Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr erthygl gyntaf mewn cyfres ar ddiwinydda yn y Gymru gyfoes: YMDDIWINYDDA Pa ddarlun sy'n dod i'ch meddwl pan fydd rhywun yn sôn am "ddiwinydda"? Fe fentrwn faentumio fod y gair i lawer ohonoch (gan fy nghynnwys innau) yn cyfleu golygfa o academydd mewn llyfrgell yn pori drwy hen gyfrolau sydd â'u cynnwys mor drwm â'u cloriau, neu, os ydym o feddylfryd tipyn yn fwy cymdeithasol, fe welwn gasgliad o gyw- gweinidogion a darlithwyr yn ymgodymu â rhyw athrawiaeth astrus mewn ystafell seminar. Ni fyddai y darluniau hynny yn anghywir, wrth gwrs, ac ni fynnwn innau, beth bynnag, weld y diwinydd academ- aidd yn diflannu o'r tir, ond y gwir ydi, pe diffiniem ni ddiwinydda yn unig mewn termau felly, byddem yn gorfod anwybyddu'r hyn a olyga llawer iawn o Gristnogion ar draws y byd pan fyddant hwy'n sôn am diwinydda. Cyfeirir at y gweithgarwch hwn fel gwneud diwinyddiaeth neu, yng ngeiriau'r Athro D.P. Davies, rhoi diwinyddiaeth ar waith. Hoffwn, fodd bynnag gynnig gair Cymraeg newydd i'w ddisgrifio, sef "ymddiwinydda", a'r hyn y ceisiaf ei wneud yn y gweddill o'r ysgrif hon yw diffinio'r gair hwnnw. EIN GWAITH NI Nid wyf fi fawr o ramadegydd, ond hyd y deallaf, mae'r rhagddodiad yn neu ym yn y lle cyntaf yn nodi rhywbeth a wnâf drosof fy hunan, felly rwy'n golchi dillad yn y peiriant ond yn ymolchi yn y baddon. Yn yr un modd, pan ydym yn ymddiwinydda, rydym yn ymwrthod â'r diogelwch o gael rhywun arall i ddiwinydda drosom, ac yn ymgymryd â'r gwaith ein hunain. A'r ni yna yw pawb o bobl Dduw y rhai sy'n cyffesu Crist yn Arglwydd ac yn Waredwr. Yn wir dylai fod yn brawf o'n hymroddiad i Grist ein bod yn barod i ymddiwinydda. Mae'r ni yna felly yn cynnwys gweinidogion a lleygwyr, yr academ- yddion a'r rhai na fentrent byth i faes felly, y gwyr a'r gwragedd a'r hynafgwyr a'r plant. Serch hynny, er fod ymddiwinydda yn weithgarwch ar gyfer pob unigolyn, ni allwn ei wneud o ddifrif ond gyda'n gilydd y mae'n waith i'r corff cyfan. GWAITH Y DEYRNAS YN EIN CYMDEITHAS Mae'r geiryn ym yna hefyd yn awgrymu i mi, beth bynnag, y syniad o wneud rhywbeth o fewn cyd-destun arbennig. Y diffyg mawr yn ein diwinydda academaidd yw ei fod mor aml heb ei berthnasoli i fywyd pob dydd. Rhaid i ymddiwin- ydda, fodd bynnag, ddigwydd o fewn ein sefyllfa real, hynny yw, rhaid i ni sicrhau nad yw ein diwinyddiaeth yn aros hyd braich, ond yn hytrach yn ymwneud â phob agwedd ar fywyd. Nid proses hawdd mo hyn, fodd bynnag, oherwydd os ydym yn ystyried y peth o ddifri, fe sylweddolwn fod yna ambell SIÔN ALED "Pan ydym yn ymddiwinydda rydym yn ymwrthod a'r diogelwch o gael rhywun arall i ddiwinydda drosom, ac yn ymgymryd a'r gwaith ein hunain Y diffyg mawr yn ein diwinydda academaidd yw ei fod mor aml heb ei berthnasoli i fywyd pob dydd" i beth y byddai'n well gennym pe na bai'r Efengyl yn ei gyffwrdd. Ond mae wynebu y pethau hynny gyda'n gilydd yn rhan allweddol o her ymddiwinydda. YR ANGOR YW'R BEIBL Os ydi hi'n gamsyniad i gyfyngu'n diwinydda i faes academaidd, yna gall hefyd fod yn beryglus iawn i ni ddiwinydda yn unig mewn ymateb i anghenion ein cymdeithas. Nid yw ymddiwinydda felly'n golygu rhoi rhwydd hynt i'n syniadau ni ein hunain gan greu ein hatebion ein hunain i'n problemau. Wedi'r cyfan, mae'r term diwinydda ei hun yn rhagdybio ei fod yn ganolog yn ymwneud â Duw a'i weithgarwch ef yn ei fyd. Er ei bod yn bosibl adnabod arwyddion gweithgarwch Duw ym mhobman o'n cwmpas, yn y greadigaeth naturiol, er enghraifft, y lle y dewisiodd Duw ddatguddio ei hun yn ei gyflawnder yw yn y Beibl ac yn y Person sy'n ganolog i'r llyfr hwnnw, sef Iesu Grist. Yr unig angor sicr y mae'n bosibl i ni ei gael, felly, yw'r Beibl, Gair Duw ei hun. Y mae'n holl bwysig nid yn unig fel datguddiad o ewyllys Duw, ei ddeddf a'i gariad, ond hefyd fel cronicl o ymwneud Duw â'i bobl dros gyfnod o dros ddwy fil o flynyddoedd. Mae hefyd yn dangos i ni sut yr ymatebodd y bobl hynny mewn nifer fawr iawn o sefyllfaoedd, gan ddarlunio'n ddidderbynwyneb eu llwyddiannau a'u methiannau, eu hufudd-dod a'u pechod. Mewn brawddeg, mae'n adrodd hanesion pobl fel ni yn ymwneud â'r un Duw y proffeswn ninnau ei addoli. "PA LE, PA FODD DECHREUAF .?" Mae ymddiwinydda, felly, yn rhagdybio ein bod yn cymryd Iesu Grist a'r Beibl yn gwbl o ddifri, waeth pa mor ang- hyfforddus y gall hynny ar brydiau fod. "Sut?" yw'r cwestiwn amlwg nesaf. Mae ymddiwinydda'n broses gylchog, yn parhau o un cam i'r llall, ac nid oes rheol lle rydym i gychwyn, ond er mwyn eglurdeb, gosodwn y camau fel hyn: