Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Fe'm hargyhoeddwyd fod angen math arbennig o seicoleg i drin cleifion â'r diwedd yn agos". bonws o un mlynedd ar ddeg. Rhaid felly oedd 'prynu'r amser' yn feunyddiol ar ôl i'r gwirionedd wawrio arni fod gwellhad yn amhosibl. O reidrwydd daeth dimensiwn newydd i berthynas glos. Afraid oedd edrych ymlaen i'r dyfodol a digon oedd ystyried un dydd ar y tro. Ar brydiau, er mawr syndod imi, cawsom ryw fath o lawenydd, er ein bod yn ymylu ar dir braidd yn anghyfarwydd. Wrth reswm, oherwydd sensitifrwydd ein teimladau, byddai bron yn amhosibl trafod yn benagored y misoedd tyngedfennol olaf. Deallodd ein ffrindiau a chymdogion, o synhwyro realiti'r sefyllfa, y byddai gormod o fân siarad yn dreth i'm priod, er nad oedd yn hawdd i rywrai gadw draw er mwyn iddi gael ymlonyddu yn ôl ei dymuniad. Dyna'r argraffiadau sy'n aros yn ddiollwng yn fy meddwl cyn iddi fynd i Dy Olwen. Arferir sôn yn haniaethol am broblem poen a dioddefaint a phrin yw'r cyfarpar meddyliol a roddwyd inni i fedru goleuo'r rhai sydd mewn dryswch llwyr. Pwy sydd yn ddigonol i'r dasg? Onid mudandod llwyr yw ymateb cymaint ohonom sydd yn ddigon huawdl a thafotrydd ar adegau eraill? Dro ar ôl tro daw'r cwestiwn: "Pam y digwyddodd hyn i'n teulu ni a'r diodd- efydd yn gymeriad mor hoffus a mor ifanc?" Gadawaf i J.S. Whale ddweud gair, ond nid yw'n air terfynol ehwaith, The problem of pain and suffering is intellectually insoluble! Er imi fethu â throedio ymhell ar dir rheswm oer, eto dysg yr efengyl inni'r ffordd i'w hwynebu os nad ei gorchfygu. Y gwir plaen oedd fy mod yn nyddiau fy ngweinidogaeth yn gwbl ddiymadferth rywsut a diarweiniad i'r teuluoedd fu'n gweini ar anwyliaid ac yn eiddgar am gysur. Golyga hynny rhywbeth amgenach na swcro, sef cefnogaeth a chryfder a dycnwch i ddal ati, doed a ddelo. Fel gweinidogion ieuainc, fe'n taflwyd yn sobor o ddibrofiad i ddyfroedd dyfnion, yn brentisiaid digon brwdfrydig, ond yn y niwl; yn dymuno cynorthwyo o waelod calon, ond o fethu yn teimlo rhwystredigaeth enbyd yn ddiweddarach. Dyna fu profiad y mwyafrif o weinidogion enwad yr Annibynwyr mewn Ysgol Haf yn Neuadd Pantycelyn mis Gorffennaf diwethaf pryd y trafodwyd y thema hon yng nghwmni Dr. Rosina Davies, Tŷ Olwen, un sydd eisoes wedi goleuo cymaint o gymdeithasau led-led y De, heb anghofio iddi ymddangos fwy nag unwaith ar deledu yn ogystal. Fe'm hargyhoeddwyd fod angen math arbennig o seicoleg i drin cleifion â'r diwedd yn agos, heb anghofio bod holl adnoddau'r teulu, eu gofal a'u hempathi, yn gefnogaeth barod i'r holl staff sydd wrthi'n gweini. Tasg anodd yw honno, a esgeuluswyd cyhyd, o arwain dioddefwyr yn raddol ond sicr i ystyried eu cyflwr truenus mewn goleuni newydd. Llithrent yn esmwyth a di-ofn i fyd arall a ninnau'r ymwelwyr yn dal i synnu a rhyfeddu. Nid oes syndod felly i'r Parchg. W.R. Nicholas, y bardd a'r emynydd, fynegi'n gynnil ei deyrnged i'r meddyg ymroddedig o Flaendulais: I sâl, ei gofal a'i gwên yn wastad A ddwg ystyr amgen; Daw her i'r gofidiau hen, A daw haul i Dý Olwen. TANGNEFEDD YN DISODLI OFN I rywrai sy'n byw yn Nyfed, yr unig ffordd i'm priod, er enghraifft, gael derbyniad i Dy Olwen oedd dychwelyd i'r ward geinicolegol wreiddiol y bu ynddi yn Ysbyty Treforys