Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bu farw priod y Parchg. Wilfred Price yn Nhy Olwen, Hospis ger Ysbyty Treforys. Yn yr ysgrif hon y mae'n trafod yr angen am fwy o ganolfannau tebyg a'r broblem fawr o weinidogaethu i'r rhai sy'n marw Bellach fe fydd y freuddwyd o gael ysbyty newydd sbon yn nhref Llanelli wedi ei sylweddoli ac adeilad braf i'w weld ar y gorwel nepell o bentref nid anenwog Dafen ar gyrrion y dref. Teimlai rhai, am resymau digonol, y dylid cael Hospis, (nid oes yna air cyfleus arall), i drin cleifion yn dioddef yn bennaf o'r cancr term sy'n ennyn ymateb emosiynol ym meddyliau'r mwyafrif. Ffurfiwyd pwyllgor yn cynnwys rhai arbenigwyr, yn feddygon a lleygwyr o wahanol gylchoedd i weithredu arno, i wyntyllu'r posibiliadau o adeiladu yn y dyfodol Ie addas yn cynnwys tua deuddeg o welyau. 'Roedd Tỳ Olwen sydd ar gampws Ysbyty Treforys eisoes yn batrwm delfrydol i'w ystyried a chofir am hir amser haelioni ac eangfrydigedd y diweddar Mrs. Olwen Morgan, priod Mr. J.T. Morgan, Abertawe, a fu'n gymaint ysgogiad i'r fenter ac a fu farw yno beth amser yn ôl. PROFIAD PERSONOL O wybod imi gael profiad personol o weld fy mhriod yn gadael cartre am y tro olaf i dreulio tair wythnos yn Nhy Olwen cyn iddi farw, awgrymodd un neu ddau y dylwn ysgrifennu'n fyr i fynegi fy nheimladau ar y pwnc yn y papur lleol, y Llanelli Star. Awgrymwyd y byddai hynny'n ddoeth cyn i'r arbenigwyr yn y maes hollbwysig hwn drafod y mater ymhellach a delio â rhai o'r anawsterau anochel sydd yn rhwym o godi wrth ystyried cynllun o'r fath. Cydsyniais, er yn ochelgar ddigon, a mentraf roi cyfle i ddarllenwyr y cylchgrawn hwn i gyfranogi o'r saga fer a chyffrous y bu'n rhaid imi ei dioddef. Profiad trawmatig oedd ymateb i dded- fryd derfynol un o'r meddygon yn Ysbyty Treforys a sylweddoli, heb ddeall yr oblygiadau ar unwaith, fod gweddill dyddiau fy mhriod eisoes wedi eu rhifo. Bu'r cancr yn ddidrugaredd yn ei effeithiau dinistriol. Cyn hynny bûm yn rhan o'r weinidogaeth amser-llawn ac yn euog (os dyna'r gair iawn) o'r conspiracy of silence y soniai rhyw gaplan ysbyty amdano yn un o'i lyfrau defnyddiol. Disgwylid inni, fel gweinidogion, i ymdawelu'n llwyr rhag TY OLWEN -GAIR 0 WERTHFAWROGIAD WILFRED H. PRICE "Profiad trawmatig oedd ymateb i ddedfryd der- fynol un o'r meddygon fod gweddill dyddiau fy mhriod wedi eu rhifo". datgelu i'r claf ei fod yn marw a dwyn anesmwythder i'w feddwl. Ni wawriodd ar neb fod yna ffordd arall, na'r posibilrwydd chwaith fod y truan gorweddog eisoes wedi synhwyro'i gyflwr, ond yn dymuno bod yn dawedog, er fod ei gyflwr yn dirywio'n feunyddiol! Byddai'r ymweliadau cyson yn troi yn straen, y gor-ymdrech i greu argraff ffafriol yn ffuantus a rhyw anniddigrwydd yn dod yn ei sgîl, er ceisio'n galed i'w ymlid i ffwrdd. Ar y llaw arall, ofer awgrymu dull dogmatig, diwyro yn ein hymwneud â'r broblem hon oherwydd fod pob achos unigol yn galw am ymateb sy'n gweddu i'r amgylchiadau. Pwy tybed sydd â'r ddoethineb angenrheidiol i gwrdd â phob achlysur a phob sefyllfa? Cofiaf ddarllen i'r gwleidydd Miss Jennie Lee benderfynu peidio â datgelu'r ddedfryd annerbyniol i'w phriod, Aneirin Bevan, a bu yntau farw yn ei gwsg yn ddiar- wybod o'r gwir. Nid felly'r Sosialydd disglair â'i feddwl byw, Dick Crossman. Yr oedd ef yn rhoi sgwrs ar un o raglenni Radio'r B.B.C. ac yn gwybod ymlaen llaw mai honno fyddai'r darllediad olaf o'i eiddo. TIR ANGHYFARWYDD Yn ein hachos ni, bum yn ffodus oherwydd teimlai fy mhriod, ar ôl derbyn triniaeth lawfeddygol drom ar y galon yng Nghaer- dydd yn 1975 i ffitio falf newydd, iddi gael