Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Patrymau o Weinidogaeth GWEINSDOGÂETH BRO MARTIN EVANS-JONES Beth yw Gweinidogaeth Bro? Ei phrif nodwedd yw fod gweinidog cydnabyddedig un o'r enwadau yn gwasanaethu cynulleidfaoedd sy'n perthyn i ddau neu ragor o enwadau o fewn i ardal arbennig. Rhoddir cyfle felly i weinidog ddod i adnabod un fro ac un gymdeithas o bobl yn drylwyr, yn hytrach na phigion digyswllt o lawer bro. Trwy hynny cyfoethogir ei wasanaeth i'w ardal ac yn bwysicach oll, fe hyrwyddir cenhadaeth Crist. Dyma'r bwriad, beth bynnag. Fe'm sefydlwyd fis Medi diwethaf i fod yn weinidog ar eglwys gyd-enwadol Seion, Llangollen sydd yn cynnwys Presbyteriaid, Annibynwyr, Wesleiaid, a Bedyddwyr, hynny yw, PAWB! Yn ychwanegol, mae dwy eglwys fechan arall o fewn fy ngofalaeth, sef eglwys Wesleaidd Hebron, y Rhewl, ac eglwys Bresbyteraidd Bethesda, Pentredwr, a disgwylir iddynt gyd-addoli gymaint ag sydd bosibl, ond dal at eu hadeiladau a'u tystiolaeth yn eu hardal eu hunain. Y FRWYDR HEDDIW Mae'r fro yn un o'r rhai harddaf yng Nghymru ar lan yr afon Dyfrdwy, yn agos i'r goror gyda chastell Dinas Brân uwchben yn atgof parhaus o'r brwydro a fu i feddiannu'r dyffryn cydrhwng y Cymro a'r Sais. Yr un yw'r frwydr heddiw, ond yn un heddychlon, i gadw'r diwylliant Cymraeg yn fyw, yn wyneb effeithiau andwyol y mewnlifiad a'r diwydiant ymwelwyr sydd bron â boddi Cymreictod y dyffryn. Diolch bod ysbryd mor oddefgar yn bod yn Llangollen, ysbryd a sefydlwyd gan yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol ar ôl y rhyfel i gymodi pobloedd â'i gilydd, ag sy'n dal yn nodweddiadol o'r cylch, yn enwedig ym mherthynas y Sais a'r Cymro a'r eglwysi â'i gilydd hefyd. Mae Cyngor Eglwysi byw iawn yma, yn cyd-addoli yn gyson, yn cyd-drafod y ffydd, ac yn cyd-weddío. Bod yn llysgennad, felly, yw fy mhriod waith.-arwydd o'r angen parhaus bontio'r camddealltwriaeth all godi yn ein plith gan gadw'r sylw ar y cymod a sefydlodd Crist trwy ei Groes a'i Atgyfodiad. Heb i'r eglwysi Cymraeg fod wedi dod at ei gilydd a llwyddo I sefydlu gweinidogaeth bro yma, wedi ymdrech "Heb i'r eglwysi Cymraeg fod wedi dod at ei gilydd a llwyddo i sefydlu gweinido- gaeth bro, ni fuasai tystiolaeth Anghydffurfiol Gymraeg yn bod yma mwyach." yn ymestyn tros ugain mlynedd, ni fuasai tystiolaeth Anghydffurfiol Gymraeg yn bod mwyach. Mae testun diolch mawr i'r gwroniaid Cristnogol ffyddlon hyn, yn ddynion ac yn ferched, a Iywiodd y ffordd mor amyneddgar nes llwyddo i gael gweinidog Cymraeg i fyw yn y fro, y cyntaf ers blynyddoedd lawer. Mae hyn ynddo'i hun yn tanlinellu pwysigrwydd Gweinidogaeth Bro. Gobeithio yn wir y byddaf yn deilwng o'r ffydd a ymddiriedwyd ynof. Wrth gwrs dim ond rhan o'm hamser allaf ei roi i'r alwedigaeth hon. Mae'r gweddill yn mynd at gynnal yr Eglwys Wesleaidd yng Nghymru, fel Cadeirydd y Dalaith. NEWID BYD Mae wedi bod yn dipyn o newid ar fyd i ni ein dau! Cyn hyn yr oeddem yn y De, yn ardal Abertawe, yn gweinidogaethu gyda'r Saeson ymysg myfyrwyr y colegau gydag un eglwys fywiog iawn yn cynyddu mewn aelodaeth ac un arall fechan oedrannus mewn ardal oedd wedi colli ei Chymraeg ers cenhedlaeth. Ysgytiad yn wir, i'r corff a'r enaid! Mae wedi golygu ymchwiliad manwl o holl ystyr ein galwedigaeth fel dilynwyr Grist. Tarewir ni yn syth gan ddau wahaniaeth mawr: 1. Diflaniad yr ieuanc o'r eglwys. Wrth reswm mae hyn i'w wneud â'r ymadawiad Loegr a thramor am waith. Mae i'w wneud hefyd â'r ffaith mai Saesneg yw'r iaith a arferir gan yr ifanc yn y dref, tref lle nad oes ysgol Gymraeg yn bod ynddi mwyach. Ac mae i'w wneud hefyd â'n methiant ni yn yr eglwysi i ddal diddordeb yr ifanc trwy addasu ein dulliau o addoli ac o redeg yr eglwys i roddi IIe a mynegiant iddynt yn eu ffordd eu hunain fel y gallant ddod o hyd i'r Crist byw. Nid yw popeth yn dywyll o bell ffordd. Yn eglwys y Rhewl mae gennym Ysgol Sul fach ond bywiog iawn. Mae'r aelodau, tua dwsin ohonynt, o wahanol enwadau a'u rhieni yn awyddus iawn iddynt gael sylfaen Cristnogol i'w bywydau. Mae'r athrawon yn ifanc ac yn defnyddio dulliau cyfoes ac amrywiol ddilyn maes liafur Beiblaidd diddorol. Mae eu brwdfrydedd yn codi'n calon. 2. Oedran yr aelodaeth. Mae'r cyfartaledd yn agos at y saithdegau a'r rhelyw yn dynesu at ddiwedd y daith. Felly, dathlu angladdau yn hytrach na bedyddio a phriodi fyddaf ran amlaf. Rhaid cydnabod fod hyn yn ffordd ardderchog o ddod adnabod y gymdogaeth ac i weinyddu i bobl neges obeithiol yr efengyl yng nghanol eu hargyfwng. Sylweddolais hefyd ddyfnder cymeriad Cristnogol llawer iawn ohonynt. Pan oedd eu capeli hwy yn edwino ymunasant â'i gilydd fel enwadau Cymraeg gan gytuno sefydlu mewn un capel er mwyn sicrhau tystiolaeth Gristnogol Gymraeg yn y dref. Nid rhyfedd mae'r creme de la creme a ddaliodd ati yn gadarn.