yn derbyn triniaeth law- feddygol tua deunaw mis cyn hynny ac yna ei throsglwyddo mewn deuddydd i esmwythder ac awyrgylch digymar yr Hospis. Enillodd hon enwogrwydd eisoes drwy Dde Cymru am ei safonau uchel, a thystiaf yn bersonol nad yw oes y gwyrthiau ar ben o weld tangnefedd mewnol yn raddol ddisodli'r ofn a'r pryder sydd i'w disgwyl wrth i'r newydd-ddyfodiaid gael croeso. Trwy gyffuriau neilltuol bu lleddfu cyflym ar boen, a bendith ddifesur yw hynny, ar wahân i ddim arall. Y mae gan y Dr. Leslie Griffiths, y pennaeth a'i staff, ddirnadaeth ddofn o anghenion y cleifion a beth bynnag sydd ei eisiau arnynt fe'i diwellir ar unwaith am fod y gweini, o reidrwydd, o natur wahanol i'r hyn a geir mewn ward brysur unrhyw ysbyty arall. Nid yr un yw'r agwedd at amser chwaith, ac nid yw'r cloc yn arglwyddiaethu ar neb am fod rhywun wrth law yn barhaus i wrando'n amyneddgar ar gyffes a chais pob dioddefydd yn unigol. Wrth ymweld yn achlysurol bellach ag Ysbyty Treforys, bydd fy lygaid yn crwydro'n ddi-feth i gyfeiriad Tŷ Olwen a diolchaf i Dduw o waelod calon i'm priod gael cyfle i fynd yno yn ôl ei dymuniad ac i'r wythnosau olaf o'i phererindod ddaearol fod mor hapus a thangnefeddus. Gwyddom am wroldeb, teyrngarwch a chariad eneidiau dethol a gyfoethogodd ein bywydau, a daw ambell don o gywilydd iachus i'n haflonyddu wrth gofio'n hiraethus amdanynt. Dylid cydnabod, er hynny, y geill fod yna flaenoriaethau eraill sydd yn haeddu sylw nifer o bobl ddigon cydwybodol a diffuant. Yn wir, rhaid canmol a gwerthfawrogi ymdrechion y rhai hyn dros achosion dyngarol a chlodwiw. Ar yr un pryd, rhaid pwysleisio yr esgeuluswyd yr achos a fu'n thema i'r ysgrif hon. Y mae'r canolfannau a neilltuwyd i ofalu mor unigryw am y cleifion terminal hyn yn rhyfeddol o brin yng Nghymru. Profiad personol fu'n gyffro cychwynnol i'r apêl daer hon am weld rhagor o sefydliadau tebyg i Dy Olwen yn dod yn ffaith, nid yn unig yn Llanelli, ond trwy Gymru gyfan. Yr ateb delfrydol wrth gwrs fyddai gweld hyn yn rhan o bolisi unrhyw blaid mewn llywodraeth ac yn rhan anhepgor o'r Wladwriaeth Les ar ei gorau. Ymholiadau neu gyfraniadau ariannol at Ymgyrch Hospis Dynefwr/Llanelli i Mrs. Rhiannon Jenhins, 4 Erw Las, Llannon, Uanelli, Dyfed. CASETIAU NEWYDD SAIN Dewch i Ganu gyda "Plant Ysgol Pendalar", SAIN C424, £ 5.99. Ysgol blant arbennig yw Ysgol Pen- dalar, ac y mae hwn yn gaset arbennig sy'n Nadoligaidd iawn ei naws. Mae hapusrwydd a mwynhâd y plant wrth ganu a chwarae amrywiaeth mawr o offerynnau cerdd i'w gilydd yn glir. Mae tonyddiaeth glir yr unawdwyr, yn enwedig ar "Nadolig sy'n Newid" a "Bendithia Di" yn werth eu clywed. Fe hyfforddwyd y plant gan Alma Davies, gyda chymorth Nesta Jones ac Enid Roberts, gyfeilliant piano Janice Jones. Cymanfa'r Dathlu o Gapel Tegid y Bala, C406, £ 5.99. Cymanfa'r Dathlu o'r Tabernacl, Treforys, C645, £ 5.99. Ar Chwefror 12fed, 1989 recordiwyd y ddwy Gymanfa yma fel rhan o'r dathliadau nodi deugeinfed penblwydd darlledu "Caniadaeth y Cysegr" ar Radio'r BBC. Darlledwyd hefyd i nodi dengmlwyddiant cyntaf Radio Cymru. Yn Nhreforys daeth 1500 o bobl ynghyd o dan arweiniad Alun John. Cafwyd canu gwefreiddiol. Yn y Bala bu'r gynulleidfa o dan arweiniad Alun Guy. Cyflwynir y emynau gan R. Alun Evans.