn yn barod weithio allan ei gofynion ac i weithredu arnynt? CYFRYNGAU NEWID Man cychwyn y thema yw'r argyhoeddiad fod Duw ar waith yn barhaus yn ei fyd, yn arwain, yn achub, yn newid ac yn troi'r byd wyneb i waered. Yn codi o hynny y mae'r argyhoeddiad ei fod yn galw ar ei eglwys a'i bobl i fod yn gyfryngau'r newid creadigol hwn, oherwydd ystyr dilyn Crist yw cael ein newid ganddo ac ymdaflu i'r dasg o ddwyn tro ar fyd. Dyna'n union a welsom yn digwydd yn Nhwyrain Ewrop, ac y mae arwyddion ei fod yn dechrau digwydd yn Ne Affrica yn ogystal. A'r hyn sy'n arwyddocáol yw fod Cristnogion wedi chwarae rhan mor flaenllaw ac allweddol yn y newidiadau hyn Lutheriaid yn Nwyrain yr Almaen, Catholigion yng Ngwlad Pwyl, Uniongred a Diwygiedig yn Rwmania, a'r eglwysi gyda'i gilydd drwy'r Cyngor Eglwysi cenedlaethol yn Ne Affrica. Ac yn amlach na pheidio, cyfraniad Cristnogion oedd cadw fflam gobaith yn fyw. Am flynyddoedd lawer, cyn bod unrhyw awgrym o newid yn yr hinsawdd gwleidyddol yn y gwledydd Comiwnyddol, bu'r eglwysi'n fannau cyfarfod bobl ddod at ei gilydd i ddadan- soddi a deall eu sefyllfa, i geisio dehongli galwad Duw arnynt yn y sefyllfa honno, ac yna gweithredu yn ôl y gofyn a'r cyfle. Ymhell cyn gweld unrhyw newid allanol, bu tro ar fyd ym meddyliau a chalonnau pobl ac yn eu hagwedd at ei gilydd a'u hamgylchiadau. GRYM Y GRWP I addasu hyn oll at ein sefyllfa ni, dylem ddysgu oddi wrthynt y potensial creadigol ysbrydol sydd mewn grwpiau bychain o bobl sy'n mynd ati o ddifri i ofyn beth yw her Duw i ni yng Nghymru ar hyn o bryd? Y mae'r astudiaethau Tro arFydyn pwyso arnom i ofyn hyn mewn perthynas â'n hymrwymiad ecwmenaidd, ein tasg genhadol a dyfodol y genedl. Arwyddocâd sefydlu Cytûn yw symud y pwyslais oddi wrth gynlluniau i uno'r enwadau ac gydweithredu fel enwadau'n genedlaethol, (er y bydd yr agweddau hyn ar y gwaith yn parhau), ac i roi'r pwys ar yr angen adnabod ein gilydd ac i ddyfnhau ein perthynas yn lleol. Ac y mae angen tro ar fyd ar y lefel leol, yn ein hagwedd at eglwysi ac enwadau eraill a'n perthynas â hwy. Yn yr un modd, y mae ystyried ein cenhadaeth o ddifri, nid fel testun trafod, pwyllgora a chynadledda di-baid, ond fel tasg i'w chyflawni yn ein cymdogaethau'n hunain a thrwy ein heglwysi lleol, eto'n golygu "tro ar fyd" yn ein hagwedd. "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, heb gymryd eich troi E. ap. N.R. I MIKHAIL GORBACHEV Daethost fri ym mlodau llawn dy ddyddiau, Yn fwyn dy osgo ac yn deg dy wên, Nes peri inni amau dy ddidwylledd Wrth gofio dichell dy flaenoriaid hen. Fe ddysgaist inni ystyr "perestroika" A'r "glasnost" bondigrybwyll yr un pryd, Ac wrth dy weld yn dymchwel hen ragfuriau Aethost yn wir yn ben anwylyn byd. Tybed a welaist ti ar wedd dy bobol Olion y gwacter yn eu bywyd gwyw? A glywaist hefyd gân y rhai a fynnai Warchod y fflam ar hen allorau Duw? Rhyfedd dy weled ar dy dro yn Rhufain Tydi'r 'anffyddiwr' gyda "Thad y Ffydd", Yntau yn dal yn gaeth hen gredoau A thithau o'u crafangau'n torri'n rhydd. Odid nad ydym ninnau yn ein dellni Wrth amau weithiau ddoeth ragluniaeth nef, Heddiw yn dystion byw benarglwyddiaeth Yr Hwn a'th wnaeth yn un o'i weision Ef. Maesteg Morgan D. Jones