Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Seion, Llangollen CREDU YN Y DYFODOL Beth am y dyfodol? A oes yna ddyfodol i eglwys mor oedrannus? Rhaid credu o hyd, yn nerth Duw, fod yna ddyfodol. Dro ar ôl tro yn hanes pobl Dduw, pan oedd y gannwyll bron â diffodd a dim ond cynulliad ffyddlon ar ôl, cyfododd Duw 'flaguryn allan o gyff Jesse'. Y bychan sy'n hardd yng ngolwg Duw; gyda cychwyniadau dinod y mae Ef yn gweithredu rhan amlaf. Y datblygiad mwyaf calonogol yw'r dosbarthiadau dysgu Cymraeg a gynhelir yn y capel ac yn y llyfrgell gyda deugain wedi cofrestru y gaeaf yma. Aelodau o'r eglwys yw asgwrn cefn y dosbarthiadau ac eisoes y mae rhai o'r dysgwyr wedi dod i mewn i addoliad yr eg!wys o ganlyniad. Pan oeddwn yn gaplan colegau Caer- dydd heb adeiladau i boeni amdanynt, yr her oedd sefydlu cenhadaeth Crist yng nghanol bywyd y coleg. Cymerais fantais o'r cyfle i allu cyfathrachu â phobl o bob math, oddi allan i'r ffydd Gristnogol. Dyma un o brif ragoriaethau gweinidogaeth bro, sef gallu bod yn bresenoldeb Cristnogol yn y fro trwy allu cyfathrachu â phawb. Er enghraifft, cynhaliwyd Sul y Maer yn y capel gan fod y Maer presennol yn awyddus i gychwyn ei blwyddyn gyda gwasanaeth crefyddol Cymraeg a thrwy hyn daethpwyd i gysylltiad ag arweinyddion y gymdeithas. Trwy ddod gysylltiad â'r ysgolion, y cartrefi henoed a gweith- gareddau eraill yn y dref a'r fro, mae'n bosibl codi pontydd a dangos fod gan Eglwys Crist gyfraniad pwysig i fywyd y gymdeithas. Hi yw'r burum yn y dorth. YSTYR GWEINIDOGAETH Rhagoriaeth arall gweinidogaeth bro yw nid yn unig ei bod yn rhoi ymwybyddiaeth ehangach o ystyr bro, ond ymwybyddiaeth ehangach o ystyr gweinidogaeth hefyd. Sen ar y gweinidog ordeiniedig yw ei sefydlu yn fugail ar fro sydd yn cynnwys nifer fawr o gapeli ac yna gadael llonydd iddo wneud y cwbwl ar ei ben ei hun. Gan nad yw'n bosibl i'r gweinidog ordeiniedig fod ym mhob man, rhydd gyfle ardderchog i'r ysbryd ddatguddio doniau gweinidogaethol yn y praidd eu hunain, fel bugeiliaid dros gorlan fechan, fel pregethwyr, fel iacháwyr, fel gweddïwyr, yn ferched ac yn ddynion. Pwrpas gweinidogaeth bro yw dadmer pobl Dduw rhag rhewi'n llwyr a'u hadfywio wasanaethu'r Deyrnas! CYSYLLTIAD Yn ddiweddar cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Cysylltiad, Bwletin newydd Cyngor Ysgolion Sul Cymru. Bwriad y Bwletin yw bod yn ddolen gyswllt rhwng Swyddogion Datblygu'r Cyngor a'r Ysgolion Sul. Ynddo ceir manylion am gyrsiau, gweithgareddau a nifer o ddigwyddiadau yn lleol a chenedlaethol. Yn eu cyfarchion dywed y Swyddogion Datblygu: "Y mae yma ddau ohonom yn gweithio fel swyddogion datblygu i'r Ysgol Sul. 'Rydym ar gael i'ch cynorthwyo gyda unrhyw agwedd o waith yr Ysgol Sul. I gynorthwyo gydag adnoddau- fideos, stribedi ffilm, adnoddau clywedol a gweledol. I drefnu arddangosfa o Iyfrau addas ar gyferyr Ysgol Sul, oedfaon, neu glwb plant. -I hyfforddi a chalonogi athrawon Ysgol Sul. Beth am gynnal noson i athrawon Ysgol Sul yn eich ardal? I gynorthwyo gyda sesiynau yn eich clwb plant. I drefnu noson neu ddiwrnod arbennig i blant neu ieuenctid eich ardal." Dyma rai o'r digwyddiadau y ceir manylion amdanynt: GWERSYLL YSGOLION SUL YN LLANGRANNOG Ebrill 9-13 ar gyfer rhai 11-15 oed. Ebrill 16-20 ar gyfer rhai 8-11 oed. Dwy wythnos arbennig i blant yr Ysgol Sul a'u ffrindiau. Cyfle i gael hwyl wrth ddysgu am lesu. Cyfle hefyd ymlacio a mwynhau: merlota, nofio, beicio, sglefrio, llethr sgïo newydd, a llawer mwy. £ 55 y pen. Trwy Iwyddiant gweinidogaeth bro credaf fod Duw ei hun yn herio Cymru. Gellir cymharu'r sefyllfa i ddyffryn yr esgyrn yn Eseciel 37, lle y gofyn Duw i'r proffwyd, "Fab dyn, a all yr esgyrn hyn fyw?" ac yna gorchmynnir iddo ddweud wrth yr anadl, "Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; O anadl, tyrd o'r pedwar gwynt, ac anadla ar y lIaddedigion hyn, iddynt fyw". Gweddïwn felly am Iwyddiant ar bob menter o'r fath. Ers mis Medi y llynedd bu'r Parchg. Martin Evans-Jones yn weinidog bro Llangollen. Ef hefyd yw Cadeirydd Talaith Cymru o'r Eglwys Fethodistaidd. Cyn ei benodiad i'w swydd bresennol bu'n gaplan colegau yn Abertawe a chyn hynny yng Nghaerdydd. Bwletin i'r Vsgolion Sui DIWRNOD I YSGOLION SUL: BUTLIN'S PWLLHELI. Mehefin 30 a Gorffennaf 7. Gwasanaeth Croeso-Sioe Arbennig-Holl atyniadau arferol Butlins. Tocynnau £ 3 yr un; £ 2 i bensiynwyr. GWERSYLLOEDD MIRI MAI! 1990 Gwersylloedd Penwythnos yng Nghanolfan Rhyd-ddu. Cynhelir gwersyll arbennig i rai rhwng 8 ac 11 oed o nos Wener, Mai 11 hyd Ddydd Sul, Mai 13 yng nghanolfan yr Hen Ysgol, Rhyd-ddu, a gwersyll arall i rai rhwng 11 a 15 oed o Fai 18 i'r 20. Lle 20 sydd ar bob gwersyll, felly gyrrwch enwau yn syth. Y cyntaf i'r felin gaiff wersylla. Cost £ 10 y pen. Manylion pellach am y gweithgareddau hyn a llawer mwy i'w cael oddi wrth y ddau Swyddog Datblygu: Y Parchg. Aled Davies, Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol, Ysgol Addysg, C.P.G.C., Ffordd Deiniol, Bangor, Gwynedd LL57 2UW. Ffôn: (0248) 351151. Ext. 2947/2956. D. Nigel Davies, Canolfan Adnoddau, Coleg y Drindod, Caerfyrddin, Dyfed SA31 3EP. Ffôn: (0267) 237971.