Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(1) Mae angen i ni adnabod y pwyntiau allweddol yn ein cenedl/tref/cymuned y mae angen i'r Efengyl gyffwrdd â hwy. Mae rhai agweddau, wrth gwrs, yn berthnasol i'r genedl gyfan, eraill ond i gymunedau gweddol fach, a'n pender- fyniad ni yw dewis ar ba lefel i weithio. Serch hynny, fe fyddwn yn darganfod yn aml fod y pethau sy'n mynnu'n sylw ninnau hefyd yn rhan o brofiad Cristnogion eraill mewn rhannau eraill o'r byd. Mae hyn yn arbennig o wir, er enghraifft, ym mater y profiad o fyw mewn diwylliant lleiafrifol sydd dan fygythiad oddi wrth ddiwylliant arall mwy pwerus. (2) Yn nesaf, rhaid gofyn i'n hunain ynglyn â phob un o'r materion hyn: beth sydd gan y Beibl i ddweud amdano? Oes yna hanes yn y Beibl lle bu pobl Dduw, neu Iesu Grist ei hun, yn wynebu sefyllfa oedd mewn egwyddor yn gyffelyb? Wrth droi at y Beibl fel hyn, mae'n rhaid cofio dau beth. Yn gyntaf, mae pobl Dduw yn y Beibl hefyd wedi eu gosod mewn sefyllfa ddiwylliannol arbennig, felly fe fydd eu hymateb hwy i'w ewyllys ar y gorau, yn addas i'w cyd-destun eu hunain, ac ar y gwaethaf, wedi ei wyrdroi gan y cyd-destun hwnnw. Y mae hefyd yn wir, wrth gwrs, fod Duw ei hun yn llefaru â'i bobl mewn ffordd sy'n ddealladwy iddynt yn eu sefyllfa arbennig hwy. Mae'n bwysig i ni holi ein hunain, felly, beth y mae'r Ysbryd Glân yn ei ddweud wrthym drwy'r Gair, a holi beth ddylai ein hufudd-dod ninnau fod yn ein cyd-destun. A rhoi enghraifft amlwg iawn, gofynnwn i'n hunain a yw gorchymyn Paul i'r merched guddio eu pennau yn yr addoliad yn golygu y dylem ninnau ei ddilyn yn llythrennol heddiw, ynteu ai arall yw'r egwyddor sylfaenol dan sylw? (Mewn achosion fel yna, gyda llaw, y gallwn weld y cyswllt angenrheidiol ddylai fod rhwng diwinyddiaeth academaidd a'n hymddiwinydda, oherwydd o ymchwil yr ysgolheigion y cawn oleuni ar gyd-destun ehangach y Beibl). Yr ail beth y mae'n rhaid ei gadw mewn cof yw fod y Beibl wedi ei ysbrydoli'n gyfanrwydd. Drwy'r canrifoedd aeth unigolion, ac eglwysi cyfan, ar gyfeiliorn drwy roi gormod o bwys ar ran neu rannau o'r Ysgrythur ar draul ystyriaeth o'r cyfanrwydd. Yn y modd hwn, er enghraifft, y ceisiodd rhannau o'r Eglwys yn Ne Affrica ddadlau dros egwyddor apartheid ar sail rhai adnodau o'r Hen Destament! Felly, peidiwn â dod i gasgliad ar sail un neu ychydig o adnodau, neu unrhyw un hanesyn yn unig, ond yn hytrach gofynnwn "Y GORCHFYGWR MAWR" Yn ufudd ar y Bryn A'i ystlys bur yn friw, Croeshoeliwyd un prynhawn Ein hannwyl lesu gwiw, Dioddefodd frath y bicell fain A sen a gwawd y goron ddrain. Ein pechod ffiaidd, cas A'i rhoes ar Galfari; Estynnodd ef o'i fodd Faddeuant llawn i ni. Trwy ryfedd rin ei ddwyfol waed. Fe olchir myrdd o'r duaf gaed. hefyd beth y mae'r gweddill o'r Beibl yn ei ddweud wrthym am y pwnc. GWEITHREDU (3) Yn drydydd, rhaid gweithredu ar yr hyn a ddysgwn. Heblaw ein bod yn barod i wneud hyn, nid ymddiwinydda a wnawn, ond cyflawni rhyw ymarfer deallusol allai fod yn hwyl i ni ond na fydd o fudd i neb arall. Gall y gweithredu hwn fod mewn ffordd allai ymddangos yn ddibwys, neu ar y pegwn arall, gall fod ar raddfa eang a mentrus dros ben. Fe gawn ystyried rhai enghreifftiau posibl yn nes ymlaen yn y gyfres hon o erthyglau. (4) Y pedwerydd cam yw dod a'n profiad a'n gweithgarwch yn ôl at y Beibl, a gweld sut y mae hynny'n goleuo ein dealltwriaeth o'r Ysgrythur. Y canlyniad gorau o hynny fydd i'r Gair ein cyfeirio'n ôl at rhyw agwedd arall ar y pwnc y buom yn ymdrin ag ef, neu at ryw sefyllfa gwbl wahanol yn ein cymdeithas, a dyna'r cylch yn dechrau troi unwaith eto! GWEDDI Y mae'n hollbwysig, hefyd, fod gweddi yn cyd-wau drwy ein holl ymddiwinydda gan adlewyrchu ein dibyniaeth llwyr, yn y pen draw, ar arweiniad yr Ysbryd Glân. Heblaw fod hynny'n digwydd ni fydd ein gweithgarwch yn weithgarwch diwinyddol o gwbl. Fel y crybwyllais uchod, byddaf yn parhau â'r gyfres hon mewn rhifynnau dyfodol o Cristion. Yn arferol, wrth gwrs, gweithgarwch wyneb-yn-wyneb rhwng pobl ddylai ymddiwinydda fod, ond fel ymgais tuag at wneud fy ymdriniaeth â'r pwnc mor driw â phosibl i'r egwyddor dan sylw, byddwn yn falch o dderbyn unrhyw ymateb i'r hyn a geir uchod, neu syniadau ynglŷn â sut y dylai'r drafodaeth barhau, ac fe geisiaf eu hystyried wrth i'r gyfres fynd rhagddi. Ysgrifennwch ataf yn 165 Ffordd Cefndy, Y Rhyl, Clwyd LL 18 2HG. Sion Aled yw'r Ysgrifennydd Rhanbarthol ar gyfer esgobaethau Bangor, Caer a Llanelwy a Threfnydd Rhanbarth Cymru o Gymdeithas Genhadol yr Eglwys (CMS). Er llid y milwyr gynt Yn selio'r oerllyd fedd, Fe atgyfododd Crist A choncwest yn ei wedd. Gorchfygwr bedd a phechod yw, Cydlawenhawn mae'r lesu'n fyw! Betws-y-Coed John Lloyd