Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dwy ysgrif yn trafod cyfraniad ac arwyddocâd C.S. Lewis a aned 90 o flynyddoedd yn ôl: Alun Page ar C.S. Lewis, y CristIon. Tim Saunders ar C.S. Lewis, y Llythyrwr. Co 80 Lewis A CHREDO'R CRISTION Pwy fuasai'n meddwl y byddai hanes carwriaeth ysgolhaig uchel-ael yn sail i ddrama sy'n denu cynulleidfaoedd theatr yn Llundain? Dyna yw Shadowlands. Chwaraeir rhan C.S. Lewis gan yr actor Nigel Hawthorne, adnabyddus fel Syr Humphrey yn y gyfres deledu Yes, Minister, a rhan ei gariad, Joy Davidman, gan Jean Lapotaire. Cafwyd telediad gwych gan HTV dro'n ôl a Joss Ackland yn chwarae rhan Lewis. Hanes dau'n dysgu caru'i gilydd yn nawnddydd bywyd yw'r ddrama. Cyfarfu C.S. Lewis â Joy Davidman pan oedd yn wr enwog wedi dod i'r brig. Daeth i fri mawr nid yn gymaint fel ysgolhaig safonol ym maes llenyddiaeth Saesneg ond fel dehonglydd hynod boblogaidd o'r grefydd Gristnogol. Buasai rhai am ddadlau mai Lewis oedd y dylanwad pell-gyrhaeddol effeithiol i gyflwyno neges yr Efengyl i gymdeithas secwlaraidd ei naws a dueddai i osod crefydd ymhlith y pethau a fu, yn rhywbeth hen-ffasiwn oedd wedi hen golli'i werth. Roedd y cyfuniad athrylithgar yn Lewis o wybodaeth a dealltwriaeth dreiddgar ynghyd â'i brofiad o fod yn un o'r dychweledigion yr ymaflwyd ynddo gan ras Duw yn ddigon o ryfeddod. Ysgolhaig elitaidd a dehonglwr diwinyddol yn fawr ei apêl i bob math o bobl: cyfuniad hynod iawn. CEFNDIR Y TEULU Er i C.S. Lewis fod yn amlwg yn y cylchoedd mwyaf dethol yn Lloegr, yn arbennig ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, rhaid mynd i Ogledd Iwerddon, i Belfast, i gael hyd i'r gwreiddiau. Ganwyd ef yno ar 29 Tachwedd 1898 yn fab i Albert Lewis, cyfreithiwr, mewn awyrgylch dosbarth canol cyfforddus. Diddorol sylwi bod yr achau'n ymestyn yn ôl i Gymru: ei hen, hen datcu yn ŵr o Gaergwrle. Bu ei fab yntau, Joseph Lewis, yn weinidog Methodus ac yn gryn areithiwr pulpudol yn ôl pob sôn. Un o feibion hwnnw, Richard, a droes i gyfeiriad Cork yn Iwerddon. Gwr a ddringodd yn gymdeithasol drwy fawr ymdrech; yn hunan ddiwylliedig mewn dull nodweddiadol o Oes Fictoria, a ddaeth ymlaen yn y byd ym maes y diwydiant codi llongau. Ymfudodd i'r gogledd ym 1886 i Belfast a gofalodd i roddi cyfle addysgol da i'w fab, Albert. Roedd mam C.S. Lewis, Florence neu Flora, yn dod o blith teulu mwy dyrchafedig yn gymdeithasol. Ei thad, Thomas Hamilton, yn offeiriad plwy yn yr Eglwys Anglicanaidd ac wedi cael gyrfa hynod. Gwr gradd o Goleg y Drindod, Dulyn, wedi bod yn gaplan yn y Llynges adeg Rhyfel y Crimea, ac yn gaplan i'r praidd Protestannaidd yn Rhufain o bob man! Priododd â Mary Warren o dras aristocrataidd. Dyma a ALUN PAGE NIGEL HAWTHORNE ı' ^Wm "PACKD WITH EMOTIONAL BOMBSHELLS" TIME OUT QUEENS THEATRE A SíOu IHEAIRS SHAFTISBURY AVI, Wl 3m OFFiCE 734 1 166 24 HRS 379 4444 741 9999 240 7200 (NO BKG FEES' GROUPSALES 930 6123 ddywedir wrthym am ei mam hithau; "This clever and aristocratic woman was a typical daughter of a Southern Irish seigneur of a century ago". Dyna rai o'r dylanwadau yng nghefndir Clive Staples Lewis. Fe'i danfonwyd i ysgolion preswyl yn Lloegr, a chafodd rai profiadau chwerw. Pan ddaeth Rhyfel 1914-18 cafodd ei hun ar faes y gad yn Fflandrys ac fe'i clwyfwyd. Yn wir, cariodd rai darnau o shrapnel yn ei gorff weddill ei oes gan na lwyddodd y llawfeddygon i gael gwared ohonynt. Graddiodd ym mhrifysgol Rhydychen yn ddisglair iawn, a thrwy gymorth deallus ei dad glynodd yno'n dilyn cyrsiau gwahanol nes cael ei benodi'n Gymrawd o Goleg Magdalen ym 1925. O hynny ymlaen datblygodd ei yrfa academig yn un o uchafbwyntiau'r Adran Saesneg. Cyhoeddodd lyfrau ysgolheigaidd o bwys, er enghraifft The Allegory of Love, a chyfrol werthfawr o hanes llenyddiaeth Saesneg yn y 16eg. ganrif. Cyhoeddodd lawer o nofelau megis Perelandra ac Out of the Silent Planet yn rhoi tragwyddol heol i'w ddychymyg byw, yn gyfuniad o ffuglen wyddonol a rhyw islais ddamhegol yn rhedeg trwy'r cyfan. Gellid gweld ynddynt dract ar gyfer yr amserau yn ogystal â stori gyffrous. Cynhyrchodd amryw byd o lyfrau plant. EI YRFA GREFYDDOL Ond diddordeb pennaf Lewis inni yw ei yrfa grefyddol. Yn ystod cyfnod ei lencyndod collodd ei ffydd a datblygodd yn